
Wedi’i leoli yn Abermiwl, Powys, mae Stashed Products yn gwneud y gwaith o storio beiciau yn llawer haws ac yn helpu pobl ledled y byd i gael mwy o le. Gyda chefnogaeth gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi lansio cynhyrchion newydd, wedi sicrhau amddiffyniadau Eiddo Deallusol ac wedi cynyddu’r tîm - gan droi’r syniad a ddatblygwyd mewn gweithdy cartref yn stori o lwyddiant byd-eang.
Wedi’i sefydlu gan beiriannydd dylunio a oedd yn ymddiddori mewn beicio erioed, Elliot Tanner, cychwynnodd y cwmni gyda her: sut i storio sawl beic yn ddiogel ac yn hygyrch mewn cartref bach. Ei ddatrysiad - system reilen lithro wedi’i gosod ar y nenfwd - y cyntaf o sawl dyfeisiad sydd bellach yn cael eu dosbarthu i dros 45 o wledydd.
Ymddangosodd y cwmni ar Dragons’ Den y BBC hyd yn oed, yn 2023, gan ddenu diddordeb cenedlaethol - er iddynt benderfynu tyfu’r busnes yn annibynnol yn y pen draw.
Dywedodd Elliot Tanner, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd Stashed Products: “Doedden ni byth wedi meddwl y byddai hyn yn fwy na diwydiant bychan iawn. Ond erbyn hyn mae gennym dair uned ffatri, tîm sy’n tyfu, a chwsmeriaid ledled y byd. Mae wedi datblygu’n llwyddiant yn llawer cynt na’r disgwyl.”
Derbyniodd y cwmni ei gyllid Cefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) cyntaf ym mis Ebrill 2023, gan ganiatáu iddo ddatblygu a masnachu cenhedlaeth newydd o systemau storio beiciau. Dros ddwy flynedd, mae’r gefnogaeth hon wedi caniatáu i’r cwmni:
- Ailddatblygu ei brif gynnyrch, y SpaceRail, ar gyfer masgynhyrchu a manwerthu.
- Lansio system storio beiciau newydd sy’n sefyll yn rhydd ar y llawr heb gymorth.
- Dylunio datrysiad arfaethedig i allu storio ategolion.
- Creu pecynnu bach a thaclus i leihau anghenion warysau a symleiddio’r dosbarthu.
Roedd hyblygrwydd y cyllid SFIS yn caniatáu i’r cwmni addasu ei gynllun arloesi i sicrhau adborth marchnad amser real, gan sicrhau bod lansio pob cynnyrch newydd yn ymarferol yn ariannol ac yn dechnegol gywir. Ym mis Tachwedd 2024, derbyniodd y busnes Archwiliad IP drwy’r tîm Arloesi hefyd, wedi’i gynnal gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), a oedd yn gymorth i gryfhau’r gwaith o’i amddiffyn a chwilio am gyfleoedd masnachol newydd.
Eglurodd Elliot: “Mae cefnogaeth fel SFIS yn caniatáu i chi gymryd risgiau. Fel busnes bach, mae hynny’n beth eithriadol o bwysig. Roedd yn golygu ein bod yn gallu llogi, datblygu a mireinio - cael cynhyrchion newydd yn barod i’w marchnata a’u diogelu.”
“Rhoddodd yr archwiliad gynllun gweithredu clir i ni. Amlygwyd yr elfennau bregus o’n busnes, gan roi help i ni feddwl yn fwy strategol am sut i ddefnyddio ein IP - y tu hwnt i werthu cynhyrchion yn unig.
Mae effaith gwaith arloesol y cwmni wedi bod yn amlwg:
- Mae’r trosiant wedi cynyddu o £85,000 i £1.9 miliwn mewn dim ond dwy flynedd.
- Mae’r tîm wedi cynyddu o un i 12 o weithwyr, gan gefnogi creu swyddi lleol.
- Mae mwy na 25,000 o feiciau wedi cael eu storio drwy ddefnyddio ei systemau, gan helpu cartrefi ledled y byd i gael mwy o le.
- Bellach mae 80% o’r archebion yn cael eu dosbarthu’n rhyngwladol, gan ddangos fod galw byd-eang cryf am gynnyrch a wnaed yng Nghymru.
Derbyniodd Wobr y Brenin am Arloesi ym mis Mai 2025, gan gydnabod ei lwyddiant. Y wobr hon yw’r anrhydedd swyddogol uchaf i fusnesau Prydeinig, ac mae’n amlygu agwedd arbennig y cwmni o arloesi a gweithgynhyrchu cynnyrch.
Mae Stashed Products hefyd wedi cael eu derbyn ar Raglen Arloesi Uwchraddio Twf Busnes y DU ac yn cynllunio cais SFIS arall Llywodraeth Cymru, yn ogystal â lansio cefnogaeth cynhyrchiant digidol newydd yn 2025.
Mae gwaith y cwmni yn cefnogi blaenoriaethau Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru trwy greu swyddi medrus yng Nghymru wledig, gan annog teithio llesol a lleihau traweffaith amgylcheddol. Trwy helpu mwy o bobl i storio beiciau yn ddiogel mewn lle cyfyng, mae’n cael gwared ar rwystrau rhag beicio, gan gefnogi ffyrdd iachach o fyw a thrafnidiaeth carbon isel. Mae ei ddull o hybu gweithgynhyrchu lleol fel blaenoriaeth hefyd yn helpu i hybu'r economi leol a chwtogi ar allyriadau.
Dysgwch ragor am sut y gall Cefnogaeth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.