Hanes llwyddiant

Metrology yn gweddnewid gwaith atgyweirio awyrennau gyda chymorth arloesi

MES worker inside engine

Lleolir pencadlys Metrology Engineering Services (MES) yn Sain Tathan ac mae’r brif swyddfa beirianneg wedi’i lleoli yng Nghasnewydd, Cymru. Mae MES yn helpu i ail-lunio gwaith atgyweirio awyrennau trwy ddefnyddio technoleg ddigidol uwch. Gyda chymorth gan Dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi buddsoddi mewn technoleg newydd, mae wedi creu swyddi medrus ac mae wedi esgor ar atebion cynaliadwy sydd wedi arbed miliynau o bunnoedd i gwmnïau hedfan ledled y byd.

Sefydlwyd MES yn 2023. Nod y cwmni oedd moderneiddio’r sector cynnal, atgyweirio ac archwilio (MRO), gan gyflwyno dulliau digidol newydd oddi mewn i ddiwydiant sydd wedi dibynnu ar brosesau llaw ers amser maith.

Medd Steve Beasley, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Metrology Engineering Services: “Ein nod o’r cychwyn cyntaf oedd ailystyried sut y caiff awyrennau eu hatgyweirio a’u harchwilio. Trwy ddefnyddio sganiau a data mewn ffyrdd doethach, gallwn leihau amseroedd segur, arbed arian i weithredwyr a sicrhau bod awyrennau’n hedfan yn ddiogel. Y nod yw newid y ffordd y mae’r diwydiant yn gweithio, er gwell.”

Fe wnaeth y cwmni elwa am y tro cyntaf ar Gymorth Arloesi Hyblyg SMART yn 2023 pan gafodd grant tuag at brynu cyfarpar sganio 3D a oedd yn hanfodol i’w lansio. Gan adeiladu ar y sylfaen honno, yn nes ymlaen cafodd y cwmni ragor o arian ar gyfer ymestyn ei dîm, mabwysiadu’r technolegau archwilio diweddaraf ac ymestyn ei wasanaethau.

Yn sgil hyn, bu modd i’r busnes gynyddu ei weithlu, rhoi’r technolegau archwilio diweddaraf ar waith ac ehangu ei wasanaethau. Hefyd, mae cymorth yr Economi Gylchol wedi ei helpu i ymwreiddio arferion atgyweirio cynaliadwy ar draws ei brosiectau.

Dros ddwy flynedd, mae cymorth arloesi wedi galluogi’r cwmni i wneud y canlynol:

  • Recriwtio staff parhaol a chreu prentisiaethau a chyfleoedd i raddedigion yng Nghymru.
  • Ymestyn i’r maes rheoli asedau digidol trwy ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chadwyn bloc.
  • Ailddefnyddio cydrannau gwerthfawr ar draws y sectorau awyrofod, rheilffyrdd ac ynni.

Mae hyblygrwydd y cymorth wedi galluogi’r busnes i addasu’n gyflym i dechnoleg newydd ac anghenion cyfnewidiol y farchnad. Bu hyn yn hollbwysig pan ofynnwyd i MES gynorthwyo cwmni hedfan mawr yn dilyn cawod drom o genllysg yn Ewrop.

Gan ddefnyddio cyfarpar sganio digidol uwch, llwyddodd y cwmni i greu modelau 3D manwl er mwyn asesu’r difrod yn ddi-oed, gan sicrhau bod y gwaith atgyweirio’n cyrraedd y safonau uchaf posibl. Gan fod y gwaith wedi’i wneud mor gyflym, llwyddwyd i darfu cyn lleied â phosibl ar gwmni hedfan mawr o’r dwyrain canol, oherwydd bu modd atgyweirio’r cydrannau yn hytrach na’u hadnewyddu, gan arbed mwy nag $20 miliwn i’r cwsmeriaid. Dengys hyn fod modd i dechnoleg ddigidol ailddiffinio diogelwch a dibynadwyedd awyrofod.

Medd Steve: “Heb y cymorth, fyddai’r busnes ddim yn bodoli. Ar ôl cael y grant Cymorth Arloesi Hyblyg cyntaf, bu modd inni brynu’r cyfarpar arbenigol angenrheidiol. Fe wnes i ailforgeisio fy nhŷ, hyd yn oed, er mwyn gallu darparu arian cyfatebol. Ond fe wnaeth y grant roi hwb cychwynnol hollbwysig i’r cwmni. O’r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod wrth law i’n helpu.”

Mae’r cwmni wedi llwyddo i wneud cynnydd eithriadol:

  • Yn y flwyddyn gyntaf, cyrhaeddodd y trosiant saith ffigur, gyda 100% o’r gwerthiannau’n deillio o allforion.
  • Crëwyd pedair rôl ar gyfer graddedigion a phrentisiaethau i fyfyrwyr yng Nghymru, gan ategu’r llif sgiliau.
  • Llwyddwyd i arbed miliynau o ddoleri i gwmnïau hedfan rhyngwladol mawr.
  • Enwyd y cwmni yn ‘Fusnes y Flwyddyn Cymru’ ac yn ‘Fusnes Arloesol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnes Cymru 2024.
  • Mae’r cwmni wedi cydweithio â phrifysgolion, yn cynnwys prosiect gefell digidol ar gyfer twnnel gwynt Prifysgol Gorllewin Lloegr.

Mae llwyddiant y cwmni’n dangos sut y gall arloesi yng Nghymru gystadlu ar y llwyfan byd-eang. Mae gwaith y cwmni’n ategu Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru ar draws y pedair cenhadaeth.

Mae’n creu swyddi o’r radd flaenaf a chyfleoedd hyfforddi i beirianwyr ifanc yng Nghymru. Trwy allforio’i wasanaethau ledled y byd a thrwy gymryd rhan mewn teithiau masnach, mae’n cryfhau economi Cymru. Trwy gyfrwng dulliau sy’n ategu’r Economi Gylchol, fel ailddefnyddio ac atgyweirio, mae’n lleihau gwastraff ac allyriadau carbon, gan fynd ati’n uniongyrchol i ategu nodau hinsawdd.

I gael rhagor o wybodaeth am y modd y gall Cymorth Arloesi Hyblyg SMART helpu eich busnes chi, cymerwch gipolwg ar Arloesi Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.