Newyddion

Trwyddedu Cerddoriaeth ar gyfer Busnesau

Hairdresser and client

Os ydych chi'n defnyddio, yn chwarae neu’n perfformio cerddoriaeth yn eich busnes neu sefydliad, mae'n debygol y bydd angen trwydded gerddoriaeth arnoch.

Yn flaenorol, roedd yn rhaid i fusnesau a sefydliadau gael trwyddedau cerddoriaeth ar wahân gan PPL (Phonographic Performance Limited) a PRS (Performing Rights Society) ar gyfer cerddoriaeth. Fodd bynnag, mae PPL a PRS bellach wedi dod at ei gilydd i ffurfio PPL PRS Ltd a lansio TheMusicLicence.

O dan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, mae angen caniatâd gan y deiliaid hawlfraint perthnasol – y bobl hynny sy'n creu cerddoriaeth – er mwyn chwarae neu berfformio cerddoriaeth yn gyhoeddus.

Mae cael TheMusicLicence yn rhoi'r caniatâd hwn i chi, mewn perthynas â'r mwyafrif helaeth o gerddoriaeth sydd ar gael yn fasnachol. Mae hyn yn amrywio o artistiaid a chyfansoddwyr ar lawr gwlad ac annibynnol hyd at yr enwau mwyaf yn y busnes.

Mae TheMusicLicence yn caniatáu ichi chwarae cerddoriaeth yn gyfreithlon ar gyfer gweithwyr neu gwsmeriaid yn eich busnes trwy'r radio, teledu, dyfeisiau digidol eraill a pherfformiadau byw.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: PPL PRS | TheMusicLicence | The UK's public music licensing company.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.