Hanes llwyddiant

Cymorth Busnes Cymorth yw’r cynhwysyn cudd yn llwyddiant siop goffi annibynnol

Richard Collins

Mae dyn o Gasnewydd wedi troi siom colli swydd yn ddechrau newydd, wrth lansio siop goffi annibynnol gyda chymorth Busnes Cymru. Mae Rich Bean Coffee, a sefydlwyd gan Richard Collins, bellach wedi agor yng Nghlwb Rygbi Caerllion, ac mae’n dangos arwyddion cadarn o dwf.

Fel cyn-reolwr gwerthu, trodd Richard Collins ei gariad at goffi yn fenter busnes yn 2024. Wedi ei ysbrydoli gan yr awydd i gymryd awenau ei ddyfodol ei hun, defnyddiodd y cyfle i greu lle croesawgar, cymunedol sy’n cynnig coffi o ffynonellau cynaliadwy a chynnyrch lleol.

Gydag arweiniad Ian Harvey, un o Ymgynghorwyr Busnes Busnes Cymru, cafodd Richard y cymorth cynhwysfawr i ddechrau busnes oedd ei angen arno i ddatblygu cynllun busnes a rhagolygon ariannol cadarn.

Bu’r arweiniad arbenigol yma’n allweddol wrth ei gynorthwyo i ddiogelu Grant Rhwystrau o £2,000 gan Busnes Cymru i ariannu offer hanfodol a brandio. 

Daeth addewidion Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb Busnes Cymru, sy’n caniatáu i fusnesau rhagweithiol weithio mewn ffordd gynaliadwy a sicrhau gweithleoedd cynhwysol a theg, yn fframweithiau hanfodol ar gyfer ymrwymiad Richard i sicrhau bod cynnyrch The Rich Bean Coffee yn gynaliadwy ac yn dod o ffynonellau moesegol.     

Wrth siarad am ei siwrnai fel entrepreneur, dywedodd Richard: 

Gyda chefndir ym maes rheoli busnes a blynyddoedd o brofiad o arwain timau yn y diwydiant gwerthu, fy mreuddwyd oedd adeiladu rhywbeth drosof fi fy hun. Pan gollais i fy swydd, roedd hi’n teimlo fel yr amser cywir i droi’r uchelgais yna’n realiti.

Roeddwn i wedi treulio llawer o amser yn meddwl beth roeddwn i ei eisiau o’r siop goffi, a beth y gallwn ei wneud i adeiladu busnes oedd yn rhoi profiad o safon i gwsmeriaid lleol. Wedi dweud hynny, dyw dechrau busnes byth yn hawdd. Gwnaeth yr arweiniad gefais i gan Busnes Cymru wahaniaeth anferth. O ddatblygu cynllun busnes i ddeall beth mae’n ei gymryd i lansio’n llwyddiannus, rhoddodd eu cyngor yr hyder a’r strwythur oedd ei angen arnaf i gymryd y cam newydd cyffrous yma.

Roedd Ian yn wych o’r cychwyn cyntaf. Roeddwn i’n ymddiried yn fawr ynddo ac yn teimlo’n wirioneddol hyderus y byddai’r cyngor yr oedd e’n ei gynnig yn fy nhywys i’r cyfeiriad iawn. Rwy’n ddiolchgar dros ben iddo, mae e werth y byd.


Llai na blwyddyn ar ôl lansio’r siop, mae Richard yn edrych ar leoliadau newydd a fydd yn caniatáu i The Rich Bean Coffee ehangu ei sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon ar draws Casnewydd. 

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Busnes Cymru, Ian Harvey: 

Pan ddaeth Richard at Busnes Cymru’n wreiddiol, roedd ei wybodaeth a’i gefndir profiadol yn amlwg. Y cyfan oedd ei angen arno oedd manteisio ar ein hamrywiaeth o adnoddau i’w gynorthwyo i feithrin y sgiliau a’r logisteg angenrheidiol i agor The Rich Bean Coffee.

Mae llwyddiant y siop goffi’n dangos bod llawer o fusnesau Cymreig newydd yn gallu cyflawni llwyddiant mawr gyda’r arweiniad cywir. Gallai hynny fod mor syml â chael ymgynghorydd profiadol wrth law fel postyn taro, neu i helpu i ganfod a oes cymorth ariannol ar gael. Yn yr achos yma, rwy’n siŵr y bydd gwaith Richard yn gweld lleoliadau newydd yn agor ar draws y rhanbarth cyn bo hir.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.