
Mae cwmni glampio o Sir Benfro wedi cael cymorth Busnes Cymru i roi arferion cynaliadwy newydd ar waith, gan gynnwys uwchgylchu gwelyau aer a’u troi‘n nwyddau i’w gwerthu.
Fel cwmni sydd ym mherchnogaeth deuluol ac sy’n cael ei redeg gan y teulu hefyd, mae Nights Under Canvas yn arbenigo mewn gwasanaethau llogi pebyll o safon uchel ar gyfer achlysuron corfforaethol, gwyliau, priodasau, partïon, nosweithiau ffilm a gwyliau gartref.
Ar ôl cofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru, menter sy’n cynorthwyo busnesau Cymreig i wella eu hymdrechion cynaliadwyedd a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, mae’r cwmni glampio arobryn wedi gweithio gydag arbenigwyr o Busnes Cymru i glustnodi arferion cynaliadwy a’u rhoi ar waith.
Trwy weithio gydag Ymgynghorydd Datgarboneiddio Busnes Cymru, Sarah Gore, mae Nights Under Canvas wedi gweithredu nifer o fentrau amgylcheddol ymwybodol gan gynnwys caffael gan gyflenwyr lleol, defnyddio dulliau effeithlon o gludo ei bebyll mawr, a rheoli gwastraff mewn ffordd gyfrifol.
Partneriaeth gydag Ecoast, sef siop yn Saundersfoot sy’n arbenigo mewn cynnyrch wedi ei ailgylchu, yw menter werdd ddiweddaraf y cwmni.
Mae Ecoast yn casglu gwelyau aer sydd wedi eu difrodi oddi wrth Nights Under Canvas ac yn eu hanfon ymlaen at Recycling Rachel, brand uwchgylchu Prydeinig, sy’n troi’r deunyddiau yn amrywiaeth o nwyddau brand Nights Under Canvas, gan gynnwys bagiau ymolchi, waledi, pyrsiau a bagiau bach i’w gwerthu yn eu siop.
Mae perchennog Nights Under Canvas, Steven Bradley, yn parhau i weithio gyda Busnes Cymru i ddod o hyd i ffyrdd eraill o leihau allyriannau carbon y busnes ac adeiladu ar ei bartneriaethau cyfredol gyda chyflenwyr a chanolfannau lleol.
Wrth siarad am gymorth Busnes Cymru, dywedodd Steven:
Mae gen i angerdd dwfn dros yr i amgylchedd, felly mae dod o hyd i ffyrdd o wella ein hymdrechion o ran cynaliadwyedd a lleihau ein hôl troed carbon yn flaenoriaeth bwysig i ni. Mae cefnogaeth Sarah wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi ein helpu ni i gael effaith ystyrlon ar ein busnes a’n cymuned. Rydyn ni mor ddiolchgar fod gennym ni’r cyfle nid yn unig i leihau ein gwastraff, ond i uwchgylchu ein gwelyau aer i greu rhywbeth newydd ar gyfer ein cwsmeriaid hefyd.
Cynorthwyodd arbenigydd digidol Busnes Cymru Nights Under Canvas hefyd i gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy gyflawni gwelliannau i’w wefan ac i strategaeth y cyfryngau cymdeithasol. Caniataodd y gweithdai a’r cyrsiau ar lein Steven i feithrin sgiliau ym maes dylunio gwefannau, marchnata a gwneud y busnes yn fwy gweladwy trwy optimeiddio peiriannau chwilio (SEO).
Wrth siarad am lwyddiant y cwmni, dywedodd Ymgynghorydd Datgarboneiddio Busnes Cymru, Sarah Gore:
Mae hi wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld angerdd Steven dros gynaliadwyedd mor amlwg trwy fenter newydd y busnes. Roedd e’n awyddus bob tro i ddod o hyd i atebion mwy ymwybodol a gwella prosesau er mwyn lleihau’r effaith amgylcheddol. Trwy barhau i wella eu harferion busnes, rwy’n gwybod y bydd Nights Under Canvas yn parhau i fod yn esiampl wych i eraill ei dilyn wrth hybu twf mwy gwyrdd.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.