Economi Sylfaenol

Mae'r Economi Sylfaenol yn cefnogi'r sectorau sy'n darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau hanfodol rydym yn dibynnu arnynt bob dydd. Darganfyddwch sut y gall eich busnes fanteisio ar gyfleoedd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cefnogi cymunedau a chyfrannu at economi fwy cydnerth yng Nghymru.

Cefnogi’r Economi Sylfaenol yng Nghymru

Mae economi sylfaenol ffyniannus yn hanfodol ar gyfer Cymru lewyrchus a gwydn, gyda 60% o fusnesau Cymru a thros hanner y gweithlu yn rhan ohono. Mae’r economi sylfaenol yn cwmpasu’r nwyddau a’r gwasanaethau bob dydd yr ydym yn dibynnu arnynt, o sectorau megis gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, trafnidiaeth, manwerthu a thwristiaeth. Mae Busnes Cymru yma i gefnogi’ch busnes yn y sectorau hanfodol hyn, gan ddarparu adnoddau i’ch helpu i feithrin arloesedd a chynaliadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau’r economi sylfaenol yng Nghymru, ac mae wedi cyhoeddi Datganiad Cenhadaeth Economi Sylfaenol newydd:- 

Mae amcanion economi sylfaenol allweddol yn cynnwys:

  • Adnabod a chefnogi cyfleoedd am fwy o swyddi, gwell swyddi, swyddi mwy gwyrdd a hyrwyddo gwaith teg, gan gynnwys tâl da, cynrychiolaeth, sicrwydd a chyfle i symud ymlaen.
  • Gwella ‘ansawdd byw aelwydydd’ drwy hyrwyddo codiadau cyflog drwy gynlluniau hyrwyddo fel Cyflog Byw Gwirioneddol, gan helpu i gynyddu fforddiadwyedd hanfodion sylfaenol er mwyn cefnogi hawl cyffredinol i nwyddau a gwasanaethau o safon uchel.
  • Creu cadwyni cyflenwi lleol i gadw pobl, sgiliau a chyfoeth yng Nghymru.
  • Cyfrannu tuag at fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
  • Annog arloesedd cydweithredol ac arbrofi i wella gwasanaethau a nwyddau sylfaenol, yn arbennig lle maent yn creu seilwaith cymdeithasol gwydn, fel drwy brosiectau dan berchnogaeth y gymuned a rhai cydweithredol.

Pam rhoi Ffocws ar yr Economi Sylfaenol?

Mae’r economi sylfaenol yn ganolog i strategaeth economaidd Cymru, gan ei bod yn cynrychioli 47% o’r holl drosiant busnes yng Nghymru. Mae hefyd yn ymdrin â heriau mawr sy’n cael effaith ar bob un ohonom, fel mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, creu swyddi lleol, sicrhau gwaith teg, hyrwyddo arloesedd, datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol, a meithrin seilwaith trafnidiaeth a digidol cryf. Yn ogystal, mae’n chwarae rôl fawr mewn creu system fwyd gadarn a chryfhau’r cadwyni cyflenwi lleol, sy’n allweddol i gefnogi economi ac amgylchedd Cymru.

Mae Busnes Cymru, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr economi sylfaenol, yn darparu cymorth penodol i’r sector i helpu busnesau ragori yn y meysydd hyn. Mae ein mentrau yn cynnwys meithrin cadwyni bwyd lleol drwy ddigwyddiadau “Cwrdd â’r Prynwyr”, gan gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a chefnogi trefniadau cyflenwi bwyd o fewn y sector cyhoeddus i gynyddu faint o fwyd cynaliadwy o Gymru sy’n cael ei weini. Drwy gymryd rhan, caiff eich busnes fynediad at adnoddau wedi’u teilwra i helpu i wneud yn fawr o’ch gallu i gynnig am gontractau sector cyhoeddus a'u hennill, cynyddu eich sylfaen cwsmeriaid a chael effaith gadarnhaol ar economi Cymru.



Sylwer: Mae Digwyddiadur Busnes Cymru yn hyrwyddo digwyddiadau gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys ein gwasanaethau ni'n hunain. Efallai na fydd manylion ar gyfer digwyddiadau trydydd parti dan arweiniad sefydliadau preifat neu drydydd sector ar gael yn y Gymraeg.
Er mwyn cysylltu ffynonellau newydd o ynni adnewyddadwy...
Bydd Busnes Cymru yn cyflwyno gweminar tendro penodol...
Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg gyda gwasanaethau...
Bwriad y weminar yw eich helpu gyda’ch taith...
Gweld pob digwyddiad

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.