- Math o ddigwyddiad:
- Overseas
- Dyddiad ac amser:
- to
- Lleoliad:
- Messe Dusseldorf
Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni ar stondin Cymru neu i ymuno â ni fel ymwelydd yn Medica 2026, Düsseldorf, yr Almaen.
Pam Medica?
MEDICA yw un o ddigwyddiadau mwya’r byd ar gyfer y sector meddygol, gan ddenu rhagor na 4,800 o arddangoswyr o 165 o wledydd, gan amrywio o fusnesau o fri rhyngwladol i gwmnïau bach, a thros 78,000 o ymwelwyr. Bydd cyfleoedd allforio da i fusnesau’r sector yng Nghymru.
MEDICA - medical technology trade fair - Düsseldorf / Germany (medica-tradefair.com)
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr - Mae'r gost arddangos un ai yn £4,200 am stondin mawr neu’n £3,000 am uned lai.
- Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 4 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Ian)
- Tocyn 4 diwrnod i arddangosfa Medica
- Stondin arddangos a chofrestru ar gyfer yr arddangosfa
- Cofnod ar-lein/catalog
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd - Mae'r gost yn £900. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 4 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Iau)
- Tocyn 4 ymwelydd ddiwrnod i Medica
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Cynigir y cyfle hwn i un cynrychiolydd yn unig o bob cwmni.
Manylion Y Digwyddiad
Pryd – 15-19 November 2026
Sectorau – Gwyddorau bywyd a Medtech
Ble – Düsseldorf, Yr Almaen
Trefn
15 Tachwedd – Gadael am Düsseldorf
16-19 Tachwedd – MEDICA/Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
19 Tachwedd – Dychwelyd i Gymru.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Sylwch, os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 4 Medi 2026, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiaau:
4 Medi 2026 Arddangoswr a Chynulleidfa gyda Thwristiaeth a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw)
16 Hydref 2026 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Mae prisiau yn cynnwys TAW.
*Os bydd lle ar gael.