Hanes llwyddiant

Gerallt Evans Metalcraft Ltd

Gerallt Evans Metalcraft Ltd

Mae Busnes Cymru wedi dod yn adnodd hanfodol ar gyfer ein busnes sy’n tyfu, yn ein galluogi i fynd o nerth i nerth.

Cysylltodd Vicki Rushton, cyfarwyddwr yn Gerallt Evans Metalcraft Ltd, cwmni gwaith metel, â ni yn Busnes Cymru er mwyn sicrhau bod y busnes yn datblygu i’r cyfeiriad cywir, ac nad oeddynt yn colli cyfleoedd.

Darparodd ei rheolwr cysylltiadau busnes gymorth a chyngor un-i-un ynghylch datblygu a thyfu’r  busnes, gan ddadansoddi strwythur y cwmni, y capasiti, rolau a chyfrifoldebau, arloesedd, a chyllid.

Ers gwrando ar y cyngor a’r arweiniad, mae Gerallt Evans Metalcraft Ltd wedi tyfu bedair gwaith mewn maint.

Maent wedi bod yn gweithio ar ystod o brosiectau yn ddiweddar, o dai coed i strwythurau tanddaearol a hyd yn oed wedi creu cegin dram ar Chwarel enwog Zip World Penrhyn.

A oes angen cymorth arnoch chi wrth ddatblygu eich busnes? Cysylltwch â ni heddiw i ddysgu sut allwn ni eich cefnogi chi. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.