Hanes llwyddiant

Coastal Medical Imaging Ltd

Mae'r cymorth yr ydym wedi'i dderbyn gan Fusnes Cymru wedi bod yn wych. Maent wedi ein cynorthwyo i drosglwyddo ein cwmni o Perth, Awstralia i Fae Colwyn, gogledd Cymru. Heb eu harweiniad, byddem wedi profi rhwystrau mawr.

Er bod Dr Tom Constantine yn byw yn Awstralia yn ystod y cyfnod clo ac wedi hynny, roedd yn dal i allu derbyn cymorth gennym i ddechrau ei fusnes yma yng Nghymru.

Roedd modd i ni roi cymorth i Tom drwy alwadau fideo ar-lein, gan gynnwys cyngor ar farchnata, dadansoddi cystadleuwyr a datblygu taith y cwsmer.

Yn dilyn rhagor o drafodaethau gyda’i ymgynghorydd, sylweddolodd Tom bwysigrwydd gweithredu polisïau amgylcheddol, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei fusnes ac mae’n parhau i gynnal arferion cadarnhaol wrth ddelio â chleientiaid, darparwyr a staff

Bellach mae wedi adleoli ei fusnes i Gymru gan agor ei ddrysau i, Coastal Medical Imaging Ltd, gwasanaeth uwchsain meddygol preifat sydd wedi ei leoli ym Mae Colwyn, yn gynharach eleni.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.