Hanes llwyddiant

Shufflebottom yn datgloi enillion cynhyrchiant drwy gefnogaeth arloesi digidol

worker using machinery with sparks

Mae Shufflebottom, sydd wedi’i leoli yn Llanelli, yn helpu i ddarparu prosiectau adeiladu, amaethyddol a diwydiannol ar hyd a lled y DU drwy weithgynhyrchu adeiladau ffrâm ddur a gwaith dur strwythurol. Gyda chefnogaeth gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru drwy ei Wasanaeth Cyflymydd Digidol a Chynhyrchiant SMART (SDPA), mae’r cwmni eisoes wedi cyflawni enillion cynhyrchiant sylweddol o amgylch 20 y cant, wedi atgyfnerthu cynllunio a datgloi capasiti ar gyfer twf wrth gefnogi swyddi â sgiliau yng Nghymru.

Yn 2024/25, parhaodd y cwmni i dyfu, gyda’r trosiant yn mynd y tu hwnt i £18 miliwn a thwf pellach yn cael ei ddarogan ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Yn 2025, derbyniodd y cwmni gefnogaeth drwy Wasanaeth SDPA Llywodraeth Cymru, a ddarparodd adolygiad diagnostig cynhwysfawr o’i weithrediadau. Roedd yr asesiad yn edrych ar lifau gwaith a sut mae swyddi’n cael eu cynllunio, gan adnabod ffyrdd gwell o gasglu gwybodaeth a lleihau gohiriadau a achosir gan brosesau dynol a chynllunio ar y funud olaf.

Meddai Ben Thomas, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Shufflebottom: “Pan ddois i mewn i’r busnes yn y lle cyntaf, roeddem wastad yn gweithio goramser er mwyn cyrraedd ein capasiti, fel y gelwid ef, ond doeddem ni ddim wir yn gwybod beth yn union oedd y capasiti hwnnw. 

“Cadarnhaodd y prawf diagnostig ein bod angen set data llawer gwell er mwyn gwneud penderfyniadau wrth symud ymlaen a dechrau ar ein taith ddigidol yn iawn.” 

Yn dilyn yr adolygiad, cynhaliodd y busnes astudiaethau manwl o sut mae gwaith yn cael ei wneud ar lawr y ffatri, gan gynnwys mesur pa mor hir mae pob cam cynhyrchu’n ei gymryd. Roedd y gwaith hwn yn galluogi datblygu adnodd cynllunio digidol sy’n cyfrifo amser gweithgynhyrchu ar gyfer gwahanol gyfluniadau adeiladu, gan ddefnyddio data cynhyrchu go iawn yn hytrach na rhagdybiaethau, a chaniatáu ar gyfer amserlennu costio a chynllunio capasiti mwy manwl gywir.

Dros y misoedd a ddilynodd, mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi galluogi i’r cwmni:

  • Dal data manwl gywir ar brosesau cynhyrchu a pha mor hir mae pob cam yn ei gymryd.
  • Cyfnewid rhagdybiaethau ynghylch capasiti gyda chynllunio’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Datblygu adnoddau digidol i gyfrifo amser gweithgynhyrchu a gofynion adnoddau.
  • Adnabod gwelliannau ymarferol er mwyn symleiddio llifau gwaith a lleihau aneffeithlonrwydd. 

Ychwanegodd Ben: “Rydym ni nawr mewn sefyllfa gweithgynhyrchu llawer mwy trefnus ac yn gallu cynllunio ymlaen yn lle brwydro drwyddi o ddydd i ddydd. Mae’n golygu y gallwn weld pan mae wirioneddol angen oriau ychwanegol a phan nad oes mo’u hangen, a gwneud penderfyniadau gwell ynghylch twf. 

“I fusnes sy’n cyflogi dros 80 o bobl yn lleol, mae dod yn fwy effeithlon yn helpu i ddiogelu’r swyddi hynny gan gefnogi’r economi yn ehangach.” 

Mae effaith gwaith arloesol y cwmni wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol:

  • Gwelliannau o ran cynhyrchiant o oddeutu 15-20 y cant (30 y cant wedi’i gynllunio yn dilyn cwblhau Gwasanaeth SDPA pum diwrnod).
  • Lleihau dibynadwyedd ar oramser drwy gynllunio gwell a threfniadaeth well.
  • Mwy o hyder wrth ragweld capasiti a gwneud penderfyniadau ariannol.
  • Paratoi ar gyfer recriwtio ychwanegol er mwyn cefnogi twf. 

Mae Shufflebottom yn atgyfnerthu ei rôl fel prif gyflogwr gweithgynhyrchu yng Nghymru, tra’n cefnogi gwytnwch cadwyni cyflenwi lleol. Drwy wella effeithlonrwydd a bod yn gystadleuol, mae’r cwmni mewn gwell sefyllfa i ddiogelu contractau newydd a chynnal twf yn yr hirdymor o fewn marchnad heriol. 

Mae’r cynnydd hwn yn cyfrannu at Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru drwy atgyfnerthu’r economi a chefnogi gweithlu mwy cynhyrchiol a pharod at waith.

Dysgwch ragor am sut mae’r Gwasanaeth Cyflymydd Digidol a Chynhyrchiant SMART yn gallu cefnogi eich sefydliad chi. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.