Wedi'i leoli yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru, mae Polytag yn ail-lunio sut mae pecynnu'n cael ei olrhain a'i fesur ar draws systemau ailgylchu. Gyda chymorth tîm Arloesi Llywodraeth Cymru trwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), mae'r cwmni wedi datblygu ei dechnoleg, wedi cyflymu ei lwybr i'r farchnad ac wedi gwella gwelededd ar draws yr economi gylchol.
Wedi'i sefydlu yn 2018, mae'r cwmni'n datblygu meddalwedd sy'n galluogi adnabod, olrhain a mesur pecynnu drwy gydol ei gylch oes. Mae'r dull hwn yn helpu sefydliadau i ddeall beth sy'n digwydd i ddeunyddiau ar ôl eu defnyddio, gan gefnogi cydymffurfiaeth â pholisi amgylcheddol sy'n esblygu a gwella canlyniadau ailgylchu. O ganlyniad, mae'n galluogi proses gwneud penderfyniadau well ar draws y gadwyn gwerth pecynnu.
Trwy KTP 24 mis, a ddechreuodd yn hydref 2023 ac a gyflwynwyd mewn cydweithrediad ag AMRC Cymru a Phrifysgol Sheffield, fe wnaeth y busnes ymgorffori swyddog cyswllt KTP arbenigol o fewn y cwmni.
Mae KTP yn helpu sefydliadau i arloesi a thyfu trwy eu cysylltu â phartneriaid academaidd neu ymchwil a swyddog cyswllt arbenigol, gan ddod â sgiliau ac arbenigedd newydd i'r busnes.
Gan weithio yng nghanol y sefydliad, defnyddiodd y swyddog cyswllt arbenigedd mewn peirianneg systemau, modelu gwyddonol ac optimeiddio prosesau, gan gysylltu'r tîm â gwybodaeth a chyfleusterau academaidd ehangach hefyd.
Dywedodd Jonathan Anderson, Prif Swyddog Technoleg yn Polytag: “Rhoddodd y KTP fynediad inni at lawer iawn o arbenigedd ar draws gwahanol ddisgyblaethau, yn ogystal â chyfleusterau ac offer na fyddem wedi'u cael ar ein graddfa ni. Roedd yn golygu y gallem ymgymryd â heriau peirianneg ac ymchwil mwy cymhleth mewn ffordd strwythuredig.”
Galluogodd y KTP y cwmni i:
- Ymgorffori arbenigedd peirianneg a gwyddonol arbenigol yn uniongyrchol yn y busnes.
- Ail-beiriannu ei systemau olrhain i wella perfformiad, cywirdeb a chost-effeithlonrwydd.
- Cael mynediad at gyfleusterau academaidd, offer a galluoedd ymchwil i gefnogi datblygiad.
- Cryfhau prosesau mewnol, gan gynnwys cadwyni cyflenwi.
Helpodd y bartneriaeth y cwmni i symud o ddatblygiad technegol i ddefnyddio yn y byd go iawn, gyda threialon a chydweithrediadau â manwerthwyr yn cefnogi twf pellach.
Ychwanegodd Jonathan Anderson: “Mae'n wahanol i gynlluniau eraill oherwydd eich bod yn dod â rhywun i mewn sydd â chefndir academaidd cryf sy'n cael ei gefnogi gan y brifysgol drwyddo draw. Mae hynny'n golygu eich bod yn cael canlyniadau mwy pendant - mae'n llawer mwy tebyg i brosiect ymchwil gyda chyfranogiad uniongyrchol na lleoliad traddodiadol.”
O ganlyniad i'r gweithgarwch arloesi hwn, mae'r cwmni wedi:
- Cyflwyno gosodiadau prawf ar draws nifer o gyfleusterau ailgylchu a didoli yn y DU a Ffrainc.
- Sicrhau treialon cwsmeriaid gyda manwerthwyr mawr gan gynnwys M&S, Waitrose, Ocado ac Aldi.
- Gwella ei barodrwydd masnachol, gan gefnogi cyfleoedd buddsoddi a thwf pellach.
- Datblygu cydweithrediad cryf, parhaus gydag AMRC Cymru, gan arwain at brosiectau ar y cyd pellach.
Drwy wella gwelededd ar draws systemau pecynnu, mae Polytag yn cefnogi canlyniadau ailgylchu gwell ac yn cyfrannu at y newid tuag at economi gylchol. Mae hyn yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran hinsawdd a natur, wrth gefnogi twf economaidd drwy ehangu busnes a chyfleoedd masnachol newydd hefyd.
Mae'r KTP wedi cyfrannu at ddatblygu sgiliau hefyd drwy alluogi cyfnewid gwybodaeth rhwng diwydiant ac academia, cryfhau gallu ar draws y ddau bartner a chefnogi arloesedd yng Nghymru.
Dysgwch fwy am sut y gall Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesi Busnes Cymru i ddysgu mwy.