Mae MeOmics, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn datblygu dull newydd o ddatblygu cyffuriau seiciatrig a allai helpu cleifion dderbyn triniaethau mwy effeithiol yn gynt. Gyda chefnogaeth gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, drwy Gefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART (FIS), mae’r cwmni wedi rhoi’r prosesau cywir yn eu lle er mwyn datblygu a thyfu ei dechnoleg, wedi mireinio ei lwybr i’r farchnad ac wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa i allu tyfu a buddsoddi yn y dyfodol.
Wedi’i sefydlu yn 2021, fel cwmni sy’n deillio o Brifysgol Caerdydd, mae’n canolbwyntio ar seiciatreg fanwl. Mae ei blatfform yn defnyddio samplau gwaed gan gleifion gyda salwch meddwl difrifol er mwyn cynhyrchu celloedd dynol yn y labordy, gan alluogi ymchwilwyr i astudio sut mae gwahanol bobl yn ymateb i wahanol gyffuriau.
Drwy gyfuno’r data biolegol yma gydag uwch ddadansoddiadau, mae’r cwmni’n anelu i gefnogi datblygu therapïau sydd wedi’u targedu’n well ar gyfer cyflyrau megis seicosis, iselder a gorbryder, a allai effeithio nifer o bobl ar draws Cymru a’r DU.
Meddai Dr Lucy Sykes, Prif Weithredwr MeOmics: “Rydym yn datblygu platfform rhag-glinigol ar gyfer seiciatreg fanwl. Drwy greu celloedd ymennydd gan gleifion a dadansoddi sut maent yn ymateb i wahanol elfennau, gallwn ddechrau deall pa driniaethau sy’n debygol o weithio ar gyfer gwahanol fathau o gleifion.
“Rydym eisiau gwneud yr un fath i salwch meddwl difrifol ag y mae meddygaeth fanwl wedi’i wneud i gancr - gan symud i ffwrdd o’r dull un datrysiad i bawb a thuag at driniaethau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer grwpiau penodol o gleifion.”
Yn gynnar yn 2025, sicrhaodd y cwmni £25,000 mewn ariannu Cefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART Lefel 1, gan ei alluogi i atgyfnerthu agweddau allweddol o’i strategaeth arloesi.
Mae’r ariannu wedi helpu'r cwmni i:
- Optimeiddio dadansoddi data a dulliau prosesu
- Tyfu prosesau labordy er mwyn cefnogi masnachu yn y dyfodol
- Atgyfnerthu amddiffyniad eiddo deallusol
- Datblygu strategaeth eglur a chydnerth llwybr i’r farchnad
Ychwanegodd Dr Sykes: “Mae’r ariannu wedi galluogi i ni gymryd cam yn ôl a gwneud yn siŵr yn wirioneddol bod ein cynllun yn wydn - o’r wyddoniaeth hyd at ein llwybr i’r farchnad. Mae wedi’n helpu ni i symud o brofi cysyniad tuag at fod yn gwmni gwydn y gellir buddsoddi ynddo.
“Mae’r cynnig ariannu cyflym hefyd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar gyfer cwmnïau sydd ar y camau cyntaf. Gall hyd yn oed symiau cymharol fach o gefnogaeth grant fod yn gwbl allweddol pan maen nhw’n cyrraedd yn gyflym ac yn ein galluogi ni i ddod ag arbenigedd i mewn neu brofi syniadau newydd.”
Mae’r cwmni eisoes yn gweld canlyniadau positif o’i arloesi:
- Llwyddodd y busnes i sicrhau £300,000 gan angel buddsoddi, gan gynnwys cefnogaeth gan Women Angels of Wales a Chronfa Cyd-fuddsoddi Angel Cymru.
- Mae wedi atgyfnerthu cydweithrediadau ar draws ecosystem gwyddorau bywyd Cymru, gan gynnwys partneriaethau gyda Phrifysgol Caerdydd a phartneriaid ymchwil clinigol.
- Mae’r cwmni wedi dechrau profi cydrannau gan Draig Therapeutics, cwmni biodechnegol wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n datblygu triniaethau ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig ac wedi sicrhau llythyr o fwriad ar gyfer cydweithredu yn y dyfodol.
- Mae wedi ei dderbyn ar nifer o raglenni proffil uchel, gan gynnwys y Rhaglen Cyflymydd Gwyddor Bywyd y Pioneer Group, Rhaglen Drochi Mentrau Iechyd Meridian a Labordai Technoleg Ddwys, gan atgyfnerthu ei barodrwydd ar gyfer buddsoddi ynddo.
Mae MeOmics hefyd wedi ymgeisio am ariannu Cefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART Lefel 2, a fydd yn ei alluogi i roi ei gynllun arloesi ar waith, tyfu ei blatfform technoleg a symud tuag at gynhyrchu refeniw masnachol.
Mae gwaith y cwmni’n cefnogi blaenoriaethau Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru drwy feithrin partneriaethau ar draws y sector gwyddorau bywyd a chreu cyfleoedd ar gyfer rolau graddedig medrus, a chyfrannu at dwf economaidd yng Nghymru. Fel rhan o glwstwr arloesi niwrowyddoniaeth a iechyd meddwl Caerdydd sy’n tyfu, mae hefyd yn helpu i atgyfnerthu’r ecosystem ranbarthol drwy weithio gyda Phrifysgol Caerdydd a phartneriaid i droi ymchwil arweiniol yn draweffaith masnachol.
Ar yr un pryd, mae gan ei dechnoleg y potensial i wella deilliannau clinigol ar gyfer pobl sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol drwy gyflymu datblygu triniaethau mwy personol a helpu i ddod â therapïau newydd yn gynt i gleifion.
Dysgwch ragor am sut y gall Cefnogaeth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.
Defnyddir y ddelwedd hon dan drwydded gan Fanc Datblygu Cymru.