
Mae prosiect sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn anelu at ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau llif lanw, gyda'r potensial i drawsnewid y diwydiant ynni'r llanw.
Bydd Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Mrychdyn, yn ymuno â Menter Môn a thîm Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE) Cymru i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a pherfformiad cyffredinol llafnau ynni llanw.
Mae'r prosiect yn un o bump i dderbyn cyfran o £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r rhaglen VInnovate, sy'n cael ei rhedeg gan Fenter Vanguard (VI) i hyrwyddo arloesedd cydweithredol ar draws rhanbarthau diwydiannol yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar fentrau bach a chanolig (BBaChau).
Derbyniodd mwy o brosiectau o Gymru gyllid yn y gyfran ariannu VInnovate 2024 nag unrhyw ranbarth arall.
Mae busnesau bach a chanolig Cymru bellach yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid VInnovate 2025.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Y genhedlaeth nesaf o lafnau tyrbinau ffrwd lanw i'w datblygu yng Nghymru | LLYW.CYMRU