
Mae gweithiwr cymdeithasol o Flaenau Gwent wedi creu ap hynod lwyddiannus, gyda photensial i chwyldroi gwasanaethau cymdeithasol sy’n gweithredu yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Matthew Davies, Rheolwr Tîm yng Ngwasanaeth Plant Merthyr Tudful, wedi defnyddio ei ddeunaw mlynedd o brofiad i greu ap sy’n mynd i’r afael â’r heriau mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth yn eu hwynebu wrth iddyn nhw gynnig gwasanaethau hanfodol.
Er bod hyfforddiant, profiad personol, a sgiliau technoleg Matthew yn golygu ei fod yn unigryw gymwys i greu’r ap, gofynnodd am gyngor gan Busnes Cymru ar gam datblygu cynnar i wella ei ddull o adeiladu a lansio cwmni.
Y canlyniad oedd ap The Social Work Way, sef platfform pwrpasol sy’n hwyluso mynediad at wybodaeth i weithwyr cymdeithasol a chymorth.
Mae’r ap yn symleiddio prosesau i staff, plant ac awdurdodau lleol drwy gynnig nodweddion fel ffurflenni atgyfeirio, system adborth, newidiadau deddfwriaethol mewn amser go iawn, ac offer datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys rhaglenni hyfforddi a thracio cynnydd.
Wrth siarad am ddatblygu’r ap, meddai Matthew:
Dechreuais i fy ngyrfa fel gweithiwr cymorth ym Merthyr, a gweithio fy ffordd lan i ble rydw i nawr. Mae ein gwaith yn hanfodol, ond mae’r lefel o waith papur a gweinyddol yn gallu bod yn frawychus. Mae angen i chi gofio nad swydd naw tan bump yw hon.
Sylweddolais i, gyda fy HND mewn cyfrifiadureg a rhwydweithio cymhwysol, fod gen i’r weledigaeth i greu rhywbeth a allai wneud gwahaniaeth go iawn i bobl sy’n gweithio yn y sector, teclyn sy’n hygyrch bob awr o’r dydd. Er bod y syniad gen i, ro’n i’n cydnabod pwysigrwydd gofyn am arweiniad ychwanegol i lywio cymhlethdodau dechrau busnes a’i redeg yn effeithiol.
Aeth Matthew i weithdy a gynhaliwyd gan Busnes Cymru, a gynigiodd arweiniad iddo a’i gysylltu â Chymorth Busnes Blaenau Gwent i gael cymorth pellach. Helpodd y cymorth hwn iddo lywio camau cynnar sefydlu cwmni.
Awgrymodd y Tîm Busnes ffynonellau ariannu hefyd, gan gynnwys grantiau oedd ar gael drwy Hyb Busnes Blaenau Gwent.
Wrth drafod y cymorth a gafodd ar gamau cynnar adeiladu ei gwmni, meddai Matthew:
Roedd yr arweiniad cychwynnol ges i gan weithdy Busnes Cymru yn ddefnyddiol drwy fy nhywys i’r cyfeiriad cywir. Mae’r cysylltiadau sydd wedi’u creu diolch i’r gweithdy yna wedi bod yn werth chweil wrth greu’r ap a’r busnes.
Yn benderfynol o wneud My Social Work Way yr ap delfrydol ar gyfer gwaith cymdeithasol yng ngwledydd Prydain a thu hwnt, mae Matthew bellach yn gweithio i ddatblygu’r llwyfan i gynnig mwy o ymarferoldeb ac offer proffesiynol. Mae wedi denu llawer o ddiddordeb rhyngwladol eisoes, gan gynnwys ymholiadau o’r UDA, Awstralia a Chanada, ac felly gallai’r nod hwnnw ddod yn realiti yn fuan iawn.
Meddai Tîm Busnes Cymru:
Roedd Matthew yn entrepreneur hynod frwdfrydig ac roedd ganddo’r awch i lwyddo. Roedd ei angerdd yn disgleirio o’r tro cyntaf siaradon ni, ac rydyn ni’n falch iawn o weld yr angerdd yma’n talu ar ei ganfed. Roedd hi’n bleser gallu cefnogi Matthew ar ei daith drwy entrepreneuriaeth wrth iddo helpu’r bobl sy’n cefnogi eraill.
Ariennir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i helpu’ch busnes ganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg.