
Mae cymorth Busnes Cymru wedi helpu Maverick Diagnostics o Wrecsam i dyfu ei fusnes rhyngwladol trwy ddatblygu Academi Hyfforddi Technegwyr Modur sydd bellach yn denu technegwyr o bedwar ban y byd.
Mae’r Academi’n darparu hyfforddiant ymarferol mewn diagnosteg cerbydau datblygedig ar gyfer brandiau mawr fel Jaguar Land Rover, BMW a Tesla. Ers agor yn 2022, mae’r cwmni wedi creu swyddi medrus yn lleol gan ddenu technegwyr cerbydau o bob rhan o’r DU, y Dwyrain Canol ac UDA i Wrecsam am hyfforddiant.
Sefydlwyd busnes gwerthu a gwasanaethau Maverick Diagnostics yn 2017 yn wreiddiol er mwyn cynorthwyo modurdai a gweithdai annibynnol ag offer diagnostig lefel gwerthwyr dilys, a chyngor arbenigol.
Heddiw, y cwmni yw’r cyntaf yn Ewrop i gynnig cymorth ôl-farchnad i holl systemau diagnosteg y gwerthwyr mawr, gan alluogi modurdai annibynnol i gystadlu â’r prif werthwyr. Bu modd datblygu’r ganolfan hyfforddi diolch i gymorth arbenigwyr o Fusnes Cymru, sef gwasanaeth ymgynghori busnesau Llywodraeth Cymru.
Cydweithiodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Svetlana Ross, yn agos â Maverick Diagnostics i lunio cynllun busnes manwl a diogelu £100,000 o gyllid gan Banc Datblygu Cymru.
Mae’r cyllid yma wedi galluogi’r cwmni i fuddsoddi mewn adeiladu’r cyfleuster, cyflogi staff a datblygu cyrsiau hyfforddi arbenigol.
Mae Busnes Cymru’n parhau i gefnogi twf y cwmni, yn fwyaf diweddar wrth helpu Maverick Diagnostics i ennill achrediad seiberddiogelwch o’r safon uchaf, sy’n hanfodol wrth ddelio â data sensitif am gerbydau a darparu cymorth o bell ar draws y byd. Mae Maverick wedi ategu ei ymrwymiad i gynaliadwyedd a chynhwysiant trwy lofnodi Addewidion Tegwch a Thwf Gwyrdd Busnes Cymru hefyd.
Dywedodd Laura Halls, Rheolwr Gyfarwyddwr Maverick Diagnostics:
Rydyn ni’n gweithio mewn maes arbenigol iawn o’r farchnad cerbydau modur ôl-farchnad, ond mae yna alw am wybodaeth a chefnogaeth ein harbenigwyr ym mhedwar ban y byd.
Rhoddodd arbenigwyr Busnes Cymru eu hamser i ddeall beth rydyn ni’n ei wneud, gan gydnabod y cyfleoedd ar gyfer creu sector hyfforddi pwrpasol yma yng Nghymru. Roedd yr Academi’n gysyniad uchelgeisiol, ond gydag arbenigedd Svetlana, bu modd i ni adeiladu cynllun cadarn sydd wedi cynorthwyo buddsoddwyr i ddeall y potensial sydd gennym i adeiladu’r busnes a chreu swyddi.
Mae arbenigwyr Maverick Diagnostics yn gweithio gyda thechnegwyr ôl-farchnad ym mhedwar ban y byd sy’n galw yn gynyddol am gymorth diagnostig o bell i gywiro problemau gyda cherbydau modern sy’n dibynnu ar systemau electronig cymhleth.
Roedd gwaith ymchwil a datblygu Maverick Diagnostics yn cynnwys prynu a chyflawni gwaith ôl-beiriannu ar Tesla er mwyn cael dealltwriaeth lwyr o’i systemau, a llunio cyrsiau hyfforddi EV arbenigol, y mae galw mawr amdanynt erbyn hyn.
Wrth drafod twf rhyngwladol Maverick Diagnostics a lansio’r Academi Hyfforddi Modur, dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Svetlana Ross:
Mae byd cysylltiedig ein dydd yn cynnig llu o gyfleoedd i gwmnïau arbenigol Cymreig gynyddu eu sylfaen o gwsmeriaid yn rhyngwladol, a hynny wrth greu swyddi newydd yma yng Nghymru. Mae Maverick Diagnostics eisoes wedi creu rhwydwaith byd-eang trawiadol o gwsmeriaid, ac wedi clustnodi bod datblygu canolfan hyfforddi’n cynnig potensial rhagorol ar gyfer twf.
Fodd bynnag, gall cwmnïau llwyddiannus ac uchelgeisiol hyd yn oed elwa ar arweiniad wrth lunio achos busnes a fydd yn caniatáu i fuddsoddwyr weld eu potensial ar gyfer twf. Mae llwyddiant yr Academi a’r twf cynaliadwy a’r swyddi y mae’n eu creu yn profi y gall busnesau ar draws Cymru fod gyda’r gorau yn y byd gyda’r cymorth cywir.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.