Hanes llwyddiant

Ar darged am lwyddiant wrth i Busnes Cymru gynorthwyo menter airsoft yn y gogledd â ffocws ar wyliau

Ben Strange - Within Range Airsoft

Mae cymorth dechrau busnes pwrpasol gan Busnes Cymru wedi galluogi entrepreneur yn y gogledd i lansio Within Range Airsoft, profiad saethu airsoft symudol ar gyfer maes gwyliau a digwyddiadau’r DU.

Gyda dros ddegawd o brofiad o airsoft, ac angerdd dros sin gwyliau’r DU, gwelodd Ben Strange gyfle unigryw. Sefydlodd Within Range Airsoft i lenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer cyfarpar airsoft symudol y genhedlaeth nesaf sy’n addas ar gyfer gwyliau, achlysuron corfforaethol a digwyddiadau preifat.

Daeth Ben at Busnes Cymru ym mis Medi 2024 â chysyniad i ddod â meysydd targed airsoft rhyngweithiol sy’n seiliedig ar sgiliau i ddigwyddiadau awyr agored. 

Roeddwn i’n gweld yr un fath o brofiadau’n cael eu cynnig ym mhob digwyddiad y byddwn i’n mynd iddo,” esboniodd Ben “Roeddwn i’n meddwl, os yw pobl yn hoffi taflu bwyeill a saethu hwyaid â drylliau pelenni hen-ffasiwn, yna byddan nhw wrth eu bodd ar airsoft.

Daeth Hadi Brooks, yr arbenigydd digwyddiadau, sy’n Ymgynghorydd Busnes gyda Busnes Cymru, yn allweddol wrth ddatblygu strategaeth wedi ei thargedu i symud y peth o fod yn gysyniad i fod yn barod am y farchnad, gan ddatblygu strategaethau ariannol a marchnata, diogelu Benthyciad Dechrau Busnes, a mabwysiadu model twf gyda ffocws ar gynaliadwyedd.

Dan arweiniad Hadi, llwyddodd Ben i ddiogelu benthyciad o £20,000 trwy’r Cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes, sy’n rhan o Fanc Busnes Prydain, yn ogystal â buddsoddi £10,000 yn y busnes ei hun, a alluogodd iddo brynu fan, rhwydi o safon filwrol, gazebos, ac offer diogelwch, gan gynnwys gogls.

Roedd troi fy angerdd yn fusnes yn dipyn o naid” meddai Ben, “mae pawb yn breuddwydio am greu gyrfa o hobi. Y gwir amdani yw bod y broses yn ddigon i godi gwallt eich pen, ac yn gyflym iawn mae’r hobi yna’n troi’n llawer o waith.  Gwnaeth cymorth arbenigol Hadi i’r broses gyfan deimlo’n bosibl.

Galluogodd ei chymorth fi i strwythuro fy syniadau yn gynllun ymarferol i lansio’r syniad. Rwy’n caru airsoft yn fwy nag erioed, a nawr mae fy ngwaith pob dydd yn gadael i mi fynychu gwyliau a mwynhau’r hwyl gydag eraill.

Bydd y galw gan gwsmeriaid yn gweld Within Range Airsoft yn ymddangos mewn gwyliau ar draws y wlad yr haf yma. Gyda mwy na 190 o wyliau'r flwyddyn yn y DU, mae Ben wedi gosod ei olygon ar ehangu. Gallai hynny gynnwys sefydlu cyfleuster parhaol yn y gogledd, a chreu cyfleoedd cyflogaeth wrth barhau i wasanaethu’r farchnad digwyddiadau.

Fel un sydd wrth ei fodd yn yr awyr agored, mae Ben wedi ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru sy’n helpu i sicrhau arferion sy’n amgylcheddol gyfrifol, gan gynnwys defnyddio BBs bioddiraddadwy, a system dal bwrpasol er mwyn atal effeithiau amgylcheddol.

Daeth Ben atom ni â syniad cadarn, gweledigaeth glir ac angerdd go iawn i adeiladu busnes oedd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ar gyfer trefnwyr digwyddiadau ac ymwelwyr,” meddai Hadi Brooks. “Fe ymrwymodd e’n llwyr i ddysgu, gan fanteisio’n llwyr ar yr adnoddau oedd ar gael, a gweithiodd yn galed i adeiladu busnes ag uniondeb masnachol ac amgylcheddol. Pan welwch chi Within Range Airsoft yn eich gŵyl nesaf, ewch i roi cynnig arni. Mae’n siŵr y ffeindiwch chi fod Ben yn cael llawn cymaint o hwyl â chi.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.