
Mae Lavinia Stamps, cyflenwr offer crefftau o Ruthun, wedi ehangu ei allforion i dros 60 o wledydd - gyda rhagor i ddod, wrth i gymorth gan Fusnes Cymru sicrhau cynnydd o 12% mewn gwerthiannau trwy agor y drws ar farchnadoedd rhyngwladol.
Sefydlwyd y cwmni cyflenwi offer crefftau ym 1992, ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei stampiau polymer pwrpasol ag arnynt waith celf gwreiddiol gan sylfaenydd y cwmni, Tracy Dutton.
Gyda golwg ar ddiogelu ac ehangu allforion yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, gofynnodd y tîm am gymorth arbenigwyr allforio Busnes Cymru er mwyn cael arweiniad strategol i feithrin gwytnwch, a chymorth i’w osod ar ben ffordd o ran y tirweddau masnachu rhyngwladol newydd sy’n esblygu.
Gan weithio gyda Rheolwr Datblygu Cynhyrchion Lavinia, Andrew Peers, aeth Ymgynghorydd Busnes Cymru, Anthony Kirkbride, ati i glustnodi cyfleoedd i gryfhau gwerthiannau’r cwmni yn Ewrop er mwyn lliniaru effeithiau gostyngiad posibl o 75% mewn gwerthiannau a oedd yn bygwth achosi gostyngiad o 40% yn refeniw y cwmni.
Diolch i arbenigedd Busnes Cymru, bu modd i dîm Lavinia fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu allforion. Roedd hyn yn cynnwys cyrchu cyrsiau Busnes Cymru oedd yn cynnig eglurder i allforwyr ar ofynion newydd yr UE.
Ar ôl clustnodi ffordd o adeiladu ar drosiant blynyddol y cwmni o £2.4 miliwn, a hynny’n seiliedig yn bennaf ar allforio offer crefftau fel inc, stensiliau a phapur, aeth Busnes Cymru ati i gynorthwyo’r cwmni gyda cheisiadau llwyddiannus am gyllid.
Roedd hyn yn cynnwys cyllid a ddiogelwyd trwy’r Rhaglen Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor sy’n cael ei ariannu gan Dîm Masnach Llywodraeth Cymru, sy’n cynorthwyo cwmnïau (BBaCh a rhai mawr) i fynychu arddangosfeydd tramor a chyflawni gweithgareddau datblygu busnes yn y farchnad er mwyn hybu allforion.
Darparodd y cyllid a hwyluswyd gan Busnes Cymru 50% o’r costau oedd eu hangen ar Lavinia i deithio er mwyn cwrdd â chwsmeriaid a chyflenwyr newydd yn Ffair Fasnach Creativeworld yn Frankfurt, sef cynulliad mwyaf blaenllaw’r sector Crefftau.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynnyrch, Andrew:
Mae cymorth Busnes Cymru wedi bod yn hanfodol wrth i ni lunio strategaeth i gynnal a thyfu ein marchnad yn yr UE. Heb arweiniad Anthony, byddai hi wedi bod yn anodd iawn i ni reoli’r broses, am fod y protocolau i’w gweld yn newid yn ddyddiol.
Diolch i’r cymorth a gawsom i’n helpu ni i fynychu Ffair Fasnach Creativeworld, rydyn ni wedi gallu codi ein proffil yn yr UE ac ymgysylltu cwsmeriaid newydd, a hynny o ganlyniad uniongyrchol i’r adborth cadarnhaol i’n cynhyrchion ehangach. Mae’r cynhyrchion newydd yma, ynghyd â’n presenoldeb yn y sioe fasnach, wedi ein helpu ni i sicrhau cynnydd o 8% mewn gwerthiannau yn yr UE, a chynyddu nifer y gwledydd rydyn ni’n allforio iddynt o 40 i 60 yn y flwyddyn gyntaf yn unig.
Mae Andrew yn gobeithio cydweithio ymhellach â Busnes Cymru i archwilio’r posibilrwydd o ehangu i farchnadoedd UDA wrth i Lavinia Stamps barhau i ehangu ei bortffolio o gynnyrch.
Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Anthony Kirkbride:
Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld cynnydd Lavinia Stamps ers mynychu Creativeworld. Er eu bod yn gyfarwydd iawn ag allforio, roedd Andrew yn awyddus i gael arweiniad ar farchnad esblygol yr UE er mwyn llywio strategaeth fasnach y busnes. Strategaeth yw hon sydd wedi eu gweld nhw’n gwireddu twf nodedig, ehangu eu gweithgareddau allforio, a chynyddu eu harlwy o ran cynnyrch.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.