
Mae Scuffed Up, busnes teuluol yn Abertawe sy’n trwsio cerbydau yn sgil damweiniau, wedi gosod ei olygon ar ehangu ar ôl achub swyddi oedd yn y fantol ar ôl i safle busnes cadwyn cenedlaethol yn Abertawe gau.
Gyda chefnogaeth Busnes Cymru, mae’r siop trwsio a phaentio cerbydau bellach yn datblygu ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer twf ar ôl cymryd awenau’r safle ac achub swyddi pan roedd cangen leol o fusnes cadwyn cenedlaethol yn wynebu gorfod cau.
Roedd Tom Maunder wedi bod yn gweithio yn y gangen a oedd yn cau pan gamodd ei deulu i’r adwy i’w brynu yn 2017 er mwyn sicrhau nad oedd staff yn colli eu swyddi. Datblygiad oedd hwn a welodd Kristian, brawd Tom, a oedd yn byw yn Awstralia ar y pryd, yn dargyfeirio’r arian yr oedd wedi ei gynilo am flaendal am dŷ i brynu’r busnes.
Flwyddyn yn ddiweddarach, daeth Kristian nôl i Gymru i redeg y busnes ochr yn ochr â Tom gyda chymorth eu rhieni Alun a Thea. Ar ôl diogelu’r swyddi, trodd y gwaith at adeiladu’r busnes. Erbyn hyn, mae Scuffed Up yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys trwsio cerbydau ar ôl damwain, trwsio cyrff a gwaith paent ceir, ailgalibradu ADAS a chynnal a chadw cerbydau fflyd corfforaethol.
Er bod y teulu Maunder yn hyderus y gallai eu sgiliau rheoli, marchnata a gwasanaethau cwsmeriaid cyfunol wyrdroi ffortiwn y siop, troesant at Busnes Cymru am gymorth i ffurfioli’r cynllun i bennu cyfeiriad a blaenoriaethau’r cwmni, a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael iddo.
Mae twf cadarn wedi gweld cynnydd mewn gwasanaethau a staff, gan gynnwys diogelu contractau gyda chwmnïau yswiriant blaenllaw, ac ennill nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Nod Rhagoriaeth Sefydliad Safonau Prydain, a’r balchder o gael eu henwi yn fusnes trwsio cyrff ceir gorau Abertawe am bum mlynedd yn olynol.
Heddiw, mae’r tîm yn paratoi i ehangu ei safle cyfredol i fodloni’r galw, ac i hwyluso buddsoddiadau sylweddol mewn recriwtio a’r dechnoleg orau sydd ar gael yn y diwydiant i gynnig gwasanaethau trwsio mwy datblygedig.
Mae Scuffed Up yn bwriadu recriwtio nifer o dechnegwyr medrus pellach, a pharhau i ddatblygu ei raglen prentisiaethau.
Dywedodd Thea Maunder:
Roedd cymryd awenau’r gangen a’i throi yn Scuffed Up yn sialens a hanner, ond roedd rhaid i ni fachu ar y cyfle hwn i sicrhau bod swyddi’n cael eu diogelu, yn arbennig am fod y staff yn wynebu colli eu swyddi adeg y Nadolig. Roeddem ni’n gwybod y gallai’r busnes fod yn llwyddiannus, a phe na bawn ni’n gweithredu, byddai pobl yn colli eu swyddi, a byddai ein mab ni’n hunain yn ddi-waith.
Mae Rheolwr Perthnasau Busnes Busnes Cymru, Angela Williams, wedi bod yn gweithio gyda’r teulu Maunder ers dyddiau cynnar Scuffed Up. Cynorthwyodd Angela y busnes i ddatblygu strategaethau cynaliadwy hirdymor fel y gallai barhau â’i dwf disgwyliedig.
Dywedodd Kristian Maunder:
Doeddwn i erioed wedi bwriadu gweithio yn y diwydiant yma. Fy mrawd oedd yr arbenigydd mewn cerbydau modur, ac ar y pryd, roeddwn i’n llythrennol yn byw ym mhen draw’r byd. Pan ddes i adref am y Nadolig y flwyddyn honno, doeddwn i ddim yn disgwyl prynu cyfran o fodurdy, ond sylweddolodd y teulu cyfan y gallem ni chwarae ein rhan wrth achub swyddi a gwneud llwyddiant o’r busnes.
Roeddem ni’n hyderus yn ein gwybodaeth a’n harbenigedd technegol cyfunol, ond yn gwybod bod angen cymorth Busnes Cymru arnom ni i strwythuro’r cwmni ac uwchsgilio ein tîm. Maen nhw wedi helpu i glustnodi cyfleoedd i ni dyfu ein gwasanaethau a’n sylfaen o gwsmeriaid. Roedd cael cefnogaeth o’r fath, ac arbenigydd i fwrw syniadau â nhw yn amhrisiadwy. Bu cefnogaeth Angela’n sicr yn hanfodol yn ystod y cyfnodau clo.
Caniataodd gweithio gyda Busnes Cymru i’r teulu Maunder gyrchu grant gwerth £5,000 gan Llywodraeth Cymru i ddiogelu swyddi pan fu angen cadw drysau’r modurdy ar gau yn ystod y pandemig.
Pan ail-agorodd Scuffed Up, aeth y tîm ati’n syth i chwilio am gleientiaid a chyfleoedd newydd i wneud y busnes yn ecogyfeillgar trwy dechnoleg ac arferion effeithlon o ran ynni, a chadarnhaodd ei sylfeini trwy lwyddo i ennill achrediad BSI10125, sy’n nod rhagoriaeth yn y diwydiant cerbydau. Mae Scuffed Up wedi ymrwymo hefyd i Adduned Twf Gwyrdd Busnes Cymru.
Gan weithio gyda Chynghorwyr AD Busnes Cymru, mae Scuffed Up wedi ailwampio ei arferion gweithio er mwyn rhoi cymorth pellach i’r tîm gyda ffocws o’r newydd ar lesiant staff, cynwysoldeb a chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Dywedodd Rheolwr Perthnasau Busnes Cymru, Angela Williams:
Nid ar chwarae bach mae atgyfodi busnes a gosod eich stamp arno. Mae tîm Scuffed Up wedi achub swyddi ac wedi troi busnes sy’n methu yn stori go iawn o lwyddiant. Nid yw penderfyniad y teulu wedi pallu dim, ac wrth oresgyn pob sialens, maen nhw wedi troi eu golygon at symud ymlaen i’r lefel nesaf. Mae hi’n bleser cael cynorthwyo eu twf wrth iddynt barhau i ehangu, mynd ar drywydd cyfleoedd newydd a thyfu eu tîm arobryn.
Mae Scuffed Up wedi elwa hefyd ar gymorth Busnes Cymru gyda cheisiadau am gyllid Grantiau Twf gan Gyngor Dinas Abertawe, sy’n gallu darparu hyd at £50,000 o gyllid.
Ariennir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i helpu’ch busnes ganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg.