Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tîm o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl. Un o rolau allweddol yr Hyrwyddwyr yw darparu cyngor a chymorth i gyflogwyr ar faterion sy'n ymwneud â recriwtio, cadw a chynnydd gweithwyr anabl.

I wneud y gwaith hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cofnodi ac yn storio'r wybodaeth bersonol ganlynol:

  • enw’r sefydliad
  • enw person cyswllt allweddol yn y sefydliad
  • cyfeiriad e-bost y person cyswllt allweddol
  • cyfeiriad busnes y person cyswllt allweddol
  • rhif ffôn a/neu ffôn symudol y person cyswllt allweddol
  • cyfeiriad e-bost sefydliadol/gweinyddol a/neu rif cyswllt
  • sector busnes
  • maint y busnes

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y gwaith hwn. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi nac yn datgelu gwybodaeth bersonol yn amhriodol heb ganiatâd.  Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gedwir gan Lywodraeth Cymru o fewn cwmpas yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cael ei defnyddio ar gyfer gwaith yn ymwneud â'r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn unig.

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i adnabod y person hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw cyflawni ein tasg gyhoeddus. Hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae cadw'r data hyn yn bwysig er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i gydlynu gweithgarwch yr Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl ac at ddibenion cysylltiedig.  Mae ymgysylltu â'r Hyrwyddwyr yn gwbl wirfoddol. Os nad ydych bellach yn dymuno derbyn unrhyw ddeunydd cyfathrebu sy'n ymwneud â'r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl a materion cysylltiedig, cysylltwch â HCPA@llyw.cymrua fydd yn sicrhau eich bod yn cael eich tynnu oddi ar restrau dosbarthu perthnasol.

Pa mor ddiogel yw’ch data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio raglen feddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd (e.e. caiff yr holl ddata eu prosesu yn y Deyrnas Unedig).

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Byddwn yn adolygu'r wybodaeth uchod yn flynyddol ac yn cadw'r wybodaeth yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru. Os ydych wedi gofyn i beidio â derbyn gwybodaeth am yr Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl na chlywed ganddynt, bydd eich data personol yn cael eu dileu o fewn 7 diwrnod busnes i'r dyddiad y gwnaethom ymateb i'ch cais.

Hawliau Unigolion - Gwybodaeth bellach

O dan GDPR y DU, bydd gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu fel rhan o’r gwaith hwn. Yn benodol, bydd gennych yr hawl:

  • i weld copi o’ch data eich hun.
  • i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol).
  • i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol).
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan:www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd eich data yn cael eu defnyddio mewn perthynas â'r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â: HCPA@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.