Hanes llwyddiant

Busnes Cymru’n Helpu Athrawes i droi Angerdd yn Fenter Busnes yn Llandrindod

Llandrindod Wells

Mae athrawes wedi troi ei hangerdd dros addysg yn fenter lewyrchus, wrth i gymorth Busnes Cymru ganiatáu i Llandrindod Learning Pod lansio ac ehangu ar garlam ei gymorth i ddysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.

Creodd Angela Costain-Williams, sydd â dros 25 mlynedd o brofiad o addysgu, ei gwasanaeth i ddarparu cymorth addysgu gartref ar gyfer plant o bob math, gan gynnwys rhai ag anawsterau dysgu ac anghenion arbennig.

Mae Busnes Cymru wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu Angela i fodloni’r galw cynyddol am ei gwasanaeth unigryw sy’n darparu cymorth ar gyfer plant rhwng 4 ac 16 oed sy’n cael eu haddysgu gartref, mewn gofod lle gall y plant fynychu sesiynau addysgu pwrpasol sy’n cyd-fynd â’u gofynion a’u hamserlenni unigol nhw. 

Heb unrhyw brofiad blaenorol o sefydlu busnes, trodd Angela at yr Ymgynghorydd Busnes, Ian Harvey, a roddodd gymorth iddi lunio cynllun busnes, paratoi rhagolygon ariannol, a diogelu cyfleoedd cyllido trwy Gwmni Benthyciadau Dechrau Busnes Banc Busnes Prydain.

Gan adeiladu ar ei phrofiad o addysgu a’r hyn roedd hi wedi dysgu wrth addysgu ei mab gartref, bu modd i Angela ddatblygu ei sgiliau trwy ddilyn amrywiaeth o weminarau a chyrsiau marchnata Busnes Cymru, gan ei thaclu â’r offer oedd eu hangen arni i lansio’n llwyddiannus a thyfu ei gwasanaeth unigryw yn gyflym.

Nawr, mae Busnes Cymru’n helpu Angela i ehangu ei busnes mewn ffordd gynaliadwy i fodloni’r galw parhaus, gan gynnwys ei chynorthwyo i recriwtio a hyfforddi prentis newydd yn rhan o’r tîm. 

Wrth drafod y cymorth a gafodd gan Busnes Cymru, dywedodd Angela: 

Mae gen i dros bum mlynedd ar hugain o brofiad yn y system addysg, ond doedd dim syniad o gwbl gen i ble i ddechrau wrth agor fy musnes fy hun.

Ers y cyfarfod cyntaf un, mae Ian wedi bod yn graig o gefnogaeth i mi. O helpu i ddatblygu fy nghynllun busnes, i darparu adnoddau i’m cynorthwyo i feithrin y sgiliau, yr hyder a’r cyllid oedd eu hangen arnaf i greu’r Learning Pod, mae e wedi bod yno ar bob cam o’r ffordd.

Diolch i’r galw anferth gan rieni sydd am gael cymorth addysgol wedi ei bersonoli ar gyfer eu plant, gwelwyd y sesiynau’n llenwi’n gyflym iawn. Mae Angela bellach yn ystyried safle mwy i ehangu ei darpariaeth.

Gyda chymorth parhaus gan Busnes Cymru, mae Angela bellach yn bwriadu ehangu i ofod newydd gyda dwy ystafell ddysgu i gynnig addysg hyblyg a phwrpasol mewn amgylchedd sydd wedi ei deilwra’n arbennig at anghenion unigryw pob plentyn. 

Dywedodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Ian Harvey: 

Mae Angela’n brofiadol dros ben ar ôl treulio pum mlynedd ar hugain yn gweithio yn y system addysg. Mae’r arbenigedd yna’n cydweddu’n dda â’i hangerdd i greu amgylchedd sy’n gynhwysol i bawb, sy’n caniatáu i ddysgwyr lewyrchu dim ots am eu cefndir neu gallu.

Daeth Angela ataf i gan wybod yn union pa fath o fusnes roedd hi am ei sefydlu, y cyfan oedd ei hangen arni oedd y cymorth i fynd ati. Mae hi’n wych gweld pa mor gyflym mae’r galw am ei busnes wedi tyfu, ac rwy’n edrych ymlaen at weld llwyddiant parhaus y Learning Pod.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.