
Bydd offeryn chwilio ar-lein newydd ar gyfer patentau’r DU yn ei gwneud hi’n haws i fusnesau ac arloeswyr chwilio a chael mynediad at wybodaeth am batentau.
Mae One IPO Search, a ddatblygwyd gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), yn disodli’r gwasanaeth Ipsum blaenorol, sydd wedi gwasanaethu arloeswyr y DU yn dda ers 13 mlynedd – gan ymdrin ag oddeutu 200, 000 o chwiliadau patent yn y 12 mis diwethaf yn unig.
Mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig nodweddion gwell i helpu gweithwyr proffesiynol Eiddo Deallusol a’r cyhoedd i chwilio am batentau’r DU yn haws. Mae’n cynrychioli ‘naid cenhedlaeth’ a fydd yn trawsnewid sut y gall cwsmeriaid chwilio am batentau a’u darganfod, gan agor data’r IPO i holl ddinasyddion y DU.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth: Teitl y dudalen: Offeryn chwilio patent newydd i hybu arloesedd yn y DU - GOV.UK
Gall arloesi helpu eich busnes i ddod yn fwy cystadleuol, gall roi hwb i’w werthiant a’i helpu i sicrhau marchnadoedd newydd.
Mae ein parth busnes ac arloesi wedi'i gynllunio fel y gallwch chi ddarganfod pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi. Gallwn eich helpu i fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu (R&D), cyflwyno technegau a thechnolegau newydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu, diogelu eich asedau drwy hawliau eiddo deallusol (IP), a chael mynediad at gyfleusterau ac arbenigedd mewn prifysgolion a cholegau.