
Mae llywodraeth y DU yn chwilio am farn a thystiolaeth a fydd yn caniatáu i'r llywodraeth asesu gweithrediad y Cod Tafarndai a pherfformiad y Dyfarnwr Cod Tafarndai (PCA).
Darparodd Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 ar gyfer sefydlu'r Cod Tafarndai er mwyn rheoleiddio'r berthynas rhwng busnesau mawr sy'n berchen ar dafarndai a'u tenantiaid cysylltiedig yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adolygu:
- gweithrediad y Cod Tafarndai
- perfformiad y Dyfarnwr Cod Tafarndai (PCA)
- y rheoliadau sy'n pennu costau, ffioedd a chosbau ariannol y PCA
Fel rhan o'r adolygiad, gwahoddir barn a thystiolaeth ychwanegol gan randdeiliaid i helpu i lywio casgliadau'r adolygiad.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am 11:59pm ar 14 Awst 2025.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Statutory review of Pubs Code and Pubs Code Adjudicator 2022 to 2025 - GOV.UK a Qualtrics Survey | Qualtrics Experience Management.