Newyddion

Y Senedd yn pasio deddfwriaeth i gefnogi dyfodol twristiaeth yng Nghymru

Tourism hotels

Heddiw (8 Gorffennaf, 2025), mae'r Senedd wedi pleidleisio i roi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll fach ar gyfer ymwelwyr sy'n aros dros nos i godi cyllid hanfodol a'i ailfuddsoddi mewn twristiaeth leol.

Mae'r gyfraith nodedig – Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) – yn sefydlu'r dreth leol gyntaf i gael ei chynllunio, a'i deddfu ar ei chyfer, yng Nghymru.

Bellach, bydd gan gynghorau'r opsiwn i gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos, a fydd yn codi arian y gellir ei ailfuddsoddi mewn treuliau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth – fel gwella toiledau, llwybrau troed, traethau, canolfannau ymwelwyr a gweithgareddau.

Ymhlith prif elfennau'r Bil mae:

  • Rhoi dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ond dim ond ar ôl ymgynghori â'u cymunedau lleol.
  • Sicrhau bod yr holl arian a godir yn cael ei gadw a'i ailfuddsoddi yn yr ardal leol i gefnogi twristiaeth.
  • Mae'r ardoll wedi'i phennu ar 75c y pen y noson i oedolion sy'n aros mewn hosteli ac ar gaeau gwersylla, ac ar £1.30 y pen y noson ar gyfer yr holl ymwelwyr sy'n aros mewn mathau eraill o lety.
  • Mae pobl ifanc dan 18 oed wedi'u hesemptio rhag talu'r ardoll pan fyddant yn aros mewn hosteli neu ar gaeau gwersylla.
  • Mae 2027 wedi'i nodi fel y dyddiad cynharaf posibl ar gyfer cyflwyno.

Mae'r Bil hefyd yn cyflwyno cofrestr statudol genedlaethol ar gyfer yr holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru. Bydd cofrestru yn rhad ac am ddim a bydd y gofrestr yn darparu data a gwybodaeth werthfawr am faint a graddfa'r sector ledled Cymru.

Bydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi yn barhaus a gwneud penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth. Yn ogystal â hyn, bydd yn sicrhau bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth well o sut y caiff eiddo yn eu hardaloedd ei ddefnyddio.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n helaeth mewn twristiaeth, gan gynnwys lansio Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru sy'n werth £50 miliwn a neilltuo cyllid ar gyfer grantiau gwrthsefyll tywydd. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Y Senedd yn pasio deddfwriaeth i gefnogi dyfodol twristiaeth yng Nghymru | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.