Hanes llwyddiant

Cymorth arbenigol yn gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant Volos

Volos - team

Mae Volos, cwmni seilwaith ymgynghorol yng Nghaerdydd, ar y trywydd iawn i daro £1 miliwn o drosiant diolch i arweiniad strategol Busnes Cymru’n sbarduno ei dwf cyflym.

Fel arbenigwyr ym maes dylunio seilwaith priffyrdd, rheoli prosiectau ac arolygu meintiau, mae Volos wedi ennill enw da iddo’i hun yn gyflym, gan gyflawni prosiectau pwysig ar gyfer awdurdodau lleol ar draws de Cymru a Lloegr, gyda chefnogaeth allweddol gan Fusnes Cymru.

Sefydlwyd y cwmni gan Liam Shields ac Ollie Marsh yn 2021, ac mae Volos bellach mewn sefyllfa dda i ragori ar £1 miliwn o drosiant ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben yn 2025 wrth iddo ennill ei le ar fframweithiau tendro sy’n cynnig y potensial i ddatgloi refeniw newydd o waith peirianneg sifil a phriffyrdd graddfa-fawr.    

Gyda ffocws 95% o’i weithrediadau yn y sector cyhoeddus, mae tîm cynyddol Volos o 10 gweithiwr proffesiynol wedi elwa’n sylweddol ar gymorth pwrpasol Busnes Cymru o ran tendro, AD, a rheoli busnes. Mae’r arweiniad yma wedi caniatáu i’r cwmni ddiogelu cyllid allweddol, mireinio’i weithrediadau, ehangu ei weithlu, ac ennill contractau a fframweithiau pwysig.

Mae Busnes Cymru wedi helpu Volos i ffeindio’i ffordd o gwmpas fframweithiau caffael cymhleth hefyd, gan ganiatáu i’r cwmni ymgeisio’n llwyddiannus am gontractau awdurdod lleol gwerth uchel a’u diogelu.

Yn fwyaf diweddar, mae’r cwmni wedi ennill ei le ar Fframwaith Contractwyr Gwasanaethau Ymgynghori Arbenigol Rhanbarthol De-orllewin Cymru, sydd wedi agor y drws ar brosiectau pwysig gyda Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Benfro, Cyngor Sir Powys a Chyngor Abertawe.

Y tu hwnt i Gymru, mae Volos wedi diogelu lle ar y Fframwaith ar gyfer Darparu Gwasanaethau Ymgynghori Arbenigol hefyd, sy’n caniatáu i’r cwmni ymgeisio am brosiectau gyda Chyngor Sir Surrey. 

Wrth drafod twf Volos ac arweiniad Busnes Cymru a hwylusodd hynny, dywedodd Cyfarwyddwr Volos, Liams Shields: 

Rydyn ni’n hynod o falch o weld gwaith caled ein gweithwyr proffesiynol a’r partneriaethau rydyn ni wedi eu datblygu gyda’n cleientiaid ar draws y Sector cyhoeddus yn cyflawni’r canlyniadau neilltuol yma. Dim ots pa mor fawr neu gymhleth yw nodau ein cleientiaid, rydyn ni wedi creu tîm â’r wybodaeth a’r arbenigedd i gyflawni unrhyw brosiect. 

Ond mae hi’n bwysig cydnabod bod y cymorth allanol rydyn ni wedi ei gael gan Robert Davies a’i gydweithwyr yn Busnes Cymru wedi bod yn hanfodol i ni hefyd, ac mae’n parhau i gyfrannu at ein llwyddiant a’n twf. Mae’r cymhlethdodau sy’n dod yn sgil sefydlu a strwythuro busnes yn aruthrol, felly mae cael eu hamrywiaeth eang o arbenigedd ar flaenau’n bysedd yn wirioneddol amhrisiadwy. Os ydych chi’n arbenigydd yn eich maes, ond yn teimlo bod arnoch angen cymorth i droi eich cwmni’n wirionedd, byddwn yn eich annog chi i archwilio sut y gall Busnes Cymru helpu.

Trodd Volos at Busnes Cymru am y tro cyntaf yn 2024 er mwyn ymchwilio i gyfleoedd am gyllid. Clustnododd eu Hymgynghorydd Busnes, Robert Davies, Gronfa Twf Caerdydd fel ffynhonnell bosibl ar gyfer cymorth ariannol. 

Diolch i arweiniad Robert ar baratoi cais llwyddiannus, diogelodd y cwmni dros £10,000 o gyllid cyfatebol i’w fuddsoddi mewn system rheoli prosiectau pwrpasol, sydd bellach yn gweithredu fel asgwrn cefn ei weithrediadau, gan symleiddio prosiectau cleientiaid, a phrosesau AD a bilio Volos.

Bu arbenigwyr AD Busnes Cymru yn allweddol i lwyddiant Volos wrth ei gynorthwyo i ennill ardystiad Cyflogwr Cyflog Byw a ffurfioli’r contractau cyflogaeth a gynorthwyodd dwf cyflym y cwmni i dîm o dros 10 o arbenigwyr cymwysedig o safon. Mae’r ymgynghoraeth yn buddsoddi yn y dyfodol hefyd, wrth benodi ei brentis graddedig cyntaf, a chynorthwyo nifer o weithwyr eraill i astudio am gymwysterau prifysgol. 

Gan gydnabod arwyddocâd iaith a diwylliant, gofynnodd Volos am gymorth i ddatblygu polisi iaith hefyd er mwyn ategu ymrwymiad y cwmni i weithredu’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

Mae gallu tîm cynyddol Volos i gystadlu am gontractau pwysig wedi cael ei gryfhau eto fyth trwy lofnodi Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru a chael arweiniad arbenigol i ddatblygu cynlluniau lleihau carbon a nodweddion amgylcheddol, sy’n allweddol er mwyn diogelu lle ar fframweithiau cyhoeddus gwerthfawr. 

Yn ôl Busnes Cymru, mae siwrnai Volos i lwyddiant parhaus wedi dangos sut y gall arweiniad strategol droi uchelgais yn gyflawniad. Mae’r Ymgynghorydd Busnes, Robert Davies yn esbonio: 

Ar draws Cymru mae yna gannoedd o arbenigwyr sy’n angerddol am beth maen nhw’n ei wneud a’r canlyniadau y gallent eu cyflawni fel entrepreneuriaid ac arweinwyr cwmnïau sydd ar dwf.

Yn aml, mae goresgyn y rhwystrau sy’n llesteirio’r uchelgeisiau hynny ond yn cymryd ychydig o gymorth allanol i’w cynorthwyo i gyrchu’r adnoddau arbenigol a’r arweiniad sydd ei angen, ac mae’r rhain ar gael yn rhwydd i fusnesau Cymru. Mae Volos yn esiampl berffaith o sut y gall tîm angerddol o arbenigwyr wireddu’r potensial yna a datgloi twf os yw’r cymorth cywir ar gael. Rwy’n gobeithio y bydd llwyddiant Liam, Ollie a’u tîm yn ysbrydoli eraill i gysylltu â Busnes Cymru er mwyn cyrchu’r cymorth sydd ar gael yn hwylus iddyn nhw.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru.  I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru.  Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.