Hanes llwyddiant

Gwobrau Arloesi Myfyrwyr yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr yng Nghymru

Student at Innovation awards 2025

O ailddehongli goleuadau awyr agored i ddylunio teclyn plannu a fydd yn helpu pobl â phroblemau symudedd i arddio, mae Dylan Draper, gŵr ifanc 18 oed o Aberdâr, wedi troi creadigrwydd yn gyfle trwy gyfrwng y Gwobrau Arloesi – sef menter ar y cyd rhwng tîm Arloesi Llywodraeth Cymru a chorff dyfarnu Cymru, CBAC.

Ac yntau’n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr, mae Dylan bellach yn dilyn prentisiaeth mewn peirianneg sifil gydag Arup, sef un o brif gwmnïau peirianneg y DU. Cred Dylan fod y sgiliau a enillodd trwy astudio Dylunio a Thechnoleg a thrwy gymryd rhan yn y Gwobrau Arloesi  wedi rhoi hyder a phrofiad iddo ddilyn llwybr amgen ar gyfer ymuno ag addysg uwch.

Medd Dylan: “Rydw i wastad wedi mwynhau datrys problemau a gwella pethau. Doedd Dylunio a Thechnoleg byth bythoedd yn teimlo fel gwaith ysgol – roedd yn hwyl. Rhoddodd y Gwobrau Arloesi reswm imi fy ngwthio fy hun, a rhoddwyd hwb mawr i’m hyder ar ôl imi weld fy mhrosiect yn cael ei arddangos. Hefyd, fe wnaeth hyn fy helpu i serennu ymhlith ymgeiswyr eraill pan oeddwn i’n ymgeisio am fy mhrentisiaeth.”

Yn 2024, enillodd Dylan yr ail wobr am brosiect Safon UG a oedd yn cynnwys dylunio golau awyr agored a redai ar ynni’r haul – sef rhywbeth a ysbrydolwyd gan ddiffyg ar yr haul. Eleni, mae ei brosiect Safon Uwch, SpudBud, wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol iddo drachefn. Teclyn y gellir ei ddefnyddio mewn rhandiroedd yw’r SpudBud, ac mae’n galluogi defnyddwyr i blannu tatws heb orfod plygu, gan ddefnyddio mecanwaith i symud ac ailosod y pridd yn effeithlon – ac mae’n addas i bobl anabl. Creodd Dylan y prototeip ar ôl gwylio’i dad-cu yn cael anhawster i arddio oherwydd poen yn ei gefn, a defnyddiodd argraffu 3D, cylchedwaith a pheiriannu manwl i ddod â’r syniad yn fyw.

Fel yr esbonia Dylan: “Cymerodd beth amser imi esgor ar y syniad. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau dylunio rhywbeth defnyddiol, a phan welais fy nhad-cu yn cael anhawster i blannu, meddyliais fod yna well ffordd ar gael. Ar ôl dechrau dylunio, syrthiodd popeth i’w le.”

Mae tîm Arloesi Llywodraeth Cymru a CBAC wedi cynnal y Gwobrau Arloesi ar y cyd ers mwy na 25 mlynedd bellach, gan ddathlu creadigrwydd, chwilfrydedd a sgiliau datrys problemau dysgwyr ifanc ledled Cymru. Mae’r gystadleuaeth yn cydnabod myfyrwyr sy’n astudio Dylunio a Thechnoleg ac sy’n creu cynhyrchion, gwasanaethau neu systemau arloesol a all ymateb i heriau’r byd go iawn.

Mae’r gwobrau’n rhan hollbwysig o Strategaeth Arloesi Cymru, gan ategu addysg a’r economi trwy greu diwylliant arloesi o oedran cynnar. Trwy gyfrwng mentrau o’r fath, gall pobl ifanc ennill sgiliau ymarferol mewn dylunio, offer digidol a datrys problemau cynaliadwy, gan adeiladu sylfaen gryfach ar gyfer gweithlu Cymru yn y dyfodol.

Medd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Mae’r Gwobrau Arloesi yn dangos pa mor bwerus yw cydweithredu rhwng addysg a diwydiant. Rhoddant gyfle i’r dysgwyr arddangos eu syniadau, meithrin eu hyder a deall gwerth ymarferol dylunio a thechnoleg o ran datrys problemau beunyddiol.”

Dengys siwrnai Dylan fod dod i gysylltiad ag arloesi yn gynnar yn gallu agor drysau ar gyfer dilyn gyrfaoedd ystyrlon. Erbyn hyn, mae Dylan yn gweithio ar brosiectau seilwaith byw yn Arup tra’n astudio am ddiwrnod yr wythnos ar gyfer ei radd mewn peirianneg sifil.

Cred Dylan fod y cyfle i ennill profiad ymarferol tra’n astudio wedi ei ysgogi i ddewis prentisiaeth.

Ychwanegodd Dylan: “Rydw i wastad wedi bod yn ddysgwr ymarferol ac roeddwn i’n gwybod na fyddai astudio’n amser llawn mewn prifysgol yn gweddu cystal imi, o bosibl. Mae gweithio ar brosiectau go iawn, tra’n ennill cymhwyster, yn cynnig cydbwysedd perffaith – un diwrnod rydw i’n dysgu’r theori, a’r diwrnod wedyn rydw i’n rhoi’r theori ar waith.

“Mantais fawr arall yw’r ffaith nad ydw i’n gorfod poeni am ddyledion myfyrwyr. Fy nod yw gorffen fy ngradd, ennill cymhwyster proffesiynol a pharhau i gamu ymlaen yn Arup.”

I Lywodraeth Cymru, mae cefnogi pobl ifanc fel Dylan yn gwbl ganolog i adeiladu cenedl – lle mae creadigrwydd a chydweithredu yn ysgogi cyfle a thwf.

I gael rhagor o wybodaeth am y modd y mae Cymru yn creu cenedl gryfach, decach a gwyrddach trwy arloesi, cymerwch gipolwg ar Strategaeth Arloesi i Gymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.