
Mae cwmni technoleg feddygol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn trawsnewid ffonau symudol i stethosgopau wedi’u pweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial - gan rymuso pobl â chyflyrau anadlol cronig i fonitro’u hiechyd gartref. Gyda chymorth tîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae Laennec AI yn cyflymu datblygiad, yn magu hyder y buddsoddwr ac yn gwella canlyniadau i gleifion yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r cwmni wedi datblygu datrysiad meddalwedd-yn-gyntaf, sy’n defnyddio meicroffonau’r ffonau clyfar ac addasydd cost isel i ddod o hyd i newidiadau anadlol cynnil mewn amser real. Mae’r adnodd nid yn unig yn adnabod abnormaleddau, ond hefyd yn gweithio fel hyfforddwr iechyd personol - gan gynorthwyo pobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma difrifol i reoli’u cyflwr o ddydd i ddydd.
Cefnogwyd Laennec AI drwy ystod o gyllid arloesi, gyda Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan ganolog yn ei daith ddatblygol. Yn ogystal, derbyniodd grant gan y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i greu prototeip cychwynnol - gyda chyllid yn cael ei ddyfarnu i dechnolegau oedd yn mynd i’r afael ag anghenion brys y GIG yn unig.
Esboniodd Dr Jase John, Prif Weithredwr a Chyd-sylfaenydd Laennec AI: “Ein nod yw rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar gleifion i reoli’u hiechyd yn rhagweithiol ac atal derbyniadau i’r ysbyty y gellid eu hosgoi. Mae’r cymorth a gawsom gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol i wireddu hyn.”
Derbyniodd y cwmni ei grant Cefnogaeth Arloesi Hyblyg SMART (SFIS) cyntaf, werth £25,000, ym mis Chwefror 2024. Ariannodd hwn astudiaeth ddichonoldeb i gyrraedd lefel parodrwydd technegol (TRL) chwech - rhan o raddfa o un i naw, lle mae naw yn golygu bod y cynnyrch yn barod ar gyfer y farchnad. Gyda’r cymorth hwn, llwyddodd y busnes i:
- Ddatblygu a phrofi ei ddatrysiad monitro ar gyfer asthma difrifol.
- Newid o stethosgop caledwedd costus i fodel symudol-yn-gyntaf mwy hygyrch.
- Cyflymu Ymchwil a Datblygu a lleihau amser i ddilysiad cychwynnol ac ardystiad.
- Datblygu’r cynnyrch i gyd-fynd ag anghenion y GIG i wella ei addasrwydd i’r farchnad.
Ym mis Ebrill 2024, derbyniodd y cwmni Archwiliad IP o £2,500 drwy’r tîm Arloesi, a ddarparwyd gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO). Cadarnhaodd yr archwiliad natur wreiddiol technoleg Laennec AI, gan roi’r hyder i’r tîm fuddsoddi’n ymhellach mewn datblygiad a masnacheiddio. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, dyfarnwyd ail grant SFIS o £200,000 i gefnogi ei gynllun arloesi.
Mae’r ail gam hwn o gefnogaeth yn caniatáu i’r cwmni:
- Fireinio ei algorithmau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer monitro anadlol ar raddfa glinigol.
- Gweithio tuag at ardystiad a pharatoi at dreialon clinigol gydag UCL.
- Ehangu ei dîm yng Nghymru a chreu cyfleoedd am swyddi hynod fedrus.
- Lleihau allyriadau carbon drwy gefnogi monitro gartref a llai o ymweliadau â’r ysbyty.
Gellir teimlo effaith y gefnogaeth hon yn barod. Ym mis Hydref 2024, sicrhaodd y cwmni fuddsoddiad ecwiti gwerth £2 filiwn - gan gau’r rownd yn sydyn diolch i hyder buddsoddwyr yng nghefnogaeth y llywodraeth. Ym mis Ebrill 2025, fe’i derbyniwyd ar Raglen Deallusrwydd Artiffisial Google ar gyfer Busnesau Newydd
Ychwanegodd Dr Arathy Varghese, Prif Swyddog Technoleg a Chyd-sylfaenydd Laennec AI: “O sicrhau cyllid i gysylltiadau strategol, mae cefnogaeth y tîm Arloesi wedi bod yn hynod werthfawr. Maent wedi cynorthwyo i agor drysau i bartneriaid y GIG a chreu lle i ni ganolbwyntio ar y gwaith o bwys.”
Mae gwaith Laennec AI yn cyd-fynd yn gryf â Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae’n cefnogi iechyd a llesiant drwy leihau ymweliadau ysbyty y gellir eu hosgoi a chynorthwyo cleifion i reoli cyflyrau cronig yn fwy effeithiol. Mae’n cryfhau’r economi drwy greu swyddi technoleg hynod fedrus a denu buddsoddiad i Gymru.
Drwy ei hyfforddwr iechyd Deallusrwydd Artiffisial, mae’n hyrwyddo addysg drwy gynorthwyo pobl i ddeall ac olrhain eu hiechyd anadlol. A thrwy alluogi gofal yn y cartref, mae’n datblygu amcanion hinsawdd a byd natur drwy dorri allyriadau a lleihau pwysau ar wasanaethau’r GIG.
Dysgwch ragor am sut y gall Cefnogaeth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART gefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.