Mae math newydd o fodel hyfforddi sydd wedi’i ddatblygu gan gwmni yng Nghorwen yng ngogledd Cymru ar fin chwyldroi sut mae’r gwasanaethau brys yn paratoi ar gyfer digwyddiadau yn y byd go iawn. Gyda chefnogaeth gan dîm arloesi Llywodraeth Cymru, mae cwmni Ruth Lee wedi creu RL360 - technoleg realiti cymysg sy’n cyfuno symudiadau naturiol gydag efelychiad digidol er mwyn helpu ymatebwyr cyntaf i achub mwy o fywydau.
Am dros 30 mlynedd, mae’r cwmni wedi cyflenwi modelau hyfforddi realistig i’r gwasanaethau brys, y fyddin a sefydliadau gofal iechyd ar draws y byd. Mae ei gynnyrch nawr yn cael ei allforio i dros 50 o wledydd drwy rwydwaith o dros 40 o ddosbarthwyr, gyda’r DU yn parhau i fod yn farchnad sengl fwyaf iddo.
Dechreuodd Ruth Lee ddatblygu RL360 drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gyda Phrifysgol Wrecsam, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK. Aeth y prosiect ati i wneud modelau’n fwy realistig ac ymatebol drwy fewnosod galluoedd rhithiol a realiti cymysg yn rhan o’u dyluniad.
Y canlyniad yw model sy’n gallu efelychu anadlu, symudiad llygad, gwaedu a chyflyrau meddygol sy’n dyblygu senarios o’r byd go iawn. Cafodd y KTP ei radio fel Nodedig gan Innovate Uk, gan gydnabod ei arloesi eithriadol a’r cydweithrediad cryf rhwng byd busnes a’r byd academaidd.
Meddai Darren Griffiths, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Ruth Lee: “Mae’r prosiect wedi newid ein hagwedd at arloesi yn gyfan gwbl. Rhoddodd y bartneriaeth gyda Phrifysgol Wrecsam fynediad at sgiliau, syniadau a galluoedd digidol newydd sydd wedi’n helpu ni i symud o gysyniad i gynnyrch masnachol mewn llai na dwy flynedd.
“Mae’r gefnogaeth gan dîm arloesi Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol, gan ein cynorthwyo i fewnosod diwylliant o arloesi ar draws y busnes ac atgyfnerthu ein henw da yn fyd eang am ansawdd a chreadigrwydd. Rydym yn hynod falch o’r ffaith fod cwmni sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad gogledd Cymru yn datblygu technoleg sydd â thraweffaith byd-eang.”
Derbyniodd y cwmni gefnogaeth arloesi yn gynharach gan Lywodraeth Cymru wnaeth eu helpu i wella effeithlonrwydd gweithgynhyrchu o 12% drwy gyflwyno prosesau awtomeiddio a digidol, wedi’i ddilyn gan Gefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART (SMART FIS), wnaeth gryfhau datblygu cynnyrch a chapasiti Ymchwil a Datblygiad.
Dros amser, mae’r gefnogaeth gyfunol hon wedi caniatáu i’r cwmni:
- Gyflwyno torri a phatrymu digidol awtomataidd er mwyn lleihau gwastraff ac arbed amser cynhyrchu.
- Datblygu a masnacheiddio model realiti cymysg mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam.
- Mewnosod sgiliau digidol newydd ar draws ei gweithlu ac atgyfnerthu ei diwylliant o arloesi.
- Creu cyfleoedd newydd am swyddi yng nghefn gwlad gogledd Cymru yn dilyn ei gaffaeliad gan Grŵp Prosiect Meddygol yn 2024.
Dywedodd Laura Gough, Pennaeth Menter Prifysgol Wrecsam: “Mae’r bartneriaeth hon yn dangos yr hyn sy’n bosib pan mae busnesau a’r byd academaidd yn gweithio gyda’i gilydd. Roedd gan Ruth Lee weledigaeth feiddgar, a thrwy gydweithredu rydym wedi troi’r syniad honno yn gynnyrch sy’n trawsffurfio sut mae’r gwasanaethau brys yn hyfforddi.
“Mae hefyd wedi rhoi profiad amhrisiadwy i’n myfyrwyr yn gweithio gyda thechnolegau blaengar ac wedi atgyfnerthu’r cysylltiad rhwng arloesi a thraweffaith y byd go iawn yma yng Nghymru.”
Mae effaith gwaith arloesol y cwmni wedi bod yn amlwg:
- Mae RL360 wedi dod yn enghraifft o arloesi sy’n arwain o fewn Grŵp Meddygol Protect.
- Mae’r amser a gymer cynnyrch newydd i gyrraedd y farchnad wedi’i leihau’n sylweddol.
- Mae’r cwmni wedi mewnosod galluoedd digidol a realiti cymysg newydd ar draws ei weithlu.
- Crëwyd rolau newydd â sgiliau o fewn tîm Ymchwil a Datblygu’r cwmni.
- Mae graddio Nodedig y prosiect wedi atgyfnerthu enw da Cymru ar gyfer rhagoriaeth mewn arloesi.
Drwy helpu ymatebwyr cyntaf i hyfforddi’n fwy effeithiol, mae arloesi Ruth Lee yn cefnogi’n uniongyrchol y genhadaeth a amlinellir yn Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae’n gwella iechyd a lles drwy hyfforddiant gwaith brys mwy diogel, a mwy realistig, gan gryfhau’r economi drwy greu swyddi â sgiliau a buddsoddiad yng ngogledd Cymru, a symud addysg a sgiliau yn eu blaen drwy gydweithrediadau gyda phrifysgolion.
Mae ffocws parhaus y cwmni ar ymchwil, dylunio a gweithgynhyrchu yng Nghymru yn tanlinellu sut y gall arloesi ddod â buddion ymarferol i bobl, cymunedau a diwydiannau ar draws y wlad.
Dysgwch ragor am sut y gall Cefnogaeth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesi Busnes Cymru i ddysgu mwy.