Newyddion

Y Comisiynydd Gwybodaeth yn ymrwymo i gefnogi busnesau trwy hyrwyddo arloesedd a thwf economaidd

London financial district - upward view

Ym mis Mawrth, cyfarfu John Edwards, Comisiynydd Gwybodaeth y DU, â'r Canghellor i nodi nifer o ymrwymiadau a gynlluniwyd i hyrwyddo arloesedd a thwf economaidd. Amlinellodd hefyd sut mae ei ddyletswyddau o ran creu twf yn cysylltu a chydblethu â'i gyfrifoldeb canolog i amddiffyn a grymuso pobl.

Mae twf yn flaenoriaeth strategol i'r ICO (Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth), a thros gyfnod o bum mlynedd mae'n amcangyfrif bod ei weithgareddau wedi galluogi hyd at £140 miliwn o ran gwerth i fusnesau'r DU.

Mae ymrwymiadau'r ICO yn cynnwys:

  • Helpu busnesau bach a chanolig i dorri costau. Yn ganolog i hyn mae'r rhaglen hyfforddi a sicrwydd Hanfodion Data, a fydd yn helpu sefydliadau i ddefnyddio data cwsmeriaid yn hyderus ac yn gyfrifol er mwyn tyfu eu busnes gan gryfhau ymddiriedaeth eu cwsmeriaid yr un pryd. Ei nod yw helpu busnesau i arbed o leiaf £9.1m dros dair blynedd. Bydd y rhaglen hefyd ar gael yn ddwyieithog i gefnogi'r gymuned fusnes Gymraeg;
  • Treialu cyfundrefn arbrofi i alluogi busnesau i dreialu atebion newydd arloesol sy'n seiliedig ar ddata. O dan oruchwyliaeth drylwyr, bydd busnesau, am gyfnod cyfyngedig, yn gallu profi eu syniadau heb orfod cadw at ofynion diogelu data penodol;
  • Cyflwyno cod ymarfer statudol ar gyfer busnesau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus sy'n datblygu neu ddefnyddio AI, gan ganiatáu iddynt ryddhau posibiliadau'r dechnoleg a diogelu preifatrwydd y cyhoedd yr un pryd - a chryfhau sefyllfa'r DU fel arweinydd AI byd-eang; 
  • Lleihau biwrocratiaeth i fusnesau drwy edrych ar ble mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn gosod rhwystrau a pharatoi'r ffordd ar gyfer hysbysebu ar-lein sy'n diogelu preifatrwydd yn well; a
  • Cyhoeddi canllawiau newydd ar drosglwyddiadau data rhyngwladol, sy'n sail i tua 40 y cant o allforion y DU ac 20 y cant o fewnforion – a'i gwneud hi'n haws i fusnesau'r DU gael mynediad at farchnadoedd a phartneriaid newydd.

Yn ogystal, mae llu o ganllawiau i fusnesau bach ar gael ar wefan ICO, gan gynnwys canllawiau ar gadw systemau TG yn ddiogel, ymdrin â chwynion diogelu data ac offeryn i helpu busnesau i gynhyrchu eu hysbysiad preifatrwydd eu hunain. Gall busnesau Cymru hefyd gysylltu â thîm Materion Cymreig ICO yn wales@ico.org.uk i gael cyngor.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.