Hanes llwyddiant

Rhoi’ch arian lle mae’ch nodau: busnes newydd o Gymru yn gwneud i gymhelliant dalu

Vlad Tanasescu safeIncent founder

“Helpodd Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, fi i feddwl yn fwy ac adeiladu’n gynt. Rhoddodd yr hyder, yr offer a'r momentwm i mi fynd â safeIncent o syniad i gynnyrch byw gyda defnyddwyr go iawn mewn ychydig wythnosau.”

I lawer o bobl, cynnal cymhelliant yw’r rhan anoddaf o fagu gwell arferion pan fydd cynnydd yn teimlo'n araf ac na ddaw’r budd yn syth.

Y bwlch hwn rhwng bwriadau da a newid parhaol oedd sbardun syniad busnes yr entrepreneur Vlad Tanasescu. Tyfodd o arbrawf meddwl syml: beth pe gallech chi gael eich talu i gyflawni eich nodau trwy roi eich arian eich hun yn y fantol?

Datblygodd yr ap safeIncent i helpu pobl i ymrwymo i'w nodau personol, megis dysgu iaith, gwneud ymarfer corff neu dorri arfer, trwy neilltuo arian i’w ennill yn ôl wrth iddyn nhw wneud cynnydd cyson. Os methan nhw eu targedau, cedwir yr arian am amser penodedig neu caiff ei roi i elusen o’u dewis.

Datblygodd Vlad ap sy'n barod i'r farchnad gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, sef rhaglen ddwys 10 wythnos a gynlluniwyd i gefnogi entrepreneuriaid uchelgeisiol o Gymru i ddatblygu a lansio syniadau busnes cryf sy’n gallu creu twf uchel.

Cawsom ni air ag e am daith SafeIncent a chyfraniad y rhaglen gyflymu iddi.

Sut helpodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes i lunio datblygiad safeIncent?

Cyn ymuno â’r rhaglen hon, roedd gen i’r sgiliau technegol a gweledigaeth glir am y cynnyrch, ond doeddwn i ddim yn meddwl ar raddfa ddigon mawr. Gwthiodd y rhaglen gyflymu fi i anelu’n uwch a chynllunio ar gyfer effaith hirdymor.

Cadwodd fi’n effro a’m cymell i wneud cynnydd cyflym a chyson. Roedd cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi un-i-un a grŵp lle gallwn i drafod y busnes yn agored yn brofiad hollol newydd i mi. Helpodd y sgyrsiau hyn i fireinio’r strategaeth hon ac arwain at newid wrth ddarparu’r model.

Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau safeIncent?

Mae bob amser wedi bod yn heriol cynnal cymhelliant wrth fagu arferion. Unwaith sonies i wrth fy mhartner mewn jôc y byddai hi’n haws o lawer cael bola cyhyrog pe bai contract gyda ffilmiau Marvel yn disgwyl ar y diwedd. Gwnaeth hyn i mi feddwl. Y ffordd symlaf o greu cymhelliad felly yw bod eich arian eich hun yn y fantol.

Arhosodd y syniad hwn gyda mi. Roeddwn i am gael yr ateb hwn i mi fy hun, ac roeddwn i’n gwybod y byddai eraill yn elwa hefyd.

Beth sy’n gwneud safeIncent yn unigryw?

Mae apiau olrhain arferion traddodiadol yn dibynnu ar negeseuon atgoffa, cyfresi, neu gemau. Mae safeIncent yn defnyddio ymrwymiad ariannol fel yr ysgogydd craidd. Mae defnyddwyr yn dewis sut mae sesiynau a gollwyd yn cael eu trin, naill ai trwy ddal yr arian am gyfnod penodol neu ei roi i elusen o’u dewis.

Mae'n defnyddio AI i arwain defnyddwyr i bennu nodau realistig, i asesu tystiolaeth sydd wedi ei lanlwytho o gynnydd, ac i ddarparu cymhelliant personol iddyn nhw. Mae'r system yn hyblyg, wedi'i yrru gan y defnyddiwr ac wedi'i hadeiladu i greu newid ymddygiad parhaol.

Beth oedd yr heriau mwyaf oedd gennych chi cyn ymuno â'r Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes?

Roedd gen i feddwl busnes ond heb yr uchelgais a'r strwythur i fynd â safeIncent ymhellach. A dweud y gwir, roeddwn i’n methu â symud y tu hwnt i’r cysyniad.

Rhoddodd y rhaglen gyflymu’r strwythur a’r atebolrwydd i mi symud ymlaen. Cysylltodd fi hefyd â sylfaenwyr a mentoriaid eraill yr oedd eu hadborth yn allweddol wrth fireinio’r gwaith cynnwys, profi strategaethau prisio a meddwl y tu hwnt i'r cynnyrch cychwynnol.

Beth sydd nesaf ar gyfer safeIncent?

Yn y flwyddyn i ddod, rwy'n bwriadu ehangu'r sylfaen defnyddwyr, dysgu o ddefnydd yn y byd go iawn ar raddfa fawr ac addasu'r system yn unol â hynny. Unwaith y byddwn ni’n cyrraedd màs critigol, bydda i’n addasu'r model prisio i wneud y busnes yn fwy cynaliadwy.

Yn y tymor hir, fy nod i yw gwneud safeIncent yn "Duolingo Cynhyrchiant," gan gynnig ffordd syml, ddifyr ac effeithiol i bobl aros ar y trywydd iawn gyda'u nodau.

Rwy'n anelu at integreiddio ag apiau llesiant, llwyfannau dysgu iaith a chynlluniau gwobrwyo gweithwyr, fel bod cymhelliant gyda’ch arian eich hun yn dod yn ffordd gydnabyddedig a dibynadwy o ysgogi arferion cadarnhaol.

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill sydd â syniad ar gyfer busnes?

Dechreuwch yn fach ac adeiladu rhywbeth diriaethol cyn gynted ag y bo modd. Does dim angen llawer o arian arnoch chi i ddechrau, yn enwedig gyda’r offer sydd ar gael heddiw. Amgylchynwch eich hun â phobl gefnogol a dewch o hyd i fentoriaid a fydd yn eich herio chi. Gall rhaglen gyflymu wneud gwahaniaeth mawr ar y dechrau.

Mae ceisiadau ar gyfer Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes 2026 yn cau ddydd Llun 30 Mawrth 2026.

Gall sylfaenwyr sydd â diddordeb gofrestru eu diddordeb yn Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru | Busnes Cymru

Dysgwch ragor am safeIncent.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.