Nid yr Hysbysiad Preifatrwydd cywir? Chwiliwch am yr un cywir ar Mynegai Hysbysiadau Preifatrwydd Busnes Cymru.
Cafodd y rhybudd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 23 Mai 2025.
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru a'r darparwyr Gwasanaeth Arloesi. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut y byddwn yn defnyddio eich data personol a hefyd yn nodi eich hawliau. Fe'i gwneir o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR).
Treuliwch ychydig o funudau yn ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth gael mynediad at gymorth a gwasanaethau arloesi. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Pam rydym yn casglu ac yn prosesu’ch data personol
Rydym yn casglu ac yn prosesu eich data personol i'n galluogi i reoli a darparu Gwasanaethau Cymorth Arloesi Llywodraeth Cymru a rhaglenni cysylltiedig o dan Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae'r ffyrdd yr ydym yn defnyddio'r data yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- darparu'r cyngor a'r wybodaeth fwyaf priodol i chi
- monitro cynnydd, canlyniadau ac effeithiau'r Strategaeth Arloesi
- gwerthuso'r Strategaeth Arloesi i lywio penderfyniadau ar bolisïau'r dyfodol
- cynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol dienw
- dibenion archwilio
- gweithgaredd hyrwyddo
- ac fel rhan o ganlyniadau cyfanredol i'w defnyddio mewn amrywiol adroddiadau
Pa ddata fydd yn cael eu casglu?
Byddwn yn casglu a phrosesu’r data personol a ganlyn:
- enw
- cyfeiriad busnes
- cyfeiriad e-bost busnes
- rhif ffôn busnes
Mae peth o'r data rydyn ni'n eu casglu yn 'ddata categori arbennig', yn yr achos hwn:
- Rhywedd
- Ethnigrwydd
- Statws o ran anabledd
O dan Erthygl 9(2)(j) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, bydd Tim Arloesi a Gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn prosesu data categori arbennig lle bo'n angenrheidiol at ddibenion ymchwil neu ystadegol yn unol ag Erthygl 89(1), ar yr amod bod y prosesu yn gymesur â'r nod a geisir, yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data ac yn darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddiannau gwrthrych y data.
Pwy fydd yn cael gweld eich data?
Bydd Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru, contractwyr gwasanaeth trydydd parti Llywodraeth Cymru, a chontractwyr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn casglu ac yn storio eich data.
Bydd eich data yn cael ei storio ar System TG ddiogel Llywodraeth Cymru, systemau TG diogel ein contractwyr gwasanaeth trydydd parti sy'n darparu'r gwasanaeth i chi, a gweinyddwyr diogel contractwyr ymchwil a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n cael eu casglu a'u rhannu gyda'r sefydliadau canlynol at y dibenion a restrwyd yn flaenorol:
- Contractwyr ymchwil cymeradwy, a gomisiynir gan Lywodraeth Cymru i fonitro a gwerthuso cynnydd, canlyniadau ac effeithiau'r Strategaeth Arloesi.
- Timau cymorth gwasanaethau Llywodraeth Cymru a'r gweinyddwyr technegol sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr systemau technegol yn defnyddio'ch manylion mewn unrhyw ffordd.
- Swyddfa Archwilio Cymru neu'r rhai sy'n gweithredu ar eu rhan, neu archwilwyr priodol eraill y Darparwyr Gwasanaethau Arloesi.
- Darparwyr cymorth busnes eraill a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Swyddfa Eiddo Deallusol, Awdurdodau Lleol, Sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch a allai ddarparu cymorth pellach i chi, pan fo'n briodol.
Am ba hyd ydyn ni'n cadw'ch data personol?
Bydd eich data personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 10 mlynedd yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru, ac yn cael eu dinistrio'n ddiogel wedi hynny.
Bydd contractwyr gwasanaeth trydydd parti a chontractwyr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn dileu eich data personol, gan gynnwys eich manylion cyswllt, o fewn 3 mis ar ôl diwedd y contract.
Marchnata ac Ymchwil
Mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Llywodraeth Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data heb eich caniatâd at y diben penodol hwn.
Mae'n bosibl y bydd contractwyr ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cysylltu â chi i fonitro a gwerthuso gweithgareddau'r Strategaeth Arloesi. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi, bydd diben y cyfweliad neu'r arolwg yn cael ei esbonio wrthych a chewch ddweud a ydych am gymryd rhan yn y broses ai peidio. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y gwaith ymchwil.
Beth yw eich hawliau?
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi;
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
- (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data;
- (o dan rai amgylchiadau) gofyn i’ch data gael eu ‘dileu’;
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael help gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â'n Llinell Gymorth Busnes Cymru 03000 6 03000, rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg, neu defnyddiwch y ffurflen cysylltu â ni Cysylltu â ni | Busnes Cymru (llyw.cymru).
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad e-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Customer Contact
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Caiff Llywodraeth Cymru newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma a byddant yn dod i rym ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n cael eu gwneud, byddwn yn cysylltu â chi drwy’r cyfeiriad e-bost sydd gennym ar gofnod yn eich cyfrif er mwyn ichi allu gweld y fersiwn newydd.