Mae'r cwmni KLA, sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd, yn helpu i lywio dyfodol technoleg fyd-eang o dde Cymru. Gyda chefnogaeth gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, mae'r cwmni wedi buddsoddi'n lleol mewn seilwaith ymchwil o'r radd flaenaf, gan ehangu ei allu Ymchwil a Datblygu a chryfhau partneriaethau â phrifysgolion lleol. Mae buddsoddiadau o'r fath yn ategu ymhellach enw da cynyddol Cymru yn y diwydiant lled-ddargludyddion byd-eang.
Mae KLA yn gweithgynhyrchu offer arbenigol a ddefnyddir i adeiladu lled-ddargludyddion - rhannau hanfodol a geir ym mhopeth, o gerbydau trydan a ffonau clyfar i ganolfannau data a chyfarpar meddygol. Yn fyd-eang, bu i KLA adrodd incwm blynyddol o $9.8 biliwn ym mis Mehefin 2024. Mae maint ei weithrediad yn y DU, a arferai gael ei alw'n SPTS Technologies, wedi mwy na dyblu ers 2019, gan gyflogi dros 500 o bobl erbyn hyn yn ei safle estynedig yng Nghasnewydd.
Dechreuodd y rhyngweithio cychwynnol gyda Llywodraeth Cymru drwy gymorth Ymchwil a Datblygu cydweithredol, gyda'r tîm Arloesi'n helpu i sefydlu partneriaeth gynnar rhwng y cwmni a Phrifysgol Abertawe. Arweiniodd hyn at Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, a osododd y sylfeini ar gyfer cydweithrediad dyfnach a buddsoddiad hirdymor mewn arloesedd.
Dywedodd Jacob Mitchell, a fu'n Bartner Trosglwyddo Gwybodaeth yn y gorffennol ac sydd bellach yn Uwch Beiriannydd Proses llawn amser yn KLA: "Mae cydweithio â Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe wedi'n galluogi ni i archwilio cymwysiadau newydd ar gyfer ein technoleg, cefnogi sgiliau yn y dyfodol a chynyddu ein gallu Ymchwil a Datblygu yn ne Cymru.”
Cafodd y KTP tair blynedd, a lansiwyd yn 2019 ac sy'n werth £240,000, ei chyd-ariannu gan y busnes a'r cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn cefnogi ymchwil i gymwysiadau ychwanegol ei thechnoleg, gan gynnwys targedu cymwysiadau mewn storio ynni a thechnolegau batri'r genhedlaeth nesaf.
Yn ogystal, bu i Lywodraeth Cymru gefnogi menter a ddarparwyd mewn partneriaeth â'r cwmni a Phrifysgol Abertawe er mwyn helpu i ddod â chynhyrchion camau cychwynnol yn nes i'r farchnad. Bu i'r cydweithrediadau hyn brofi deunyddiau newydd, gwella trosglwyddiad gwybodaeth a chryfhau gallu ymchwil lled-ddargludyddion y rhanbarth.
Mae cymorth arloesi Llywodraeth Cymru wedi helpu'r cwmni i:
- Archwilio cymwysiadau newydd ar gyfer ei dechnolegau gweithgynhyrchu.
- Adeiladu ar bartneriaethau academaidd i archwilio deunyddiau a phrosesau blaengar.
- Atgyfnerthu'r sylfaen ar gyfer ymchwil cydweithredol yng Nghymru.
Yn dilyn cymorth targedig gan Lywodraeth Cymru, bu i'r busnes hefyd gyd-fuddsoddi £15 miliwn yng Nghanolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol (CISM) newydd Prifysgol Abertawe, gan gyfrannu at gyfleuster blaengar gwerth £30 miliwn a agorodd yn 2023. Mae'r ganolfan ymchwil lled-ddargludyddion pwrpasol yn darparu ardal ystafell lân, cyfarpar arbenigol a phiblinell ar gyfer talent yn y dyfodol.
Ychwanegodd Mr Mitchell: "Rhoddodd y prosiectau hyder i ni yn y potensial ymchwil yng Nghymru. Nid am dwf busnes yn unig mae hyn - mae'n golygu gweithio â phrifysgolion lleol i greu hwb ar gyfer arloesedd, sgiliau a chyfle.”
Gellir gweld effaith gadarnhaol y cydweithrediad hwn yn barod:
- Mae ei weithlu yn y DU wedi mwy na dyblu, o 250 yn 2019 i dros 500 o weithwyr.
- Mae cyfleuster newydd wedi agor yn Llynnoedd Celtaidd, Casnewydd, i gefnogi ehangiad parhaus.
- Mae partneriaethau gyda Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn parhau i gefnogi hyfforddiant, prosiectau Ymchwil a Datblygu a lleoliadau PhD.
Mae'r buddsoddiadau hyn yn amlygu Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru, gan gyfrannu at y nodau addysg, economi, yr hinsawdd a byd natur. Drwy fuddsoddi mewn ymchwil, seilwaith a phobl, mae'n helpu i annog twf economaidd a swyddi newydd yn ne Cymru ac ar yr un pryd yn datblygu technolegau sy'n cefnogi ynni carbon isel, trafnidiaeth gynaliadwy ac arloesi digidol.
Mae ei bwyslais parhaus ar ddatblygu deunyddiau a gweithgynhyrchiant yn sicrhau bod gan Gymru rôl allweddol i'w chwarae mewn diwydiant byd-eang, gan gyflawni buddion hirdymor i gymunedau, prifysgolion a busnesau ar draws y rhanbarth.
Dysgwch ragor am sut mae tîm Arloesi Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi eich sefydliad. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.