Newyddion

Sinema Cymru: rownd cyllido newydd i hybu ffilmiau Cymraeg

close up of camera and film crew

Yn dilyn ei llwyddiant llynedd, mae ail rownd gyllido wedi agor i helpu ffilmiau hir Cymraeg sydd â photensial yn rhyngwladol ac ar y sgrin fawr.

Mae Sinema Cymru, menter gydweithredol rhwng S4C, Ffilm Cymru Wales a Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, wedi cyhoeddi ail rownd o gyllid gyda'r nod o ddatblygu sawl ffilm nodwedd Cymraeg y flwyddyn gyda'r bwriad y bydd o leiaf un o'r ffilmiau hynny'n cael ei datblygu ar gyfer cyllid cynhyrchu.

Bydd y gronfa eleni hefyd yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau talentog gyda photensial uchel yn gynt yn y broses er mwyn sicrhau dyfodol cyffrous i gynhyrchu ffilmiau nodwedd Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r ail rownd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau gan wneuthurwyr ffilmiau profiadol o bob cwr o Gymru.

Mae'r Gronfa, sy'n cael ei gweinyddu gan Ffilm Cymru Wales, yn neilltuo hyd at £30,000 ar gyfer prosiectau unigol sydd â'r potensial i fod yn barod i'w cynhyrchu o fewn 12 mis ar ôl dechrau'r cyfnod datblygu, gyda dyfarniadau llai o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau mewn camau cynharach. 

Nod Sinema Cymru yw rhoi ffilmiau Cymraeg ar y map drwy gyflymu'r broses o greu ffilmiau annibynnol mentrus ac anghonfensiynol, ac a allai gael eu rhyddhau i sinemâu rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn darparu cyllid, a chymorth datblygu gyrfa hefyd i dimau creadigol, gan gynnig cynlluniau datblygu pwrpasol ynghyd â chyllid ar gyfer prosiectau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw dydd Llun 16 Mehefin 2025. I wneud cais ewch i Sinema Cymru.

Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.