Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Digwyddiadau Arloesi Llywodraeth Cymru

Nid yr Hysbysiad Preifatrwydd cywir? Chwiliwch am yr un cywir ar Mynegai Hysbysiadau Preifatrwydd Busnes Cymru.

Yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn sicrhau y bydd eich data personol yn cael eu prosesu mewn modd teg, cyfreithlon a thryloyw.

Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, rydych yn cytuno y gellir defnyddio'r data personol a gyflwynwch wrth gofrestru fel a ganlyn:

  • I gysylltu â chi ynglŷn â'r digwyddiad
  • Cofrestru a chydlynu presenoldeb
  • Rheoli trefniadau arlwyo a hygyrchedd
  • Paratoi deunyddiau ar gyfer y digwyddiad (ee bathodynnau enw)
  • I anfon holiadur ar gyfer y digwyddiad
  • Gweithgareddau hyrwyddo Cynnig Cymorth Arloesi Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid 
  • monitro cynnydd, canlyniadau ac effeithiau'r Strategaeth Arloesi

Os nad ydych chi am inni gysylltu â chi yn y dyfodol, rhowch wybod drwy e-bostio arloesedd@llyw.cymru  

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a ddarperir gennych er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn. Byddwn ni'n prosesu'r wybodaeth fel rhan o'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Y data personol y byddwn ni'n eu casglu a'u prosesu

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data fel ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod’.

I anfon gwybodaeth atoch am y digwyddiad, byddwn yn casglu data personol gan gynnwys:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r sefydliad
  • Dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg)

Efallai y byddwn hefyd yn casglu 'data categori arbennig' i sicrhau bod unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu darparu yn ystod y digwyddiad yn unol ag Erthygl 89(1). Mae'r wybodaeth a roddir yn ddewisol, yn cael ei phrosesu drwy ganiatâd ac yn cael ei dileu ar ôl y digwyddiad:

  • Gofynion hygyrchedd
  • Gofynion deietegol 

Ar gyfer digwyddiadau ar-lein, ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chofnodi ar gyfer unrhyw adborth llafar a barn a ddarperir oni nodir yn y digwyddiad. Nid oes angen i chi ddarparu gwybodaeth bersonol i ddefnyddio Microsoft Teams, ond os byddwch yn dewis gwneud hynny, bydd yn cael ei phrosesu fel rhan o'n polisi preifatrwydd a thelerau polisi preifatrwydd Microsoft Teams y gellir ei weld yma - crynodeb casglu data ar gyfer Teams.

Efallai y byddwn yn defnyddio SmartSurvey i gasglu eich adborth am y digwyddiad, ond ni chesglir unrhyw ddata personol.

Pwy fydd yn cael gweld eich data

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar gael i staff perthnasol Llywodraeth Cymru, staff lleoliadau digwyddiadau (arlwyo, hygyrchedd, diogelwch) a ffotograffwyr neu dimau technegol sy'n tynnu lluniau a recordiadau.

Ffotograffiaeth a recordio digwyddiadau

Mae'n bosibl y bydd rhywun yn tynnu lluniau a/neu yn recordio yn ystod digwyddiadau wyneb yn wyneb. Mae'r data categori arbennig hyn yn cael eu darparu yn wirfoddol a'u prosesu yn seiliedig ar ganiatâd penodol. Gall eich delwedd neu'ch llais ymddangos mewn crynodebau digwyddiadau, cyfathrebiadau mewnol, neu ddeunyddiau hyrwyddo. Os byddai'n well gennych beidio ag ymddangos mewn unrhyw ffotograffiaeth/recordiad, rhowch wybod i aelod o staff. 

Marchnata ac Ymchwil

Mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich manylion busnes ar gyfer gweithgareddau marchnata Llywodraeth Cymru. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'ch data heb eich caniatâd at y diben penodol hwn.

Am ba hyd y cedwir eich manylion

Bydd eich manylion personol yn cael eu cadw ar systemau TG diogel Llywodraeth Cymru am hyd at 5 mlynedd ar ôl y digwyddiad er mwyn cysylltu â chi am ddigwyddiadau a gynhelir yn y dyfodol ac adolygiadau o'r Strategaeth Arloesi. Ar y pwynt hwnnw, bydd eich gwybodaeth yn cael ei dileu.

Eich hawliau unigol

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl i'r canlynol:

  • I gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru a chael copi ohono
  • I ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • I ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni 'ddileu' eich data
  • I gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
  • Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn cysylltwch a reactplus@llyw.cymru  

I gael rhagor o fanylion ynglŷn â’r wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.