
Ymunwch â gweithdy ar-lein awr rhad ac am ddim, a gynhelir gan Piws, a chymerwch y cam nesaf ar eich taith hygyrchedd.
Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio i roi offer ymarferol i chi, ysbrydoli meddwl newydd, a helpu i wneud eich lleoliadau’n fwy croesawgar i unigolion anabl. Mae'r pynciau i'w trafod yn cynnwys egwyddorion hygyrchedd allweddol, amlinellu eich cyfrifoldebau cyfreithiol, a rhannu camau gweithredol syml, effeithiol y gallwch eu gweithredu ar unwaith.
Cynhelir sesiynau trwy gydol mis Mai, Mehefin a Gorffennaf 2025, mae’r llefydd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru'n gynnar i sicrhau’r dyddiad sydd orau i chi.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad sydd am greu profiadau mwy cynhwysol? - Piws