
Diolch i gariad at natur, cymorth gan Busnes Cymru, a phŵer deallusrwydd artiffisial, mae gŵr a gwraig wedi creu cyfres o gynnyrch holistaidd cynaliadwy sy’n diflannu oddi ar y silffoedd.
Lansiodd Andrew a Deborah Owen-Smith o Gaernarfon My Lovingly Handmade ym mis Ebrill 2024, sy’n cynnig toddion cwyr aromatherapi, gwasgarwyr clai a thoddwr cwyr o lechen grai o Gymru.
Ymhen blwyddyn, roedd poblogrwydd eu cynnyrch wedi arwain at ehangu at ystod o gynnyrch 100% naturiol a figan, a sylweddolodd y pâr fod yr hyn a ddechreuodd fel hobi yn gwerthu eitemau mewn ffair Nadolig am hwyl, bellach yn hedyn busnes ffyniannus.
Heddiw, mae cynnyrch y cwpl yn gwerthu allan yn rheolaidd mewn lleoliadau lleol ac ar-lein. Mae ystod o gynnyrch aromatherapi My Lovingly Handmade hefyd wedi’i stocio mewn lleoliadau ar draws Parc Cenedlaethol Eryri, lle mae eu poblogrwydd gydag ymwelwyr wedi arwain at ail-archebion.
Ond, dydy’r llwyddiant dros nos heb fod yn hawdd bob amser, a sylweddolodd y ddau’n gyflym bod angen cymorth arnynt i adeiladu busnes sy’n gallu bodloni’r galw.
Ar ôl cysylltu â Busnes Cymru, cafodd y pâr eu cyflwyno i’r Ymgynghorwyr Busnes, Laura Fordham ac Ian Harvey, a oedd yn gallu eu helpu i lunio cynlluniau ariannol a marchnata a chanfod y dechnoleg oedd ei hangen arnyn nhw i ehangu. Roedd hyn yn cynnwys gwneud defnydd o bŵer deallusrwydd artiffisial.
Meddai Andrew:
Mae hi wedi bod yn broses ddysgu ddwys, gan fod My Lovingly Handmade yn fusnes gwahanol iawn i’n cwmni cyntaf ni. Er bod ein cynnyrch yn gwerthu, helpodd cymorth Busnes Cymru ni i sylweddoli bod angen gwaith ar ein marchnata a’n gweithrediadau er mwyn gwneud yn siŵr bod y llwyddiant cychwynnol yna’n dal i dyfu.
Busnes annibynnol ydyn ni, dim ond fi a Deb sydd, does ’na ddim llwyth o amser ganddon ni i’w roi i farchnata. Mae diwrnodau hir a nosweithiau hwyr yn normal. Ond mi wnaeth ein hymgynghorwyr ein cyflwyno ni i dechnoleg ac adnoddau sydd wedi newid popeth. Mae’n siŵr y byddai pobl yn synnu fod busnes fel ein un ni’n defnyddio deallusrwydd artiffisial, ond mae’r dechnoleg yma wedi chwyldroi’r ffordd rydyn ni’n gweithio ac yn hyrwyddo’n hunain.
Mae’r chwe mis nesaf yn edrych yn debygol o ddyblu gwerthiannau My Lovingly Handmade mewn lleoliadau gwerthu, wrth iddyn nhw ehangu i ganolfannau garddio. Mae hyn yn rhannol ddiolch i geisiadau llwyddiannus am Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes, sydd wedi helpu i ariannu offer capasiti uchel newydd i gynyddu eu cyfaint a’u cyflymder cynhyrchu.
Meddai’r Ymgynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru, Ian Harvey:
Mae Andrew a Deborah yn ddigon cyfarwydd â rhedeg eu busnes eu hunain, a hwythau wedi gwneud hyn yn llwyddiannus o’r blaen. Roedd y ddau mor awyddus i ddod a dysgu cymaint â phosib i dyfu My Lovingly Handmade. Maen nhw’n enghraifft wych i ddangos dim ots faint o brofiad sydd gennych chi, na faint mor boblogaidd yw eich cynnyrch, mae bob amser sgiliau newydd a chymorth all fynd â chi’n bellach.
Ariennir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i helpu’ch busnes ganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg.