Mae Cottam & Brookes Engineering sydd wedi’u lleoli yng Nghaerffili yn helpu i gadw sectorau awyrofod ac uwch-weithgynhyrchu i symud drwy beirianneg cydrannau uchel ac offer arbenigol. Gyda chefnogaeth gan dîm arloesi Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni wedi moderneiddio prosesau allweddol, gwella cynhyrchiant a datgloi cyfleoedd masnachodd newydd, gan atgyfnerthu ei rôl fel cyflenwr rhanbarthol pwysig wrth gefnogi cyflogaeth gyda sgiliau yn yr ardal leol.
Mae’r busnes teuluol yn cynhyrchu cydrannau manwl cymhleth ac offer adeiladu ar gyfer cwsmeriaid sydd â gofynion technegol trwm, gan gynnwys prif weithgynhyrchwyr awyrofod. Mae ei weithlu hynod fedrus yn ei alluogi i weithio gyda metalau ac aloiau arbenigol a darparu datrysiadau wedi’u teilwra led-led y byd.
Yn dilyn amhariad pandemig COVID-19, mae’r cwmni wedi dychwelyd i fod yn broffidiol, gyda throsiant yn codi i fwy na £2.5 miliwn yn 2025.
Ym mis Hydref 2025, derbyniodd y cwmni gefnogaeth drwy’r Gwasanaeth Cyflymydd Digidol SMART a Chynhyrchiant (SDPA) Llywodraeth Cymru, a ddarparodd adolygiad diagnostig cynhwysfawr o’i weithrediadau gan adnabod cyfleoedd i gyflwyno datrysiadau digidol a symleiddio prosesau â llaw. Tynnodd yr adolygiad sylw at achosion o aneffeithlonrwydd mewn mesur a systemau rheoli ansawdd papur oedd yn arafu cynhyrchu ac yn cynyddu’r perygl o gamgymeriadau.
Meddai Carys Edmunds, Rheolwr Datblygu Busnes a Marchnata gyda Cottam & Brookes Engineering: “Roedd cael adolygiad arbenigol allanol i’n prosesau drwy SDPA yn anhygoel o werthfawr. Pan rydych ynghanol gweithrediadau o ddydd i ddydd, mae’n hawdd peidio â sylwi ar ble y gellir gwneud gwelliannau.
“Nid dim ond canolbwyntio ar un maes oedd y broses ddiagnosteg, roedd yn edrych ar y busnes yn ei gyfanrwydd ac yn tynnu sylw at gamau ymarferol y gallem eu cymryd er mwyn gweithio’n fwy effeithiol.”
Bu i’r busnes hefyd sicrhau grant £15,000 drwy’r Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes (BPEP), cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi busnesau i fuddsoddi mewn offer a gwelliannau sy’n rhoi hwb i gynhyrchiant.
Dros y misoedd a ddilynodd, mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi galluogi i’r cwmni:
- Gyfnewid prosesau archwilio yn seiliedig ar bapur gyda systemau mesur digidol.
- Cyflwyno technoleg gludadwy sy’n gwirio cydrannau mewn amser real ar lawr y ffatri.
- Darpraru lefelau sylweddol uwch o gywirdeb, gwella ansawdd a lleihau gwastraff.
- Lleihau amser segur drwy dynnu’r angen am symud rhannau i ardal archwilio ar wahân.
Ychwanegodd Carys: “Mae’r system newydd wedi trawsnewid sut rydym yn archwilio cydrannau. Mae’n llawer cynt ac yn fwy cywir. Ac oherwydd bod mesuriadau’n cael eu cymryd yn uniongyrchol ar lawr y ffatri, mae’n osgoi unrhyw amhariadau diangen i’r cynhyrchu. Mae hyn yn golygu y gallwn ymateb yn gynt i ofynion y cwsmer, tra’n cynnal safonau uchel.
“Rydym eisoes yn gweld y potensial ar gyfer contractau newydd a ffynonellau arian ychwanegol. Ar gyfer busnes sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned leol, mae’r twf hwnnw yn golygu creu swyddi â sgiliau yn uniongyrchol, cadwyni cyflenwi cryfach a sefydlogrwydd hirdymor.”
Mae effaith gwaith arloesol y cwmni wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol:
- Mae’r broses archwilio nawr yn gynt ac yn fwy effeithlon, gan wella cynhyrchiant.
- Mae dal data mewn amser real yn atgyfnerthu sicrwydd ansawdd a’r gallu i olrhain.
- Gall yr offer gael ei ddefnyddio ar y safle neu oddi ar y safle, gan gyflwyno cyfleoedd busnes newydd.
- Disgwylir i gontractau newydd gynyddu trosiant o oddeutu £400,000.
Mae gwaith y cwmni’n cefnogi blaenoriaethau Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru drwy atgyfnerthu cadwyn gyflenwi ranbarthol allweddol a gwella perfformiad amgylcheddol.Mae prosesau digidol sydd wedi’u symleiddio yn lleihau’r defnydd o bapur a defnyddio ynni, tra mae is-gontractio lleol sylweddol yn cefnogi gweithgaredd economaidd ar draws de Cymru.
Fel cyflenwr sefydledig prif gwmnïau awyrofod, mae’r busnes yn chwarae rhan bwysig yn cynnal galluoedd uwch weithgynhyrchu yng Nghymru.
Dysgwch ragor am sut mae’r Gwasanaeth Cyflymydd Digidol a Chynhyrchiant SMART yn gallu cefnogi eich sefydliad chi. Ewch i Arloesedd Busnes Cymru i ddysgu mwy.