Sefydlwyd openmoove yng Nghaerdydd yn 2024 gan Ross McKenzie a Cai Gwinnutt. Busnes technoleg eiddo ydyw a’i genhadaeth yw gwneud prynu a gwerthu cartrefi yn llai o straen. Mae'r cwmni wedi datblygu platfform B2B sy'n cysylltu gwerthwyr tai, trawsgludwyr a broceriaid morgeisi mewn un gweithle cyffredin i fynd i'r afael â'r cyfathrebu anghywir sy'n achosi i un o bob tri gwerthiant yn y DU fethu. Ar ôl 18 mis o ddatblygu cynnyrch, sicrhaodd openmoove £700,000 mewn buddsoddiad ecwiti dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, gyda chyd-fuddsoddiad gan gwmni menter HAATCH a buddsoddwyr angel o Gymru. Mae'r Cyd-sylfaenydd a'r Prif Swyddog Gweithredol Ross McKenzie yn rhannu sut y gwnaeth Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) Busnes Cymru helpu i lunio taith openmoove.
Beth a’ch ysbrydolodd chi i ddechrau openmoove?
Ar ôl treulio 13 mlynedd mewn cwmni gwerthu tai, gan gynnwys rôl uwch yn Purplebricks yn ystod ei dwf i gap marchnad o £1.3 biliwn, roeddwn i'n dal i weld yr un broblem: gwerthwyr tai, trawsgludwyr a broceriaid morgeisi yn gweithio ar wahân, a’r rhai oedd yn symud cartrefi yn cael eu gadael i hel diweddariadau. Mae'r broses o symud cartref yn y DU ar gyfartaledd, yn para 25 wythnos, o'r rhestru i'r cwblhau, ac mae'r rhan fwyaf o'r oedi yn cael ei achosi gan gyfathrebu gwael. Ganwyd openmoove o ofyn: beth pe bai pob gweithiwr proffesiynol a phob symudwr cartref yn gallu gweld yr un wybodaeth, ar yr un pryd, o'r diwrnod cyntaf?
Pa heriau a wyneboch chi ar y dechrau?
Ymddiriedaeth oedd y rhwystr mwyaf. Dyw hi ddim yn hawdd i weithwyr eiddo proffesiynol fabwysiadu offer newydd sy'n cyffwrdd â thrafodion byw. Roedd yn rhaid i ni brofi'r cynnyrch yn y byd go iawn, gan redeg trafodion cynnar â llaw ac eistedd ochr yn ochr â gwerthwyr a thrawsgludwyr i ddeall y ffrithiant. Dyma ni’n manylu gyda nifer fach o bartneriaid cynnar yn hytrach na lledu’n eang yn rhy gyflym, a rhoddodd y perthnasoedd hynny hygrededd i ni gyda grwpiau menter mwy o faint. Roedd codi buddsoddiad fel busnes cyn-refeniw mewn marchnad ofalus yn her arall a oedd yn gofyn am naratif masnachol bachog.
Sut y cynorthwyodd RCT chi?
Rhoddodd RCT strwythur a hygrededd ar adeg pan oedd y ddau yn wirioneddol werthfawr. Bu carreg ateb allanol yn help i herio ein rhagdybiaethau a blaenoriaethu'r pethau cywir ac mae ein Rheolwr Perthnasoedd, Nicola, wedi bod yn wych. Roedd y cymorth gyda strategaeth fasnachol a chynllunio sut i ddenu cwsmeriaid yn effeithiol dros ben. Roedd gennym ni weledigaeth gref am ein cynnyrch ond roedd angen miniogi sut y gwnaethom ei droi'n brosesau gwerthu ailadroddus a fframweithiau partneriaeth. Mae'r sgyrsiau ynghylch tyfu o werthiannau dan arweiniad sylfaenydd i beiriant twf strwythuredig wedi bod yn arbennig o berthnasol wrth i ni baratoi i benodi ein gweithwyr cyntaf ers derbyn cyllid.
Pa gerrig milltir rydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw?
Roedd lansio cynnyrch a oedd yn gweithio o fewn chwe mis ar ôl ei sefydlu, ar gyfalaf cyfyngedig iawn, yn ddatganiad o fwriad. Dangosodd y cytundebau partneriaeth cenedlaethol a sicrhaom ni cyn i'n hintegreiddiadau CRM fynd yn fyw fod y farchnad yn credu yn yr hyn roeddem ni’n ei adeiladu. Ac fe wnaeth cytuno ar £700,000 mewn cyllid sbarduno, gyda Banc Datblygu Cymru a HAATCH yn ein cefnogi, ddilysu'r model yn fasnachol. Ond y foment fwyaf balch oedd pan ddywedodd un symudwr cartref wrthym ni, am y tro cyntaf yn eu bywyd, nad oedd prynu eiddo wedi teimlo'n straen. Dyna pam yr aethom ni ati i greu hwn: gweddnewid y profiad o symud cartref.
Beth sydd nesaf i openmoove?
Mae’r buddsoddiad yn caniatáu i ni dyfu ac adeiladu ein tîm yng Nghaerdydd. Yn y misoedd nesaf, byddwn ni’n creu chwe rôl newydd ar draws partneriaethau, llwyddiant cwsmeriaid a pheirianneg. Rydyn ni hefyd yn arwain y fenter Move Wales, sef cyfuniad traws-sector o werthwyr tai, trawsgludwyr, broceriaid morgeisi a sefydliadau technoleg ariannol sy'n gweithio i wella canlyniadau trafodion eiddo ledled de Cymru mewn modd mesuradwy. Yn y pen draw, rydyn ni am i openmoove ddod yn seilwaith cysylltiol ar gyfer diwydiant eiddo mwy cydweithredol a thryloyw, gan ddechrau yng Nghymru ac yn tyfu'n genedlaethol.
Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i entrepreneuriaid eraill sy’n ystyried RCT?
Dewch gyda phroblemau go iawn. Y sesiynau mwyaf defnyddiol yw'r rhai lle rydych chi'n onest am beth nad yw'n gweithio yn hytrach nag arddangos beth sydd. Mae'r cynghorwyr y mae RCT yn eu darparu yn fwyaf gwerthfawr pan fyddwch chi'n rhoi rhywbeth dilys iddyn nhw fynd i’r afael ag e. Defnyddiwch y rhwydwaith hefyd; daeth rhai o'n sgyrsiau mwyaf defnyddiol trwy gyflwyniadau a hwyluswyd ganddyn nhw. I gloi, symudwch yn gynt nag sy’n teimlo’n gyffyrddus ond adeiladwch y sylfeini’n iawn. Mae'n teimlo’n aml fod tyndra rhwng y naill beth a’r llall ond does dim rhaid iddi fod felly.
Dysgwch ragor am sut gall y Rhaglen Cyflymu Twf gynorthwyo eich busnes.
Dysgwch ragor am openmoove.