Healthcare Matters o Wrecsam yn adleoli i bencadlys newydd, yn tyfu tîm i 53 ac yn lansio rhaglenni hyfforddi ac arloesi gyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru
Mae busnes offer gofal iechyd teuluol yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi dyblu ei drosiant i £4.6 miliwn ac wedi tyfu ei weithlu i 53 o bobl wrth nodi ei 20fed flwyddyn mewn busnes, gan goroni’r garreg filltir â symudiad i bencadlys pwrpasol yn Ystâd Ddiwydiannol Llai, ger Wrecsam.
Mae Healthcare Matters, yn cyflenwi ystod gynhwysfawr o offer meddygol a gwasanaethau cynnal a chadw i'r GIG, y sector gofal preifat ac unigolion gartref. Mae'r adleoli i Lai yn golygu cynnydd sylweddol mewn capasiti, ac mae'r cwmni'n defnyddio'r gofod newydd i lansio canolfan hyfforddi proffesiynol ar gyfer therapyddion galwedigaethol, nyrsys dosbarth a gofalwyr cymunedol, ochr yn ochr â chynlluniau i gyflwyno adnodd digidol newydd sydd wedi'i gynllunio i wella ansawdd bywyd cleifion sy'n agored i niwed ac sy'n byw'n annibynnol.
Sefydlwyd y cwmni yn 2004 gan Phil Spiby yn dilyn digwyddiad cardiaidd a newidiodd ei fywyd ac a'i hysgogodd i ddilyn ei uchelgeisiau entrepreneuraidd. Mae'r busnes wedi tyfu o fasnachfraint gwelyau a matresi arbenigol i fod yn un o ddarparwyr offer gofal iechyd mwyaf sefydledig gogledd Cymru. Mae Healthcare Matters wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru, sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu i gwmnïau uchelgeisiol sy'n tyfu.
Meddai Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
“Llongyfarchiadau i Healthcare Matters ar eu llwyddiant rhyfeddol i ehangu. Fel Llywodraeth newydd Cymru, rydyn ni’n benderfynol o weld rhagor o gwmnïau tebyg i hwn yn tyfu a ffynnu. Rydyn ni am ysgogi buddsoddiad, arloesedd a chynhyrchiant uwch ledled Cymru, wrth i ni adeiladu economi gryfach sy'n codi safonau byw ac sy’n darparu ffyniant ym mhob cwr o Gymru.”
Dros y blynyddoedd, mae'r cwmni wedi derbyn ystod o gymorth arbenigol trwy'r rhaglen, gan gynnwys datblygu arweinyddiaeth a rheoli ar gyfer ei uwch dîm, cynllunio i leihau carbon, a chymorth deallusrwydd artiffisial (AI), a phob un ohonyn nhw wedi cyfrannu at ei dwf a'i wydnwch gweithredol.
Meddai Adam Spiby, Rheolwr Gyfarwyddwr Healthcare Matters:
‘Mae cyrraedd yr 20 yn dipyn o gamp, ond yr hyn sy’n ein cyffroi ni fwyaf yw ble rydyn ni’n mynd. Mae dyblu ein trosiant a thyfu'r tîm i 53 o bobl yn adlewyrchu ymddiriedaeth ein partneriaid yn y GIG, awdurdodau lleol a gofal preifat ynom ni. Mae hefyd yn dangos ymrwymiad ein staff anghredadwy, y mae 95 y cant ohonyn nhw’n dod o’r gymuned hon.
‘Mae ein twf bob amser wedi bod yn organig ac wedi'i adeiladu ar gred syml: trin pobl yn y ffordd y byddech chi am gael eich trin, a darparu'r atebion gorau posibl. Mae'r ethos hwnnw'n rhedeg trwy bopeth, o'n gwasanaeth cynnal a chadw brys 24 awr i'r hyfforddiant ymarferol rydyn ni bellach yn ei gynnig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ein safle newydd, lle rydyn ni’n helpu therapyddion galwedigaethol, nyrsys dosbarth a gofalwyr i deimlo'n wirioneddol hyderus wrth ddefnyddio offer arbenigol.
‘Mae ein pencadlys newydd hefyd yn rhoi llwyfan i ni rannu'r dull methodoleg ddarbodus sydd wedi bod yn ganolog i'n heffeithlonrwydd a'n twf ein hunain. Rydyn ni’n bwriadu cynnig teithiau a gweithdai i fusnesau eraill ledled Cymru. Rydyn ni hefyd yn datblygu offeryn digidol newydd i gefnogi cleifion ynysig a bregus, yr edrychwn ymlaen at ei lansio yn ystod y misoedd nesaf.
Mae cael mynediad at arbenigedd wedi'i dargedu ar yr adeg iawn drwy raglen RCT wedi bod yn wirioneddol werthfawr ac wedi ein helpu i symud y busnes ymlaen gyda rhagor o hyder”