Newyddion

Sbandunwr Sylfaenwyr Du Barclays

Presentation given by female entrepreneur

Mae Barclays wedi partneru â Foundervine i gynnal Sbardunwr Sylfaenwyr Du Barclays, rhaglen sydd wedi'i chynllunio'n arbennig i hyrwyddo amrywiaeth mewn entrepreneuriaeth ac arddangos busnesau sy’n cael eu harwain gan Sylfaenwyr Du.

Mae'r rhaglen yn cynnwys:

  • Cyfres o 12 dosbarth meistr strategaeth fusnes dan arweiniad arbenigwyr, sy'n canolbwyntio ar bynciau fel diffinio eich cynnig gwerth, recriwtio talent, strategaeth werthu, marchnata, eiddo deallusol a llawer mwy - pob un wedi’i gynllunio i osod eich busnes ar ben y ffordd tuag at lwyddiant.
  • Mentora a hyfforddi gan arbenigwyr ar gwmnïau sy’n tyfu, o’r radd flaenaf.
  • Mynediad at ddigwyddiadau busnes a rhwydweithio.
  • Hyrwyddwyr a mentoriaid Barclays penodedig.
  • Y cyfle i arddangos eich busnes i gleientiaid a buddsoddwyr posibl mewn arddangosfa sylfaenwyr ar ddiwedd y rhaglen.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Mai 2025.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Barclays Black Founder Accelerator | Barclays Eagle Labs


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.