Hanes llwyddiant

O fod yn ofalwr i fod yn ddarparwr gofal: Sut y gwnaeth y Rhaglen Cyflymu Twf helpu Silver Assist Homecare i adeiladu busnes sy'n seiliedig ar werthoedd

Silver Assist team at an awards ceremony

Sefydlwyd Silver Assist Homecare ar gred syml ond grymus: Mae pawb yn haeddu gofal tosturiol o ansawdd uchel yn eu cartref eu hunain. Gan dynnu ar fwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, lansiodd y Gyfarwyddwraig Samantha Evans y busnes i fynd i'r afael â'r anghysondebau yr oedd hi wedi’u gweld ledled y sector. Wedi'i leoli yn Aberhonddu, mae Silver Assist Homecare wedi creu arbenigedd sy'n gwasanaethu cymunedau gwledig, gan baru cleientiaid â gofalwyr yn ofalus. Gyda thîm o 21 o staff, derbyniodd y cwmni Wobrau 20 Gorau Gofal Cartref yn 2024 a 2025, gan brofi y gall gofal a arweinir gan werthoedd a llwyddiant masnachol fynd law yn llaw. Yma, mae Samantha yn rhannu sut mae cymorth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru wedi helpu i lunio a chyflymu'r daith honno.

Pa broblem y mae Silver Assist Homecare yn ei datrys?

Ein cenhadaeth ni yw darparu gofal rhagorol, sy’n canolbwyntio ar y person sy’n galluogi pobl i fyw yn ddiogel, yn annibynnol a chydag urddas yn eu cartrefi eu hunain. Rydyn ni’n cefnogi’n bennaf oedolion hŷn, pobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sydd ag anghenion corfforol neu synhwyraidd. Yn wahanol i lawer o ddarparwyr sy'n canolbwyntio ar becynnau a ariennir gan awdurdodau lleol, mae tua 85% o'n gwaith ni’n canolbwyntio ar gwmnïaeth a brwydro yn erbyn unigrwydd. Rydyn ni’n cyflawni hynny trwy baru cleientiaid â'u gofalwyr yn ofalus ac adeiladu ymddiriedaeth, cysondeb a chysylltiadau ystyrlon sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Pa heriau gawsoch chi ar y dechrau?

Fel llawer o ddarparwyr gofal, recriwtio oedd un o’n rhwystrau mwyaf ar y dechrau. Roedd angen i ni ddod o hyd i bobl a oedd yn rhannu ein gwerthoedd ni mewn gwirionedd, nid dim ond y rhai a oedd â’r cymwysterau cywir. Aethom ni i’r afael â hyn trwy fuddsoddi’n drwm mewn diwylliant a chreu amgylchedd gwaith buddiol, cefnogol. Bu cydbwyso twf cynaliadwy wrth gynnal ansawdd hefyd yn her barhaus. Wrth i ni ehangu, rydyn ni wedi gweithio'n galed i sicrhau nad ydyn ni byth yn colli'r gwasanaeth personol sy'n diffinio ein brand.

Sut mae RCT wedi cefnogi’ch twf?

Mae cymorth marchnata arbenigol wedi ein helpu ni i fynegi ein brand yn gliriach, tra bod cymorth archwilio a chyfrifyddu wedi ein helpu ni i symleiddio ein prosesau ariannol. Mae hyn wedi rhoi'r eglurder a'r hyder i ni wneud y penderfyniadau gwariant cywir wrth i ni dyfu. Mae mynediad at fentoriaid profiadol ac arbenigwyr allanol mewn meysydd megis dylunio gwefannau, SEO a brandio yn golygu nad ydyn ni wedi gorfod dysgu popeth ein hunain. Mae'r persbectif allanol hwnnw wedi bod yn arbennig o werthfawr wrth fireinio ein strategaeth ar gyfer marchnata, gweithrediadau a chynllunio tymor hir.

Pa effaith y mae cymorth RCT wedi’i chael ar eich twf chi?

Mae’r rhifau’n siarad drostyn nhw eu hunain. Yn ein blwyddyn gyntaf, £73,000 oedd y trosiant. Erbyn yr ail flwyddyn, roedd wedi cyrraedd £295,000, sef twf o dros 500%. Yn y drydedd flwyddyn daeth cynnydd arall i £451,000, ac erbyn hyn rydyn ni wedi cyrraedd £540,000. Ers gweithio gyda RCT, rydyn ni wedi tyfu ein tîm i 21 aelod o staff ac rydyn ni’n cynllunio cynnydd o 50% yn ein gweithlu gofal eleni. Mae'r cymorth gan RCT hefyd wedi ein helpu ni i sylweddoli gwir werth yr hyn rydyn ni wedi'i adeiladu ac wedi rhoi'r hyder i ni godi tâl priodol amdano.

Pa gerrig milltir ydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?

Roedd ennill Gwobr 20 Gorau Gofal Cartref yn 2024 a 2025 yn garreg filltir o bwys. Adlewyrcha ymroddiad ein tîm ac ansawdd y gofal rydyn ni’n ei ddarparu bob dydd. Yr un mor bwysig yw ein bod ni wedi cynnal ein sgôr Rhagorol gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ers dechrau'r busnes. Ond a bod yn onest, y munudau mwyaf ystyrlon yw'r rhai pob dydd: gweld y gwahaniaeth go iawn y mae ein tîm yn ei wneud ym mywydau pobl a'r cyrhaeddiad sydd gennym trwy'r cymunedau gwledig rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill?

Ceisiwch gael y bobl gywir o’ch cwmpas chi a byddwch yn ddethol iawn yn eich penodiadau ar y dechrau. Gallwch chi ddysgu sgiliau technegol, ond allwch chi ddim dysgu agwedd a sut i gyd-fynd â’ch gwerthoedd. Canolbwyntiwch ar systemau a strwythur yn gynt nag y mae’n teimlo bod ei angen, a pheidiwch ag ofni gofyn am help. Pan fydd heriau’n teimlo’n llethol, cymerwch y cam nesaf, ni waeth pa mor fach. Magwch fomentwm a pharhewch i chwilio am y peth nesaf i fwrw drosodd. A gyda RCT, byddwch yn agored, yn onest ac yn rhagweithiol. Po fwyaf y byddwch chi’n ymroi, mwyaf i gyd y bydd y gwerth a gewch chi.

Dysgwch ragor am sut y gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes chi.

Dysgwch ragor am Silver Assist Homecare.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.