Hanes llwyddiant

Anglesey Fishing and Boat Trips yn ehangu ei fflyd i fodloni twf yn y galw gan dwristiaid

Dave and Amanda Jones, Anglesey Fishing owners

Mae cynnydd mawr yn niddordeb twristiaid yn arfordir Ynys Môn wedi sbarduno cwmni teithiau cychod yng Nghaergybi i ehangu ei weithrediadau, dyblu ei fflyd ac amrywio’i wasanaethau i ddarparu ar gyfer cynulleidfa ehangach. 

Pysgotwr lleol, Dave Jones, yw perchennog a gweithredwr Anglesey Fishing and Boat Trips, sydd wedi gweld ymchwydd mewn busnes diolch i arweiniad Busnes Cymru.

Sefydlwyd Anglesey Fishing and Boat Trips ym mis Gorffennaf 2023, ac roedd yn arfer arbenigo mewn teithiau pysgota oddi ar arfordir Ynys Môn. 

Dechreuodd y busnes gydag un cwch, The Upholder, ond mae galw gan gwsmeriaid wedi gweld darpariaeth y cwmni’n esblygu’n gyflym i gynnwys amrywiaeth ehangach o wasanaethau, gan gynnwys teithiau i fwynhau’r golygfeydd a chychod siarter i Ynys Manaw.

Blwyddyn ar ôl ei lansio, mae’r cwmni wedi ehangu ei fflyd i gynnwys ail gwch, The Lophelia, yr unig gwch RIB gaeedig yng Nghymru.

Cafodd Dave Jones, sydd wedi bod yn bysgotwr gydol ei oes, ei annog i hyrwyddo’r busnes ar lein gan ei wraig, Amanda, a fanteisiodd ar ei sgiliau fel gweithiwr caffael proffesiynol. 

Gan synhwyro fod yna gyfleoedd i ehangu’r tu hwnt i deithiau pysgota traddodiadol, gofynnodd y pâr am gyngor Busnes Cymru. Cawsant arweiniad gwerthfawr dros ben gan arbenigwyr y sefydliad yn y diwydiant twristiaeth, a gynorthwyodd Dave i amrywio ei wasanaethau a magu’r hyder i ehangu’r busnes.

Dywedodd Dave: 

Rydw i wrth fy modd yn pysgota, ac yn credu y dylai mwy o bobl gael y cyfle i archwilio harddwch yr arfordir sydd wedi bod mor dda wrth fy nghynnal i a fy nheulu. Roedd y cwsmeriaid yn cytuno, ac o fewn dim o dro roeddem ni’n teimlo bod yna le i dyfu a chyflwyno teithiau newydd. Bu Busnes Cymru o gymorth mawr i ni wrth archwilio ein hopsiynau, a bu modd i ni fuddsoddi’n hyderus er mwyn ehangu’r fflyd a’r mathau o deithiau y gallwn eu cynnig.

Mae’r ychwanegiad diweddaraf at y fflyd, The Lophelia, yn gam sylweddol ymlaen i Anglesey Fishing and Boat Trips. Mae’r cwch, sydd â lle i 12 ac sy’n cynnig lloches gaeedig i deithwyr i’w hamddiffyn rhag y tywydd, yn caniatáu i’r cwmni gynnig gwasanaeth siarter preifat i Ynys Manaw. Mae’r teithiau hyn wedi denu tipyn o sylw eisoes, gydag archebion ymlaen llaw adeg digwyddiadau poblogaidd fel Rasys y TT, Southern 100 a Grand Prix Ynys Manaw.

Rhannodd Amanda Jones, sy’n chwarae rhan ganolog yng ngweithrediadau’r busnes, ei safbwyntiau am yr ehangiad. 

Mae Dave wedi bod yn bysgotwr trwy gydol ei oes, felly’r datblygiad naturiol oedd ehangu ein gwasanaethau pan welsom fod cymaint o ddiddordeb mewn teithiau undydd. Cynorthwyodd Busnes Cymru ni i ffeindio’r llwybr cywir gan roi’r offer i ni dyfu.

Rhoddodd Ymgynghorydd Busnes Cymru, Svetlana Ross, Dave mewn cysylltiad ag arbenigwyr yn y diwydiant, gan gynnwys yr Ymgynghorydd Digidol Euros Smith, a Tom Burke, Rheolwr Arloesi Digidol yn M-SParc, Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, i gynorthwyo’r cwmni i wella ei bresenoldeb ar lein.  

Mae arlwy diweddaraf y cwmni, sy’n cynnwys teithiau pleser i fannau fel Ynys Lawd, Ynys y Moelrhoniaid, ac Ynys Llanddwyn, wedi denu amrywiaeth o gleientiaid. Gyda The Upholder yn parhau i gynnal amrywiaeth o brofiadau pysgota, gan gynnwys cyflwyniadau i bysgota a physgota llongddrylliadau, mae’r cwmni’n darparu ar gyfer pysgotwyr profiadol a thwristiaid fel ei gilydd. 

Mae llwyddiant y cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynorthwyo’r ehangiad eto fyth. Ers cymryd rhan yng nghyrsiau Busnes Cymru, mae gan Anglesey Fishing and Boat Trips filoedd o ddilynwyr a chwsmeriaid sy’n awyddus i brofi dyfroedd prydferth Ynys Môn erbyn hyn. 

Dywedodd Amanda:

Roeddem ni’n gwybod fod pobl am weld lluniau, fideos ac adolygiadau cyn bwcio. Cyflwynodd Busnes Cymru Euros i ni, ac mae e’n ein helpu ni i adeiladu platfform deniadol ar lein. Cafodd rhannu cynnwys yn rheolaidd effaith ar unwaith, pan mae pobl yn gweld beth sydd gennym ni yma, maen nhw am brofi’r peth eu hunain.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Dave yn optimistaidd am ddyfodol y cwmni. Gyda chynlluniau i barhau i ehangu a datblygu ei bresenoldeb digidol, mae Anglesey Fishing and Boat Trips mewn sefyllfa dda i greu argraff ar ddiwydiant twristiaeth Cymru. 

Mae Svetlana Ross o Busnes Cymru’n credu bod y busnes ar y trywydd iawn:

Mae gan Dave weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n hyderus, gyda’r cymorth y mae’n ei gael, y bydd y busnes yn parhau i lewyrchu dros y misoedd sydd i ddod.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu’ch busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru.  Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000.  Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.