Hanes llwyddiant

Twelve Technology yn gwneud hedfan yn fwy clyfar a diogel gyda chymorth arloesi

People in helicopter flying over the sea

Mae Twelve Technology yng Nghaerffili yn helpu i wneud hedfan yn fwy diogel ac yn fwy cysylltiedig drwy ei lwyfan hedfan SmartSkies. Gyda chefnogaeth gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymry, mae’r cwmni wedi datblygu a phrofi technoleg flaenllaw sy’n digideiddio sut mae gwybodaeth hedfan yn cael ei rannu ar draws y gymuned awyrennau - gan foderneiddio system sydd prin wedi newid ers degawdau.

Gyda ffocws ar hedfan cyffredinol - y sector hedfan preifat ac adloniadol sy’n cynnwys awyrennau bach, meysydd awyr bach a hyfforddiant hedfan - fe aeth y cwmni ati i ddatrys her amlwg. Mae hedfan mewn gofod awyr heb ei reoli yn parhau i gael ei lywodraethu gan brosesau a wneir â llaw ar bapur sydd bellach yn anaddas ar gyfer y diben mewn cyfnod o dronau ac awyrennau heb beilot. Mae ei ddatrysiad digidol yn darparu platfform diogel yn y cwmwl sy’n cofnodi, cadw ac yn rhannu data mewn amser real, gan wneud hedfan yn fwy diogel ac effeithlon ar gyfer pawb.

Dywedodd Mike Walker, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu Twelve Technology: “Mae hedfan cyffredinol wedi dibynnu ar yr un prosesau ers degawdau. Roeddem eisiau creu offeryn digidol a fyddai’n gwneud bywyd yn symlach ar gyfer peilotiaid, a gwella diogelwch a thryloywder ar gyfer pawb sy’n rhan o weithrediadau hedfan.”

Mae’r weledigaeth honno wedi’i gwireddu drwy gyllid arloesi a chymorth busnes wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru.

Derbyniodd y cwmni ei gyllid Cefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) cyntaf o £23,500 ym mis Chwefror 2022, gan ei alluogi i fireinio a phrofi ei blatfform digidol. 

Dros ddwy flynedd, mae’r gefnogaeth hon wedi caniatáu i’r cwmni:

  • Datblygu a dilysu ei system data hedfan sy’n seiliedig ar y cwmwl.
  • Goresgyn heriau technegol cymhleth gan gynnwys ymyrraeth GPS a storio data ar raddfa fawr yn ddiogel.
  • Adeiladu a phrofi rhyngwynebau symudol a maes awyr gyda mabwysiadwyr cynnar fel Arcus Helicopters yn Swydd Nottingham a Maes Awyr Shobdon yn Swydd Henffordd.
  • Gweithio gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) a NATS (Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol) i alinio allbynnau digidol â gofynion rheoleiddio.

Fe wnaeth hyblygrwydd SFIS alluogi’r cwmni arbrofi, profi ac esblygu’r dechnoleg yn seiliedig ar adborth byw gan ddefnyddwyr - cam hanfodol wrth sicrhau fod y system yn gallu bodloni safonau diogelwch ac yn gallu cael ei hehangu at ddefnydd cenedlaethol. Fe wnaeth y cymorth adeiladu ar y cyllid Arloesi blaenorol o oddeutu £16,000, a helpodd y cwmni brofi’r cysyniad a goresgyn nifer o heriau technegol allweddol yn ystod y cyfnod datblygu.

Esboniodd Mike: “Fe wnaeth y cymorth ein galluogi i gymryd risgiau gydag arloesedd. Golygodd ein bod wedi gallu canolbwyntio ar ddatrys problemau nad oes neb wedi mynd i’r afael â nhw o'r blaen - y mathau o heriau y byddai timau bach fel arfer yn eu hystyried yn rhy ddrud neu eu bod am gymryd gormod o amser.”

Mae canlyniadau arloesedd y cwmni yn amlwg yn barod:

  • Mae ei blatfform sy’n seiliedig ar y cwmwl yn cael ei gyflwyno i beilotiaid, meysydd awyr a sefydliadau hyfforddi ledled Cymru.
  • Enillodd y cwmni'r Wobr Arloesedd Hedfan yng Ngwobrau Diwydiant Awyrennau’r DU 2025.
  • Mae hefyd wedi sicrhau grant TRIG yr Adran Drafnidiaeth (Connected Places) i ddatblygu achosion defnyddio newydd sy’n benodol i ddronau.
  • Mae cynlluniau ar y gweill i ehangu’r gweithrediadau i Faes Awyr Abertawe, gan greu swyddi technoleg o werth mawr yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae ei lwyddiant yn amlygu rôl gynyddol Cymru yn natblygiad technolegau hedfan y dyfodol. Trwy ddigideiddio’r ffordd mae data hedfan yn cael ei gofnodi a’i rannu, mae SmartSkies yn cefnogi awyr mwy diogel, logisteg fwy gwyrdd a rheoleiddio mwy clyfar - gan helpu i osod Cymru ar y blaen fel arweinydd mewn arloesedd awyrofod.

Mae gwaith y cwmni’n cefnogi blaenoriaethau Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru drwy gyfrannu at bileri’r hinsawdd a natur a’r economi. Trwy ddatblygu platfform digidol sy’n symleiddio gweithrediadau hedfan, yn gwella diogelwch ac yn disodli systemau ar bapur sydd wedi dyddio, mae Twelve Technologhy yn helpu i foderneiddio diwydiant traddodiadol ac yn cryfhau economi digidol Cymru sy’n tyfu. 

Ar yr un pryd, mae ei dechnoleg yn lleihau’r defnydd o bapur ac yn hyrwyddo gweithrediadau maes awyr sy’n fwy effeithlon ac wedi’u cysylltu’n ddigidol, gan gefnogi prosesau carbon is ar draws y diwydiant awyrennau. Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn dangos sut all arloesedd yng Nghymru ysgogi twf economaidd wrth gyfrannu at drawsnewidiad y genedl i ddyfodol carbon-isel.

Dysgwch ragor am sut y gall Cefnogaeth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.