Mae helpu BBaChau bwyd a diod Cymru i gael mynediad at gyfleoedd sector cyhoeddus yn allweddol i greu cadwyni cyflenwi lleol cryf, hyrwyddo cynaliadwyedd a chefnogi twf economaidd ledled Cymru.
Drwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau i lywio fframweithiau caffael i fusnesau, rydym yn gosod cynnyrch o Gymru fel dewis cystadleuol ar gyfer contractau sector cyhoeddus.
Trosolwg Rhaglen
Mae’r prosiect Bwyd a Diod Busnes Cymru, a ariennir gan dîm Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar gynyddu’r ddarpariaeth o fwyd a diod o Gymru yn y sector cyhoeddus.
Drwy gymysgfa o weithdai, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithrediad cadwyn gyflenwi, mae’r rhaglen wedi cefnogi BBaChau i adnabod a gweithredu ar gyfleoedd newydd.
Mae uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Cefnogi ‘Cenhadaeth Bwyd’ Bwrdd Iechyd Felindre i ddod â mwy o gynnyrch o Gymru i’w bwydlenni.
- Cynorthwyo i ddatblygu’r bwydlenni yn ysgolion Conwy a threialu cynnyrch lleol.
- Helpu i sefydlu grŵp bwyd Awdurdod Lleol Goledd Cymru i sicrhau arbedion maint a chynyddu cynnyrch lleol.
Addasu i Ganllawiau Maeth Bwyd Ysgol
Prif ffocws y rhaglen hon fu helpu BBaChau i addasu i Ganllawiau Maeth arfaethedig Bwyd Ysgol Cymru, sy’n ceisio gwella ansawdd maethol y bwyd a weinir mewn ysgolion.
Mae’r prosiect wedi rhoi cefnogaeth ychwanegol yn dilyn y cynigion hyn, drwy weithdai ac ymgysylltu’n uniongyrchol - gan rannu gwybodaeth amserol, hyrwyddo trafodaethau a chefnogi ail-fformiwleiddio cynnyrch lle bo’n briodol i gynnal cydymffurfiaeth gyda chynnyrch o Gymru.
Adnoddau Mapio a Chaffael
Mae’r rhaglen wedi darparu hyfforddiant ac adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer BBaChau, swyddogion caffael a rheolwyr arlwyo, sy’n cyd-fynd â fframweithiau fel TUCO, Cydwasanaethau’r GIG, fframwaith caffael Caerffili - adnoddau y gellir dod o hyd iddynt isod.
Rydym hefyd wedi mapio llyfrgell o fusnesau bwyd a diod achrededig yng Nghymru sy’n barod i gyflenwi’r sector cyhoeddus yng Nghymru. I adeiladu ar hyn, mae’r rhaglen bellach yn ceisio mapio cyfleoedd cadwyn gyflenwi bwyd a diod mewn perthynas â phrosiectau seilwaith ar raddfa eang yng Nghymru - fel prosiectau ynni llanw, solar, gwynt a niwclear.
Cyd-fynd gyda Mentrau Eraill
Mae’r prosiect yn ategu mentrau Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru yn ehangach, fel rhaglen Bwyd o Gymru i Ysgolion Larder Cymru, sy’n cefnogi awdurdodau lleol i gynnwys mwy o gynnyrch o Gymru ar fwydlenni ysgolion cynradd.
Cewch ragor o wybodaeth ym mhamffled Bwyd o Gymru i Ysgolion Larder Cymru.
Ffrwamweithiau caffael bwyd
Cewch drosolwg bras o’r tri phrif fframwaith cyflenwi bwyd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Astudiaethau achos
Mae Malmö, Sweden yn cael ei chydnabod fel arweinydd byd-eang mewn caffael a ffynonellau bwyd lleol cynaliadwy. Mae’r ddinas yn blaenoriaethu cynaliadwyedd, opsiynau iach a chyflenwyr lleol ar draws ei holl sector cyflenwi bwyd. Dewch i ddarganfod sut mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn ysbytai, ysgolion a mentrau ledled y ddinas yn Malmö.
Astudiaethau achos ysgrifenedig
- Pen-y-bont ar Ogwr – Astudiaeth Achos Bwyd
- Cynnal Cymru – Astudiaeth Achos Bwyd
- Social Value – Astudiaeth Achos
- Conwy - Astudiaeth Achos Bwyd
- Cyngor Caerffili - Astudiaeth Achos Bwyd
- Caffael - Astudiaeth Achos Bwyd
- Nghanolfan Ganser Felindre - Astudiaeth Achos Bwyd
- Canolfan Gofal Canser Felindre - Astudiaeth Achos Bwyd
- Village Dairy / Llaeth y Llan - Astudiaeth Achos Bwyd