Hanes llwyddiant

ShinyMe: Busnes newydd o Gymru sy’n grymuso oedolion ifanc ac sy’n troi potensial yn bwrpas

ShinyMe Founder

"Fe wnaeth Rhaglen Cyflymu Busnes, Busnes Cymru fy helpu i fynd â ShinyMe o syniad i lwyfan byw mewn ychydig wythnosau, gan greu offeryn hyfforddi AI hygyrch, wedi'i bersonoleiddio, sy'n helpu gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa i droi eu potensial yn bwrpas."

Pan gefnodd hi ar gynllun graddedigion peirianneg ar gyflog uchel yn ei hugeiniau, roedd Holly McLoughlin yn gwybod ei bod hi’n camu i'r tywyllwch. Y penderfyniad hwnnw, a ysgogwyd gan sgwrs â chydweithiwr a oedd yn ymddeol, am beryglon difaru yn y dyfodol, a’i rhoddodd hi ar y llwybr i helpu eraill i osgoi'r un teimlad o fod mewn rhigol gyrfa nad oedd yn gweddu.

Dros y ddau ddegawd nesaf, cymhwysodd Holly yn ymarferydd arweiniad gyrfa, cyhoeddodd ymchwil ar arloesi yn y sector gyrfaoedd a hyfforddodd gannoedd o weithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa, gan eu tywys trwy eu penderfyniadau anoddaf. Dro ar ôl tro, gwelodd yr un patrwm: oedolion ifanc talentog heb gymorth fforddiadwy, perthnasol i lywio’r blynyddoedd ar ddechrau eu bywydau gwaith.

Er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch hwn, sefydlodd Holly ShinyMe, sef llwyfan hyfforddi gyrfa sydd wedi'i bersonoleiddio a’i yrru gan AI ac sy'n cyfuno canfyddiad seicolegol, modelau seiliedig ar dystiolaeth ac arbenigedd dynol. Mae’n helpu gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa i ddarganfod eu gwerthoedd a magu’r hyder i wneud gwaith buddiol.

Er mwyn dod â'i gweledigaeth yn fyw, ymunodd Holly â Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, sef rhaglen ddwys 10 wythnos sy'n cefnogi cwmnïau sy’n dechrau ac sydd â photensial twf uchel. Yma, dyma hi’n rhannu ei thaith.

Pa heriau a gawsoch chi cyn ymuno â’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, a sut y’ch helpodd chi i’w goresgyn nhw?

Roedd trawsnewid blynyddoedd o arbenigedd yn llwyfan y mae modd ei dyfu yn gyffrous ond hefyd yn frawychus. Roedd gen i lawer iawn o brofiad mewn hyfforddi gyrfa ond roedd angen creu model busnes hyfyw a datblygu'r dechnoleg.

Rhoddodd y rhaglen gyflymu i mi’r arweiniad a’r atebolrwydd roedd eu hangen arna i. Dysges i sut i ddefnyddio offer datblygu di-god i wneud yr MVP yn fyw, llunio piblinell werthiant a chynllunio ar gyfer buddsoddiad. Mae'r sesiynau cyllid wedi fy helpu i ddeall opsiynau cyllido, ac fe ges i gysylltiadau a all gefnogi twf trwy grantiau, benthyciadau a phartneriaethau.

Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau ShinyMe?

Y man cychwyn oedd fy argyfwng chwarter oes fy hun. Sylweddoles i pe bawn i’n parhau mewn rôl am ddiogelwch, gallwn i ddihuno ddegawdau wedyn yn difaru’n fawr. Dros y blynyddoedd, gweles i faint o weithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa oedd yn teimlo mewn rhigol fel fi ond heb allu manteisio ar gymorth fforddiadwy, penodol i’w hanghenion.

Sylweddoles i hefyd fod rhwystrau systemig yn rhan o hyn. Gwnaeth tyfu i fyny heb rwydwaith diogelwch, mynychu ysgol breifat ar ysgoloriaeth, ac wedyn bod yn fenyw mewn peirianneg gyfrannu i’m byrdwn o roi mwy o chwarae teg i bobl. Rwy’n credu bod gwaith gyrfaoedd yn rhan annatod o gyfiawnder cymdeithasol.

Beth sy’n gwneud ShinyMe yn unigryw?

Mae ShinyMe’n dechrau gyda’r person, nid gyda’r swydd. Mae ein meddalwedd AI yn defnyddio modelau hyfforddi sy'n seiliedig ar dystiolaeth i arwain defnyddwyr trwy broses o hunan-ddarganfod a strategaeth, gan eu helpu nhw i fynegi eu stori yrfa unigryw nhw. Mae'r proffil hwn wedyn yn llywio cyfleoedd wedi'u targedu, paru rolau a strategaethau ymarferol ar gyfer goresgyn rhagfarn a meithrin hyder.

Nid yw offer AI generig wedi'u cynllunio i ysgogi'r myfyrio dwys sydd ei angen i ddod o hyd i lwybrau gyrfa boddhaol a realistig. Fe wnaethon ni adeiladu ShinyMe i bontio'r bwlch hwnnw, gan gyfuno hygyrchedd technoleg â dwysedd hyfforddi proffesiynol.

Sut yr helpodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes i fireinio’ch syniad busnes neu strategaeth?

Helpodd y rhaglen fi i ganolbwyntio ar gamau gweithredu a fyddai’n symud y busnes ymlaen yn gyflym. Eglurodd y sesiynau un-i-un y broblem rydyn ni’n ei datrys, y farchnad rydyn ni’n ei gwasanaethu a’r llwybr cyflymaf at brofion. Ces i fy annog i lansio beth alwes i yn “fersiwn cyntaf chwithig” ac addasu ac addasu ar sail adborth, yn hytrach nag aros am berffeithrwydd.

Beth yw’ch gweledigaeth hirdymor ar gyfer ShinyMe?

Ein nod yw cefnogi o leiaf 250,000 o ddefnyddwyr premiwm o fewn tair blynedd, gan dargedu 5% o'r 5 miliwn o weithwyr proffesiynol gyrfa gynnar yn y DU sy'n ceisio cymorth. Y nod yw ehangu i'r Unol Daleithiau ym mlwyddyn tri ac wedyn i farchnadoedd nad ydyn nhw’n siarad Saesneg gan ddefnyddio cyfieithu a yrrir gan AI.

Yn y pen draw, rwy am i ShinyMe fod y llwyfan y mae gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa, sy'n chwilio am waith sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd yn troi ato, ac sy’n caniatáu iddynt gael effaith gadarnhaol heb aberthu diogelwch na llesiant.

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?

Breuddwydiwch yn fawr ac amgylchynwch eich hun â phobl gefnogol. Mae mwy o gymorth ar gael nag y mae llawer yn ei sylweddoli. Mae’r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes yn ffordd ardderchog o danio’ch cynnydd.

Bydd ceisiadau ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes Mai 2026 yn cau ddydd Llun 30 Mawrth 2026.

Gall sylfaenwyr sydd â diddordeb gofrestru eu diddordeb yn: Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.