Newyddion

Newyddion Llywodraeth Cymru

family looking at a lighthouse

Darllenwch y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Senedd i bleidleisio ar ddeddfwriaeth i gefnogi twristiaeth

Mae’r Bil i gyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn cyrraedd cyfnod tri yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2025).

Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cynnig y bydd pobl sy'n aros dros nos yng Nghymru ac yn mwynhau popeth sydd gan y wlad i'w gynnig yn talu tâl bach. Bydd yr holl arian a godir yn cefnogi gweithgarwch twristiaeth a seilwaith lleol.

Miloedd yn fwy o swyddi, diolch i dwf mewn buddsoddiad o dramor yng Nghymru

Cynyddodd buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru yn sylweddol y llynedd, gan arwain at gynnydd mawr yn nifer y prosiectau a sicrhawyd a’r swyddi a grëwyd, yn ôl ffigurau newydd: 

Diwygiadau cynllunio i gyflymu penderfyniadau seilwaith a chreu swyddi

Mae diwygiadau wedi’u datgelu sy'n anelu at sicrhau mai Cymru fydd y wlad gyflymaf yn y DU am benderfynu ar geisiadau cynllunio, creu swyddi newydd a sbarduno twf economaidd.

Corff cenedlaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

Mae corff cenedlaethol newydd yn mynd i gael ei sefydlu i gryfhau'r sector gwaith ieuenctid, cefnogi arloesedd a chydweithredu a sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.