Mae Busnes Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddarparu cymorth busnes i unigolion, busnesau presennol a chwmnïau cadwyn gyflenwi y mae proses bontio Tata Steel wedi effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys pecyn o gyngor ac arweiniad busnes i'ch helpu i baratoi eich achos busnes am gymorth ariannol drwy Gronfeydd Pontio Tata Steel a ariennir gan Lywodraeth y DU.
Mae Busnes Cymru ar gael i gynnig cyngor a chanllawiau busnes i drafod yr heriau rydych yn eu hwynebu a'r cyfleoedd i adeiladu eich gwydnwch, cryfhau'r busnes a chael mynediad at gyllid.
Ewch i Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel i gael manylion llawn yr holl gymorth a chefnogaeth i bobl a busnesau y mae'r newidiadau yn Tata Steel UK yn effeithio arnynt. Dilynwch y ddolen hon: Hwb Gwybodaeth Pontio Dur Tata - Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae cronfeydd Pontio Tata Steel, a gaiff eu rheoli gan gyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi'u hatal rhag derbyn ymholiadau newydd.
Hunangyflogaeth a dechrau busnes
Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn wynebu diswyddiad ac eisiau dechrau eich busnes eich hun neu fod yn hunangyflogedig, hoffem glywed gennych.
P'un a oes gennych hedyn o syniad, eisoes yn masnachu'n rhan amser, neu'n barod i ddechrau eich menter eich hun, bydd Busnes Cymru yn eich helpu i gael gafael ar wybodaeth a chyngor busnes i ddatblygu eich gwybodaeth fusnes i'ch helpu i ddechrau arni.
Mae Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau Trawsnewid Tata Steel ar agor ar hyn o bryd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae’r tîm cyflogadwyedd ar gael i’ch helpu i gymryd y camau nesaf ar eich taith. Employment and Skills Fund - NPT Council Cronfa ar gyfer Cyflogaeth a Sgiliau - Cyngor CnPT
Cronfa Cydnerthedd Busnes
Nid yw’r Gronfa Cydnerthedd Busnes ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ymholiadau newydd tra bod ceisiadau yn cael eu hadolygu.
Os ydych yn profi dirywiad yn eich busnes ac hoffech gefnogaeth i ddatblygu ffrydiau incwm newydd, ystyried effaith ar gyflogaeth neu archwilio mynediad at gyllid arall, cofrestrwch gyda Busnes Cymru, drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cronfa Cadwyn Gyflenwi
Nid yw’r Gronfa Pontio’r Gadwyn Gyflenwi ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ymholiadau newydd tra bod ceisiadau yn cael eu hadolygu.
Os ydych yn profi dirywiad yn eich busnes ac yn dymuno datblygu cynlluniau i droi at farchnadoedd neu gwsmeriaid newydd, neu archwilio mynediad at gyllid arall, cofrestrwch gyda Busnes Cymru, drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cronfa Tyfu Busnes
Nid yw’r Gronfa Tyfu Busnes ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ymholiadau newydd tra bod ceisiadau yn cael eu hadolygu.
Os ydych chi'n edrych i ehangu eich busnes trwy dwf cyflogaeth neu drwy archwilio cyfleoedd marchnad newydd, gall Busnes Cymru roi cyngor ar eich strategaeth twf ac archwilio mynediad at gyllid arall. Cofrestrwch gyda Busnes Cymru, drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.