Mae Nightingale HQ yng Nghaerffili yn helpu gweithgynhyrchwyr i weithio’n fwy effeithlon, gan hefyd leihau gwastraff ac allyriadau carbon. Gyda chymorth tîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi cyflymu ei waith ymchwil a datblygu, lansio ei gynnyrch masnachol cyntaf ac atgyfnerthu partneriaethau rhyngwladol, gan gefnogi enw da cynyddol Cymru am arloesi ym maes gweithgynhyrchu a thechnoleg werdd.
Sefydlwyd y busnes yn 2018 gan y cyd-sylfaenwyr Ruth Kearney a Stephanie Locke, a’i nod yw mynd i’r afael â her sydd wedi effeithio ar y sector metelau ers amser maith drwy leihau prosesau a wneir â llaw, gwella cynllunio a lleihau gwastraff deunyddiau. Mae ei ddatrysiad, sef GoSmarter.ai, yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddigido dogfennau cynhyrchu allweddol, awtomeiddio tasgau cynllunio, a helpu gweithgynhyrchwyr i wneud penderfyniadau gweithredol mwy gwybodus.
Ar ddechrau 2025, derbyniodd y cwmni gymorth gan Lywodraeth Cymru trwy’r rhaglen gydweithredol rhyngranbarthol VInnovate, sy’n helpu sefydliadau yng Nghymru i weithio gyda phartneriaid ymchwil a diwydiant rhyngwladol i ddatblygu technolegau newydd, rhannu arbenigedd a chyflymu prosiectau arloesi.
Trwy’r cymorth hwn, bu’r cwmni’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Dechnoleg Moduron Galicia (CTAG) a’r partner technoleg OVEUN ar ei brosiect Ysgogi Cynaliadwyedd mewn Gweithgynhyrchu. Trwy gydweithio dros gyfnod o 12 mis, mae’r cymorth wedi galluogi’r cwmni i wneud y canlynol:
- Datblygu a phrofi technoleg Gefell Digidol i efelychu prosesau gweithgynhyrchu.
- Lansio ei gynnyrch masnachol cyntaf a dilysu’r dechnoleg mewn amgylcheddau ffatri gweithredol.
- Adeiladu partneriaethau ymchwil rhyngwladol newydd sy’n cefnogi arloesi at y dyfodol.
- Cyflymu datblygiad adnoddau sy’n cael eu pweru gan ddeallusrwydd artiffisial a luniwyd i leihau gwastraff cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd.
Meddai Stephanie Locke, Pennaeth Cynnyrch yn Nightingale HQ: “Mae llwyddiant Cymru’n dibynnu ar ei seiliau gweithgynhyrchu ac, yn fwyfwy, ar y gymuned gynyddol o fusnesau technoleg newydd. Roeddem yn ddiolchgar o gymorth Llywodraeth Cymru drwy raglen VInnovate.
“Mae wedi ein galluogi i gydweithio’n rhyngwladol ac i gyflawni mwy ar gyfer gweithgynhyrchu trwy dechnoleg. Dylai busnesau dwys o ran ymchwil a datblygu yng Nghymru ystyried y rhaglen o safbwynt cymorth ariannol, ond hefyd o ran y cynghorwyr gwych o fewn timau Arloesi Llywodraeth Cymru.”
Mae hyblygrwydd y rhaglen wedi galluogi’r cwmni i gynyddu ei weithgarwch ymchwil a datblygu, cynyddu parodrwydd ar gyfer y farchnad a chreu cyfleoedd newydd i gydweithio ledled y DU ac Ewrop. Mae’r busnes yn bwriadu cynyddu ei weithlu a datblygu ei ddatrysiadau’n rhyngwladol wrth i fwy a mwy o bobl fabwysiadu’r dechnoleg.
Mae effaith arloesi’r cwmni eisoes yn cyflawni canlyniadau:
- Mae gweithgynhyrchwyr yn arbed amser sylweddol trwy brosesu dogfennau’n awtomatig.
- Mae Rheolwyr Cynhyrchu sy’n defnyddio ei adnodd Mill Cert Processor yn arbed mis o lafur bob blwyddyn.
- Mae treialon adnoddau optimeiddio cynnyrch hir wedi dangos gostyngiad o 50 y cant mewn cynnyrch sgrap, gan wella effeithlonrwydd a chefnogi allyriadau is.
Ychwanegodd Ruth Kearney, Prif Weithredwr Nightingale HQ: “Mae’r cymorth wedi rhoi’r amser a’r adnoddau i ni gynnal y gwaith ymchwil angenrheidiol er mwyn dilysu’r dechnoleg mewn amgylcheddau ffatri go iawn, a chyflwyno ein cynnyrch masnachol cyntaf i’r farchnad. Mae wedi ein galluogi i brofi syniadau newydd gyda phartneriaid rhyngwladol gan hefyd barhau i ganolbwyntio ar helpu gweithgynhyrchwyr i ddigido, gwella cynhyrchiant a lleihau gwastraff.
“Mae’r partneriaethau a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiect yn parhau i gefnogi ein twf a’n rhagolygon rhyngwladol. Mae’r math hwn o gymorth arloesi cydweithredol wedi bod yn hynod werthfawr i’n helpu i symud o ddatblygu i ddefnyddio yn y byd go iawn.”
Mae gwaith y cwmni’n cefnogi blaenoriaethau Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr agweddau hinsawdd a natur. Trwy gefnogi’r broses o foderneiddio’r sectorau dur a metel, mae’r busnes yn helpu i atgyfnerthu un o sylfeini diwydiannol allweddol Cymru ac i wella gwydnwch hirdymor y sector. Mae’r sylfaenwyr wedi cyflwyno hyfforddiant parodrwydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial i dîm arwain Tata UK ym Mhort Talbot, gan gefnogi mabwysiadu technoleg lefel uwch yng Nghymru.
Mae arloesedd y busnes yn helpu gweithgynhyrchwyr i fabwysiadu adnoddau mwy clyfar er mwyn gwneud penderfyniadau, sy’n cefnogi gweithrediadau mwy cynaliadwy a buddsoddiad mewn cynhyrchiant carbon isel yn y dyfodol.
Yn dilyn y prosiect VInnovate, mae’r cwmni bellach yn defnyddio Cymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART Llywodraeth Cymru i gyflymu’r cam nesaf o ddatblygu cynnyrch.
Dysgwch ragor am sut y gall VInnovate a Chymorth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesi Busnes Cymru i gael gwybod mwy.