BOSS
Gallwch wella eich sgiliau heddiw wrth cwblhau'r cwrs Marchnata’ch busnes newydd
Mae marchnata yn allweddol i unrhyw fusnes, mae’n helpu i aros ar y blaen i’r gystadleuaeth ac yn eich galluogi i hyrwyddo eich busnes i’r farchnad, gan ei gwneud yn haws i gwsmeriaid brynu a chynyddu gwerthiant.
Yn syml, marchnata yw gwneud yn siŵr bod y bobl iawn yn gwybod beth sy' gennych chi i'w gynnig, eu denu nhw atoch chi ac wedyn eu cael nhw i brynu. Marchnata yw'r ffordd o gael cwsmeriaid ac mae marchnata effeithiol yn rhoi'r cwsmer yng nghanol eich busnes.
Mae marchnata'n rhoi set bwerus o arfau ichi, ac o'u cyfuno'n iawn ar gyfer eich busnes, a chynllunio'n iawn, mae’n gyrru llif cyson o gwsmeriaid yn syth at stepen eich drws. Adnoddau Marchnata
Gallwch wella eich sgiliau heddiw wrth cwblhau'r cwrs Marchnata’ch busnes newydd