
Mae artist o Abertawe wedi llwyddo i ddefnyddio ei ddoniau i greu cwmni sydd wedi’i alluogi i oresgyn digartrefedd.
Gyda chefnogaeth gan Busnes Cymru, fe lansiodd Declan Stuart, o Townhill, gwmni Unleashed Creations o’i stiwdio yn ei gartref. Mae’r artist yn arbenigo mewn pyrograffeg, sef techneg lawrydd lle mae’r artist yn llosgi portreadau a darluniau manwl ar bren.
Darganfu Declan byrograffeg pan oedd yn profi digartrefedd yn 2022 ac yn cael cefnogaeth gan yr elusen ddigartrefedd, Crisis. Ar ôl ei gefnogi i ganfod llety addas, awgrymodd yr elusen y gallai dosbarthiadau celf fod yn allfa iddo.
Yn syth ar ôl cael blas ar y ffurf ar gelfyddyd, deallodd Declan y gallai pyrograffeg fod yn fwy na gweithgaredd hamdden iddo. Dechreuodd archwilio ei opsiynau i gael gwaith comisiwn a ffyrdd o rannu’r technegau roedd wedi’u meistroli.
Gan weithio gyda Busnes Cymru, archwiliodd Declan opsiynau i greu a marchnata cyfres o ddosbarthiadau a fyddai’n ei alluogi i addysgu cwsmeriaid i greu eu darnau eu hunain.
Gyda chymorth gan Ymgynghorydd gyda Busnes Cymru, Shahidul Islam, dechreuodd ei gynlluniau ar gyfer Unleashed Creations ddod at ei gilydd. Galluogodd seminarau a chyrsiau ar-lein Declan i feithrin sgiliau cyfrifeg, rheoli busnes, hyrwyddo a marchnata. Roedd modd i Shahidul awgrymu ffynonellau posib o gyllid sbarduno hefyd, i’w helpu i lansio Unleashed Creations.
Gan siarad am y cymorth a gafodd, meddai Declan:
Daeth celf yn achubiaeth ar ôl i heriau personol fy ngadael mewn sefyllfa feddyliol ac ariannol anodd drwy ddigartrefedd. Do’n i ddim yn disgwyl i hyn ddod yn swydd, ond ar ôl i fi werthu ambell ddarn, roedd yn teimlo fel cam naturiol.
Ro’n i’n gwybod y byddai angen mwy na dawn ac angerdd i roi cychwyn ar Unleashed Creations, ac mae Shahidul wedi bod yn gymaint o gymorth wrth fy nghyfeirio at gyrsiau sydd wedi fy helpu i bontio’r bylchau yn fy ngwybodaeth fusnes.
Helpodd Shahidul Declan i gael grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes. Drwy gyfuno’r grant hwn â grant Newid Bywydau a gafodd gan yr elusen Crisis, roedd modd iddo fuddsoddi mewn offer i’w alluogi i gynnal gweithdai pyrograffeg.
Sefydlodd Declan wefan i gwsmeriaid allu gweld ei bortffolio a sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ei wasanaethau a chynnal ffrydiau byw rheolaidd i’w ddilynwyr.
Bellach mae’r pyrograffydd wedi cynnal pedwar gweithdy, wedi creu pymtheg darn gwreiddiol i gwsmeriaid, ac mae wrthi’n creu prosiect mawr gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Meddai’r Ymgynghorydd gyda Busnes Cymru, Shahidul:
Roedd gan Declan gymaint o gymhelliant i adeiladu gofod cymunedol i bobl allu creu, a dw i’n credu taw dyna sut mae Unleashed Creation wedi cael derbyniad mor dda yn Abertawe. Yn sicr bydd ei awydd i ddatblygu ei wybodaeth a pharhau i wella yn helpu ei fusnes pyrograffeg i ddod yn gonglfaen i gymuned Abertawe.
Ariennir Busnes Cymru gan Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth i helpu’ch busnes i ganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydyn ni’n croesawu galwadau yn Gymraeg.