
Mae Green Elevators Services Ltd, cwmni gwasanaethu a chynnal a chadw lifftiau blaenllaw, wedi symud i safle mwy er mwyn darparu ar gyfer ei dwf cyflym ar ôl ennill cyfres o gontractau newydd gyda chymorth Busnes Cymru.
Gyda dros ddegawd o brofiad ym maes gwasanaethau lifftiau, mae Green Elevators wedi datblygu enw cadarn iddo’i hun, a hynny diolch i raddau helaeth i atgyfeiriadau cwsmeriaid ar draws y DU. Daeth ehangiad y cwmni’n hanfodol yn dilyn ymchwydd mewn busnes ers 2022 ar ôl i’r Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata, Richard Hughes, gysylltu â Busnes Cymru i fireinio proses dendro’r cwmni.
Trwy ddefnyddio arweiniad arbenigol Busnes Cymru, mae Green Elevators wedi treblu cyfradd ei lwyddiannau tendro, ac wedi ehangu ei dîm i dros 30 o staff amser llawn. Yn sgil y twf, bu angen i’r busnes symud i swyddfa fwy o faint mewn lleoliad strategol ym Mharc Charnwood, Bae Caerdydd.
Dyluniwyd y safle deulawr newydd i wella effeithlonrwydd gweithredol y cwmni a’i wasanaethau i gwsmeriaid, ac mae’n cynnwys dwy storfa bwrpasol, dwy ystafell hyfforddi, a lle gweithio estynedig. Mae’r capasiti storio ychwanegol, sy’n cynnwys rheseli silffoedd yn helpu’r cwmni i reoli ei rhestrau stoc yn well, sy’n ei alluogi i gwblhau gwaith trwsio yn fwy effeithlon a lleihau oedi.
Wrth lansio’r cyfleuster newydd, dywedodd Richard Hughes:
Gyda’r cynnydd mewn contractau ac ehangiad cyflym ein tîm, roedd angen swyddfa fwy arnom ni a allai ddarparu ar gyfer ein hanghenion sy’n esblygu. Yn ogystal â darparu’r cyfleusterau storio a hyfforddi sydd eu hangen ar ein staff, mae’r gofod newydd yma mewn lleoliad mwy hygyrch i’n cwsmeriaid hefyd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu partneriaid cyfredol a chleientiaid newydd i weld y gwelliannau rydyn ni wedi eu gwneud i’w cynorthwyo nhw yn well â’u llygaid eu hunain.
Chwaraeodd Elgan Richards, Cynghorydd Busnes Cymru ar Gadwyni Cyflenwi ran allweddol yn llwyddiant Green Elevators, gan gynnig cymorth pwrpasol i wella dull y cwmni o fynd ati i ymchwilio i gyflenwyr a chyflwyno tendrau. Cyfrannodd ei arweiniad yn uniongyrchol at y twf ym mhortffolio’r cwmni, sydd bellach yn cynnwys cleientiaid blaenllaw fel Heddlu De Cymru, Cartrefi Melin, Trivallis, Lync Cymru, a Rheolwyr Cyfleusterau GRAHAM.
Yn ogystal â chadarnhau enw da Green Elevators ar draws de Cymru, mae’r ehangiad yma wedi agor drysau i gyfleoedd newydd ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat ledled y DU hefyd.
Yn rhan o’u strategaeth i gynyddu gwerthiannau, mae Green Elevators wedi lansio gwefan newydd, a fydd yn darparu platfform hygyrch i ddarpar-gleientiaid archwilio ei wasanaethau a chysylltu i drafod prosiectau’r dyfodol.
Wrth siarad am gyflawniadau Green Elevators, dywedodd Elgan Richards:
Roedd Richard a’i dîm yn awyddus i fireinio eu proses tendro, ac mae eu hymroddiad wedi talu ar ei ganfed. Eu gallu i ddiogelu contractau allweddol a buddsoddi yn eu gweithrediadau sydd wedi arwain at y garreg filltir bwysig yma. Mae agor eu swyddfa newydd yn destament haeddiannol iawn i’w gwaith caled a’u hymroddiad i dyfu.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.